Amodau a thelerau

Oni ddywedir fel arall, ni neu'n trwyddedwyr piau hawliau eiddo deallusol y wefan a'i chynnwys.  Yn amodol ar y drwydded isod, rydyn ni'n cadw hawliau'r eiddo deallusol i gyd.

Chewch chi ddim defnyddio ein gwefan ni mewn unrhyw ffordd allai ei niweidio neu amharu ar y modd mae ar gael.  Chewch chi ddim ei defnyddio mewn unrhyw ffordd anghyfreithlon, twyllodrus neu niweidiol.  Chewch chi ddim ei defnyddio ynglŷn ag unrhyw ddiben neu weithgaredd anghyfreithlon, twyllodrus neu niweidiol, chwaith.

Chewch chi ddim defnyddio ein gwefan i gopïo, cadw, cartrefu, trosglwyddo, anfon, defnyddio, cyhoeddi neu ledaenu unrhyw ddeunydd sy'n cynnwys meddalwedd sbïo, firysau cyfrifiadurol, meddalwedd gudd (Trojan), llyngyr, cofnodwr bysellfwrdd, archwiliwr gwreiddyn nac unrhyw feddalwedd ddrwg arall.

Chewch chi ddim cynnal unrhyw weithgareddau trefnus neu awtomatig ar gyfer hel data (gan gynnwys - heb derfynau - crafu, cloddi data, tynnu data a medi data) ar ein gwefan neu ynglŷn â'n gwefan ni heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol.