Gweithiwr cymdeithasol

Cyflwyniad
Mae gwaith cymdeithasol ymhlith meysydd mwyaf cynyddol byd llywodraeth leol ac mae'n un o'r meysydd anhawsaf, hefyd.  Mae'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau er lles pobl sy'n agored i niwed er mwyn gwella eu byd.  Mae'n ymwneud â rhoi cymorth, cynghorion a gwybodaeth i helpu pobl i reoli eu bywydau eu hunain a newid er gwell.  Mae gweithwyr cymdeithasol wedi'u hyfforddi'n broffesiynol i gefnogi a helpu amrywiaeth helaeth o bobl sy'n profi anawsterau megis plant ac oedolion mae angen eu cynorthwyo neu eu diogelu; pobl ac arnyn nhw broblemau iechyd y meddwl, nam ar y synhwyrau, anableddau dysgu ac anableddau corfforol; pobl sy'n gaeth i'r ddiod gadarn neu gyffuriau; cynhalwyr.  Mae rhaid gofalu bod pobl yn cael y cymorth priodol i ddiwallu eu hanghenion ac, wrth wneud hynny, mae angen cydweithio â phroffesiynolion eraill megis meddygon, heddweision ac athrawon yn ogystal â mudiadau gwirfoddol.  Yn yr awdurdodau lleol mae'r rhan fwyaf o weithwyr cymdeithasol Cymru, er bod rhai mewn mudiadau gwirfoddol ac annibynnol.

Amgylchiadau'r gwaith
Byddwch chi'n gweithio yn swyddfeydd adran y gwasanaethau cymdeithasol fel arfer, er y gallai fod gorchwylion mewn ysbytai a chanolfannau oriau dydd.  Byddwch chi'n ymweld â llawer o glientiaid mewn sawl man yn ogystal â llunio llawer o adroddiadau a chydweithio â phroffesiynolion eraill gan gynnwys trefnu cynadleddau amlasiantaethol i drin a thrafod achosion.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae'r dyletswyddau'n amrywio.  Rhaid asesu anghenion pobl a dyfeisio ffyrdd priodol o ddatrys problemau'r rhai na allan nhw ymdopi ar eu pennau eu hunain.  Mae gweithwyr cymdeithasol yn gweithio mewn timau sy'n gyfrifol am nifer o achosion, a bydd rhaid trin a thrafod pob achos mewn modd gwahanol.  Mae'r rhan fwyaf o weithwyr cymdeithasol yn tueddu i arbenigo naill ai yn y gwasanaethau i oedolion neu'r gwasanaethau i blant.

Yn bennaf, mae'r gwasanaethau i oedolion yn ymwneud â:

  • pobl gyda phroblemau iechyd y meddwl neu anableddau dysgu mewn cartrefi gofal;
  • pobl gydag anableddau corfforol (gan eu helpu i fyw'n annibynnol);
  • troseddwyr (gan eu goruchwylio yn y gymuned a'u helpu i ddod o hyd i swyddi);
  • pobl ac arnyn nhw HIV/AIDs;
  • pobl hŷn gartref (gan eu helpu i ddatrys problemau iechyd, tai neu fudd-daliadau).

Dyma brif rolau'r gwasanaethau i oedolion:

