Rheolwr gofal i bobl ac arnyn nhw anableddau dysgu

Cyflwyniad
Ar un adeg, y dyb oedd y dylai pobl oedd yn ei chael yn anodd ymdopi â bywyd fod yn gaeth i sefydliadau megis ysgolion arbennig, ysbytai neu hostelau a fyddai'n gofalu amdanyn nhw, yn arbennig y rhai ac arnyn nhw broblemau iechyd y meddwl, problemau rydyn ni'n eu galw yn anableddau dysgu bellach.  Rydyn ni'n cydnabod erbyn hyn y dylen ni helpu pobl o'r fath i fyw'n annibynnol yn eu milltir sgwâr yn hytrach na bod o dan glo.  Egwyddor sylfaenol gofal yn y gymuned yw bod gan bawb hawl i fyw cystal ag y bo modd beth bynnag fo ei anabledd.  Mae hynny'n berthnasol i'r henoed, er enghraifft, pan fo bywyd yn anodd o achos problemau meddyliol a chorfforol fel ei gilydd.  Mae rheolwr gofal a'i staff yn gyfrifol am gymorth fydd yn diwallu anghenion pobl o bob math sydd o dan anfantais.  Dyma swydd a welwch chi ym mhob math o awdurdodau ar wahân i gynghorau dosbarth.

Amgylchiadau'r gwaith
Bydd peth gwaith yn y swyddfa ond rhaid treulio llawer o amser yn ymweld â chanolfannau gofal, cartrefi preswyl a phreifat, ysbytai, hostelau, ysgolion arbennig, canolfannau cymuned a mudiadau gwirfoddol.  Gall fod gofid a bygythiad yn y gwaith weithiau ond mae gweithwyr wedi'u hyfforddi i ymdopi â hynny.  37 awr yw'r wythnos safonol a gallai fod rhaid ichi fod ar ddyletswydd unrhyw bryd ddydd a nos yn ôl yr angen i gynnig gwasanaeth drwy'r amser.

Gweithgareddau beunyddiol
Bydd rheolwr gofal yn goruchwylio:

  • gwasanaethau preswyl lle mae pobl ac arnyn nhw anableddau dysgu yn byw yn rhai o dai'r awdurdod ac o dan sylw staff iechyd, gofal cymdeithasol a gwirfoddol drwy'r amser;
  • gwasanaethau oriau dydd megis canolfannau oriau dydd, gwasanaeth cyflogi a nifer o gwmnïau bychain;
  • gwasanaeth cymorth cymunedol i bobl sy'n byw'n annibynnol neu gyda chynhalwyr yn y gymuned;
  • timau cymunedol sy'n cynnwys nyrsys, rheolwyr gofal eraill, nyrsys dosbarth, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion ac ati - holl amrywiaeth y proffesiynolion iechyd arbenigol a'r gweithwyr gweinyddol.

Mae rheolwyr gofal yn gyfrifol am gynnal trefn dda fel y gall pobl ac arnyn nhw anableddau dysgu neu anableddau eraill fyw mewn tai arferol yn y gymuned, yn unol â'u hawl i wneud hynny, a chael cymorth i benderfynu drostyn nhw eu hunain a meithrin perthynas â phobl eraill - rhai anabl a holliach fel ei gilydd.  I'r perwyl hwnnw, rhaid rhoi gwasanaethau sydd:

  • yn diwallu anghenion unigol;
  • yn hawdd eu defnyddio;
  • ar gael yn lleol - yng nghartref, gweithle neu ganolfan gymdeithasol y client lle bo'n briodol;
  • o gymorth ynglŷn â defnyddio gwasanaethau arferol megis siopau, banciau, addysg, gwaith a chyfleusterau hamdden;
  • yn cynnig cyfle i gymryd rhan ym mywyd y fro a chyfrannu ato.

