Gweithiwr materion camddefnyddio cyffuriau

Cyflwyniad
Mae anghenion cymhleth ar bobl ifanc sy'n camddefnyddio cyffuriau a'r ddiod gadarn, ac mae'n anodd ymdrin â nhw.  Mae'r swydd hon yn ymwneud â chynnig gwasanaeth arbenigol i blant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n hysbys i amryw asiantaethau achos eu bod nhw'n ymwneud â chyffuriau.  Mae gweithwyr materion camddefnyddio cyffuriau yn atebol i reolwr y tîm dros faterion pobl ifanc.  Mae'r swydd hon mewn awdurdodau o bob math ar wahân i'r cynghorau dosbarth.

Amgylchiadau'r gwaith
Byddwch chi'n gweithio mewn swyddfeydd a nifer o leoedd allgymorth, canolfannau, ysgolion a chartrefi.  Byddwch chi'n wynebu sefyllfa anodd ar adegau am y gallai rhai clientiaid fod yn ymosodol a gwrthod cydweithredu.  37 awr yw'r wythnos safonol, a rhaid gweithio shifftiau anghymdeithasol weithiau.

Gweithgareddau beunyddiol
Dyma orchwyl sy'n berthnasol i holl adran y gwasanaethau cymdeithasol yn ogystal ag asiantaethau eraill.  Bydd staff materion camddefnyddio cyffuriau'n cydweithio'n agos ag uwch swyddogion yn y timau canlynol:

  • rheolwr materion pobl ifanc;
  • rheolwr prosiect yr allgymorth;
  • gweithwyr cymdeithasol dros faterion plant a theuluoedd;
  • gweithwyr cymorth cymunedol dros faterion plant a theuluoedd;
  • mudiadau gweithredu ynglŷn â chyffuriau;
  • gwasanaethau ar gyfer troseddwyr ifanc.

Efallai y bydd perthynas â'r canlynol, hefyd:

  • comisiynydd yr heddlu;
  • awdurdod addysg ac ysgolion yr ardal;
  • byrddau iechyd;
  • adran materion tai'r cyngor.

Dyma ddyletswyddau arferol gweithiwr materion camddefnyddio cyffuriau:

  • llunio a chymryd camau adeiladol gyda grwpiau ac unigolion;
  • cydweithio'n agos â staff asiantaethau eraill ynglŷn â materion cyffuriau;
  • helpu i roi hyfforddiant a chynghorion am gyffuriau/alcohol;
  • nodi'r rhai sydd mewn perygl cyn gynted ag y bo modd a cheisio osgoi rhagor o broblemau;
  • diwallu anghenion unigol penodol;
  • ysgwyddo cyfrifoldeb am drin a thrafod hyn a hyn o achosion;
  • gweithio gyda grwpiau bychain o blant mae'u rhieni'n camddefnyddio cyffuriau a cheisio dyfeisio atebion ar y cyd;
  • rhoi gwybodaeth a chymorth i rieni a chynhalwyr clientiaid;
  • monitro cynnydd rhaglenni cymorth;
  • cadw cofnodion, adroddiadau a gohebiaeth ynglŷn â'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaeth;
  • cadw at gyfrinachedd;
  • cadw golwg ar y deddfau, yr ymchwil a'r arferion diweddaraf am bobl ifanc a chamddefnyddio cyffuriau.

Medrau a diddordebau
Mae angen y canlynol:

  • deall effeithiau corfforol, seicolegol a chymdeithasol camddefnyddio cyffuriau a hanfod datblygiad plant a'r glasoed;
  • gwybod Deddf 'Plant' 1989;
  • medrau cyfathrebu da - ar lafar ac ar bapur fel ei gilydd;
  • gallu adnabod sefyllfaoedd peryglus lle gallai rhywun ei niweidio ei hun neu bobl eraill;
  • natur aeddfed, cytbwys a sefydlog;
  • agwedd dringar.

Byddai'n ddefnyddiol gwybod am wahanol ffyrdd o drin a thrafod pobl sy'n gaeth i gyffuriau ac alcohol hefyd megis cyfweliadau ysgogol, camau byrion a phenodol, diwenwyno a moddion amgen na chyffuriau.

Meini prawf derbyn
Mae Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol 'Gofal Cymdeithasol' (lefel 3) neu gymhwyster cyfwerth yn hanfodol.  Fe fyddai lefel 4 a chymhwyster proffesiynol perthnasol yn well.  At hynny, mae angen dwy flynedd o brofiad o weithio mewn asiantaeth statudol neu wirfoddol gyda phobl ifanc a pheth profiad o gydweithio â staff gwahanol asiantaethau a chyflawni gwaith ynglŷn â chamddefnyddio cyffuriau.  Fe fyddai profiad o weithio gyda theuluoedd a rhoi hyfforddiant i bobl sy'n gaeth i gyffuriau o fantais, hefyd.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gan fod timau gweithredu dros faterion cyffuriau ar gynnydd mewn sawl asiantaeth, mae digon o gyfleoedd i ddatblygu gyrfa a chyflawni gwaith gwerthfawr.  Dyma faes sy'n ehangu, a bydd angen cymorth ar bobl am flynyddoedd i ddod.  Gallai unrhyw swydd yn y tîm dros faterion pobl ifanc arwain at gyfrifoldebau rheoli ychwanegol.  Ar ôl cael hyfforddiant a chymwysterau ychwanegol ym maes gwaith cymdeithasol, bydd rhagor o ddyrchafu'n bosibl.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cyngor Gofal Cymru: www.ccwales.org.uk
Gofal Cymunedol: www.communitycare.co.uk
Gwirfoddolwyr Gwasanaethau Cymunedol: www.csv.org.uk/socialhealthcare
Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal: www.hpc-uk.org
Asiantaeth Genedlaethol yr Ifainc: www.nya.org.uk
Cymdeithas Gofal Cymdeithasol: www.socialcareassociation.co.uk

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links