  • amryw fathau o asesu i ddibenion gofalu a diogelu yn y gymuned yn ôl y gofynion statudol perthnasol gan nodi peryglon, anghenion a dewisiadau;
  • llunio pecynnau gofal sy'n cynnig gwerth arian gan gomisiynu amryw wasanaethau i leddfu peryglon a gwella byd y rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau a'u cynhalwyr;
  • gweithio gydag unigolion, teuluoedd, cynhalwyr a chymunedau i'w helpu i ddewis a phenderfynu'n ddoeth gan eu galluogi i esbonio a mynegi eu hanghenion a chymryd rhan ym mhroses trefnu'r gwasanaethau;
  • hwyluso'r deilliannau gorau er lles cymdeithasol a chynhwysiant i unigolion, teuluoedd, grwpiau a chymunedau;
  • cyflawni cyfrifoldebau statudol gan weithio yn ôl egwyddorion proffesiynol a moeseg a defnyddio gwybodaeth, medrau ac arferion gwaith cymdeithasol;
  • trefnu, cyflawni, adolygu a chloriannu gorchwylion gwaith cymdeithasol gyda phobl unigol, teuluoedd, grwpiau, cymunedau a phroffesiynolion eraill;
  • helpu unigolion trwy barchu eu hanghenion, eu safbwyntiau a'u hamgylchiadau;
  • asesu peryglon i unigolion, teuluoedd, grwpiau a chymunedau gan gymryd y camau priodol i'w lleddfu;
  • rheoli'ch gwaith (gyda goruchwyliaeth a chymorth) a bod yn atebol amdano;
  • adolygu arferion proffesiynol a pharhau i'w datblygu;
  • hybu ymddygiad nad yw'n ddifrïol nac yn ymosodol;
  • helpu defnyddwyr, cynhalwyr ac eiriolwyr i gymryd rhan ym mhroses trefnu'r gofal cymaint ag y bo modd fel y bydd defnyddwyr unigol wrth wraidd y broses honno;
  • gweithio ar y cyd ag asiantaethau a staff eraill i drefnu, llunio a chynnig gwasanaethau cydlynol i ddefnyddwyr a chynhalwyr;
  • trefnu a chydlynu pecynnau gofal sy'n hybu annibyniaeth ac yn galluogi defnyddwyr i gyflawni eu llawn dwf yn eu milltir sgwâr;
  • hybu'r syniad o ddiogelu pobl rhag niwed er bod rhaid parchu hawl rhywun i wynebu hyn a hyn o beryglon derbyniol yn ei fywyd bob dydd;
  • monitro a gwerthuso'r modd mae gwasanaethau'n diwallu anghenion pobl ac yn gwella eu byd (yn ôl amodau cytundebau cynnig gwasanaethau).

Dyma brif rolau'r gwasanaethau i blant:

  • cyflawni gwaith ataliol gyda theuluoedd i osgoi angen gofal neu lety;
  • gweithio gyda phlant, pobl ifanc, teuluoedd, cynhalwyr a chymunedau i'w helpu i ddewis a phenderfynu'n ddoeth gan eu galluogi i esbonio a mynegi eu hanghenion a chymryd rhan ym mhroses trefnu'r gwasanaethau;
  • cydweithio â staff eich adran, adrannau eraill ac asiantaethau allanol i hel gwybodaeth berthnasol ar gyfer gweithgareddau asesu a threfnu gofal;
  • cydweithio â staff cartrefi plant;
  • rheoli prosesau mabwysiadu a maethu plant;
  • helpu pobl ifanc sy'n gadael gofal neu'n ymwneud â throseddu;
  • helpu plant sy'n cael problemau yn yr ysgol;
  • hwyluso'r deilliannau gorau er lles cymdeithasol a chynhwysiant i unigolion, teuluoedd, grwpiau a chymunedau;
  • cyflawni cyfrifoldebau statudol gan weithio yn ôl egwyddorion proffesiynol a moeseg a defnyddio gwybodaeth, medrau ac arferion gwaith cymdeithasol;
  • trefnu, cyflawni, adolygu a chloriannu gorchwylion gwaith cymdeithasol gyda phobl unigol, teuluoedd, grwpiau, cymunedau a phroffesiynolion eraill;
  • helpu unigolion trwy barchu eu hanghenion, eu safbwyntiau a'u hamgylchiadau;
  • asesu peryglon i unigolion, teuluoedd, grwpiau a chymunedau a chymryd y camau priodol i'w lleddfu yn unol â'r fframwaith asesu gan gynnal Ymchwiliadau Adran 47 ac asesiadau dechreuol/craidd yn ogystal ag asesu trwy ymweld â chartrefi defnyddwyr;
  • rheoli'ch gwaith (gyda goruchwyliaeth a chymorth) a bod yn atebol amdano;
  • adolygu arferion proffesiynol a pharhau i'w datblygu;
  • helpu i drefnu ac adolygu achosion plant sydd o dan ofal a goruchwylio trefniadau i'w maethu neu eu mabwysiadu;
  • ymgymryd â gorchmynion asesu plant a gorchmynion amddiffyn brys;
  • hybu ymddygiad nad yw'n ddifrïol nac yn ymosodol;
  • ymchwilio i gwynion am esgeuluso neu gam-drin plant gan asesu anghenion a threfnu llety i blant neu bobl ifanc lle bo'n briodol;
  • helpu defnyddwyr, cynhalwyr ac eiriolwyr i gymryd rhan ym mhroses trefnu'r gofal cymaint ag y bo modd fel y bydd defnyddwyr unigol wrth wraidd y broses honno;
  • gweithio ar y cyd ag asiantaethau a staff eraill i drefnu, llunio a chynnig gwasanaethau cydlynol i ddefnyddwyr a chynhalwyr;
  • trefnu a chydlynu pecynnau gofal sy'n hybu annibyniaeth ac yn galluogi defnyddwyr i gyflawni eu llawn dwf yn eu milltir sgwâr;
  • hybu'r syniad o ddiogelu pobl rhag niwed er bod rhaid parchu hawl rhywun i wynebu hyn a hyn o beryglon derbyniol yn ei fywyd bob dydd;
  • monitro a gwerthuso'r modd mae gwasanaethau'n diwallu anghenion pobl ac yn gwella eu byd (yn ôl amodau cytundebau cynnig gwasanaethau);
  • cadw a diweddaru cofnodion achosion a dogfennau eraill gan lunio adroddiadau a rhoi tystiolaeth gerbron llys ynglŷn â phenderfyniadau ar ofal yn ôl yr angen;
  • mewn rhai awdurdodau, mae gweithwyr cymdeithasol arbenigol ar gyfer pobl ac arnyn nhw anableddau dysgu a phroblemau iechyd y meddwl.