Wrth alluogi pobl ac arnyn nhw anableddau dysgu i ddefnyddio cyfleusterau a chymorth o'r fath er mwyn meithrin eu medrau a'u galluoedd, bydd rheolwr gofal yn gweithredu yn unol ag egwyddor gofal yn y gymuned, sef bod gan bobl hawl i barch ac urddas ni waeth pwy neu beth ydyn nhw.  Bydd rheolwyr gofal yn cael gafael ar arian ar gyfer cynlluniau gofal gan roi cynlluniau o'r fath ar waith, cadw llygad ar eu heffeithlonrwydd a rhoi cymorth i'r clientiaid, y teuluoedd a'r cynhalwyr er eu llwyddiant.  Yn ystod y gwaith bob dydd, byddan nhw'n cwrdd ag asiantaethau gwirfoddol a statudol ac yn rhoi gwasanaethau cwnsela a therapi i glientiaid a chynhalwyr fel y bo'n briodol.  Byddan nhw'n hybu hawliau client ynglŷn ag ymgynghori, cynrychioli ac apêl yn ôl gofynion Deddf y Bobl Anabl 1986.  Gan fod adnoddau'n brin bob amser, fodd bynnag, rhaid gwneud popeth o fewn ffiniau cyllidebol.

Medrau a diddordebau
Mae angen y canlynol:

  • medrau asesu anghenion unigol o ran gofal a chymorth;
  • medrau trin a thrafod pobl gan gynnwys deall eu hymddygiad a'u cysylltiadau;
  • medrau trafod telerau a rheoli cyllidebau;
  • gallu annog a grymuso clientiaid;
  • gallu gweithio mewn tîm aml ei arbenigedd;
  • gallu cynnal cofnodion clientiaid a llunio adroddiadau trwy dechnoleg gwybodaeth;
  • gallu gweithio gyda chlientiaid a chynhalwyr mewn modd tringar ac agored;
  • dangos eich bod yn gwybod pwysigrwydd polisi cyfleoedd cyfartal;
  • gwybod egwyddorion gofalu am gwsmeriaid o ran swyddi a gwasanaethau;
  • gwybod y deddfau, y gwasanaethau a'r adnoddau perthnasol.

Meini prawf derbyn
Mae cymhwyster ym maes gofal cymdeithasol yn hanfodol.  Er enghraifft: diploma, gradd neu dystysgrif gofal cymdeithasol; cymhwyster nyrs gofrestredig; tystysgrif gwasanaethau cymdeithasol; diploma therapi galwedigaethol; hyfforddiant ynglŷn â chwnsela neu asesu gofal ar gyfer pobl ac arnyn nhw anableddau dysgu.  Dylai fod profiad o asesu anghenion arbennig unigol, hefyd - boed weithiwr cyflogedig neu heb gyflog, yn y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.  Bydd profiad o weithio mewn fframwaith aml ei arbenigedd a gyda phobl ac arnyn nhw anableddau dysgu o fantais, hefyd.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae llwybr dyrchafu'r maes hwn yn eglur - uwch reolwr gofal, prif reolwr gofal, rheolwr gwasanaeth, cyfarwyddwr cynorthwyol, cyfarwyddwr.  Mae cyfleoedd mewn rhannau eraill o'r gwasanaethau cymdeithasol megis iechyd y meddwl, diogelu plant, gofal teuluol, maethu, mabwysiadu a phrawf.  Dyma faes ar gynnydd lle bydd y galw am weithwyr yn fwy na'r rhai sydd ar gael.  Mae'r gwaith braidd yn ymestynnol ond mae rhaglenni datblygu proffesiynol a hyfforddiant yn y swydd.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain: www.basw.co.uk
Cyngor Gofal Cymru: www.ccwales.org.uk
Gofal Cymunedol: www.communitycare.co.uk
Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymunedol: www.csv.org.uk/socialhealthcare
Cyngor Proffesiynolion Iechyd a Gofal: www.hpc-uk.org
Cymdeithas Gofal Cymdeithasol: www.socialcareassociation.co.uk

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links