Cyflwyniad
Ydych chi'n credu y byddwch chi'n gallu:
- Ymdopi â phobl sy'n dioddef â sgitsoffrenia, iselder neu ryw
fath o anhwylder obsesiynol/cymhellol?
- Osgoi barnu pobl sydd mewn helynt - boed helynt mae tyb eu bod
wedi'i ddwyn arnyn nhw eu hunain neu beidio?
- Bod yn bwyllog o dan bwysau?
- Cynnig cysur i rywun, yn ogystal â chymorth, trwy wrando arno a
bod yn gefn iddo?
Os felly, efallai mai gweithiwr cymorth yw'r swydd ddelfrydol i
chi. Gallech chi wella byd pobl trwy eu helpu i fod yn
annibynnol yn y gymuned i ryw raddau. Mae enwau eraill ar
swyddi o'r fath megis gweithiwr cymorth cymunedol, gweithiwr
cymorth gofal gartref a gweithiwr cymorth iechyd y meddwl yn ôl
adran gwasanaethau cymdeithasol (neu waith cymdeithasol yn yr
Alban) y cyngor lle maen nhw'n gweithio. Eu rôl nhw yw helpu
pobl ac arnyn nhw afiechyd y meddwl neu anableddau dysgu i ddatrys
rhai problemau beunyddiol. Mae gweithwyr cymorth yn annog ac
yn cynorthwyo pobl a hoffai fyw'n annibynnol.
Amgylchiadau'r gwaith
Mae rhai gweithwyr cymorth yn gweithio mewn cartrefi preswyl gyda
phreswylwyr tymor hir neu dymor byr. Mae eraill yn cynnig
gwasanaeth cymorth yn y gymuned i'r rhai sy'n byw mewn tai
cymorthedig. Gall eu gwaith gynnwys siopa gyda chlientiaid,
mynychu gweithgareddau cymunedol gyda nhw neu gadw cwmni iddyn nhw
gartref. Fel arfer, bydd gan weithiwr cymorth nifer o
glientiaid mae'n eu hadnabod yn dda ac, ar ben hynny, bydd yn
mynychu hyfforddiant a chyfarfodydd gyda'r gweithwyr eraill.
Gall yr oriau amrywio a bod yn hyblyg gan gynnwys gweithio gyda'r
nos a thros y Sul a chysgu yn y gweithle (i roi cymorth pe bai
argyfwng). Fe allai gweithiwr cymorth weithio yn ôl
cylchrestr neu drefn tyrnau i ofalu bod gwasanaeth ar gael i
glientiaid drwy'r amser.
Gweithgareddau beunyddiol
Bydd pob diwrnod yn wahanol. Fel arfer, bydd eisiau ymweld
ag amryw glientiaid i gynnig cymorth megis eu helpu i lanhau neu
addurno eu cartrefi, mynd gyda nhw i weld fflat neu siopa drostyn
nhw. Dim ond cyfle i fwrw ei fol y bydd ei eisiau ar rai
clientiaid. Mae sawl client yn ei chael yn anodd cyflawni
gorchwylion sy'n hawdd i'r rhan fwyaf ohonon ni. Mae angen
gweithwyr cymorth arnyn nhw i wneud pethau sylfaenol megis
defnyddio peiriant golchi dillad, glanhau ystafell, paratoi rhestr
siopa, ffonio rhywun, trin a thrafod arian neu goginio. At
hynny, gallai fod angen cymorth arnyn nhw i ymgofrestru mewn
meddygfa, archebu moddion neu gyflawni cais am grant megis Lwfans
Byw i'r Anabl. Yn aml, cyn gallu byw'n gwbl annibynnol, bydd
clientiaid am wybod bod rhywun ar gael iddyn nhw pe bai
problem. Efallai y bydd gweithiwr cymorth mewn cartref
preswyl yn cynnal sesiynau weithiau lle bydd rhai clientiaid yn
trafod materion sy'n berthnasol iddyn nhw.
Yn ystod y dydd, gallai fod angen llenwi ffurflenni ar ran
clientiaid, codi nodiadau am achos neu gofnodi
digwyddiadau/galwadau. Weithiau, bydd gweithwyr cymorth yn
mynd allan gyda chlientiaid mewn bws bach i leiniau garddio lle mae
pobl yn dysgu sut mae magu eu cynnyrch eu hunain, er enghraifft,
neu i gyfleusterau chwaraeon. Mae gweithwyr cymorth yn
cydweithio â nyrsiau seiciatreg, gweithwyr cymdeithasol,
seiciatryddion a seicolegwyr i ofalu bod y gofal a'r cymorth gorau
ar gael i glientiaid.
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhinweddau angenrheidiol:
- diddordeb mewn pobl;
- gallu cydymdeimlo â phobl anghenus;
- osgoi barnu pobl;
- rhagweithredol;
- amyneddgar a goddefgar;
- cyfathrebu'n dda.
Mae eisiau trwydded yrru ddi-farc, hefyd.
Meini prawf ymgeisio
Does dim meini prawf penodol er y byddai CGCC 'Iechyd a Gofal
Cymdeithasol' o fantais. Mae rhifedd a llythrennedd yn
hanfodol, a gallai profiad o weithio gyda phobl ym maes
gofal/cymorth cymdeithasol fod o fantais. Gallai rhai
cynghorau gynnig cyfle i astudio modiwlau ar gyfer cymhwyster megis
CGC/CGY ym maes gofal (e.e. Tystysgrif 'Iechyd y Meddwl').
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gan fod gofal yn y gymuned ar gynnydd, mae'n debygol y bydd mwy a
mwy o alw am weithwyr cymorth. Gall gweithiwr cymorth
profiadol gael ei ddyrchafu'n uwch weithiwr cymorth neu'n rheolwr
cynorthwyol.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Prif Gyngor Gofal Cymdeithasol: www.gscc.org.uk
Cyngor Gofal Cymru: www.ccwales.org.uk
Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban: www.sssc.uk.com
Cymdeithas Gofal Cymdeithasol: www.socialcareassociation.co.uk
Sgiliau ar gyfer Gofal www.skillsforcare.org.uk/home/home.aspx
Gwirfoddolwyr Gwasanaethau Cymunedol: www.csv.org.uk/socialhealthcare
Iechyd a Phroffesiynau Gofal Cyngor www.hpc-uk.org/
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.