Medrau a diddordebau
Dylai fod gan weithiwr cymdeithasol ddiddordeb mewn pobl o bob lliw a llun a'r gallu i gyfathrebu â nhw.  Mae medrau trefnu rhagorol yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i ymdopi â sefyllfaoedd anodd a defnyddio cyfrifiaduron i gofnodi gwybodaeth a llunio adroddiadau.  Mae angen gwybodaeth gyfoes a phrofiad o ran cydweithio ag asiantaethau ac arbenigwyr eraill yn ogystal â gwybod am rolau'r prif asiantaethau sy'n ymwneud â'r maes hwn.  Mae angen trwydded yrru hefyd, er bod gweithwyr anabl yn cael trefnu cludiant a chymorth priodol a chost-effeithiol amgen.

Meini prawf derbyn
Y cymwysterau safonol yw gradd gyntaf neu radd ddilynol mae Cyngor Gofal Cymru yn ei chydnabod ym maes gwaith cymdeithasol.  Mae'r cwrs ar gyfer y radd gyntaf yn para tair blynedd a dwy flynedd yw hyd y cwrs i ôl-raddedigion.  Mae'r cyrsiau ar gael trwy nifer o brifysgolion cymeradwy fydd yn pennu eu meini prawf eu hunain o ran derbyn myfyrwyr.  Un o'r meini prawf safonol, fodd bynnag, yw bod rhaid i bob ymgeisydd roi tystiolaeth ei fod wedi treulio 210 o oriau ym maes gofal (yn ystod y flwyddyn cyn cyflwyno'r cais, fel arfer) ynghyd â geirda.  Ar ôl derbyn ymgeisydd, fydd y brifysgol ddim mewn sefyllfa i gadarnhau lle iddo nes bod Swyddfa'r Cofnodion Troseddol wedi gwirio ei gefndir a bod cyflwr ei iechyd yn hysbys.  Y brifysgol fydd yn trefnu hynny ar ôl cyfweld yr ymgeiswyr llwyddiannus.  Mae'r cymhwyster blaenorol, Diploma Gwaith Cymdeithasol (DipSW), yn cael ei gydnabod o hyd.  I astudio ar gyfer gradd BSc ym maes gwaith cymdeithasol, mae angen o leiaf 5 TGAU gan gynnwys gradd C neu'n uwch yn Saesneg a mathemateg (neu gymhwyster cyfatebol megis rhifedd a llythrennedd yn ôl Lefel 2 Medrau Allweddol).  Er bod prifysgolion yn pennu eu meini prawf eu hunain ynglŷn â derbyn myfyrwyr, fe fydd angen 2 Safon Uwch neu gymhwyster cyfatebol (cyrsiau mynediad, diploma ac ati) yn y pynciau perthnasol megis y gyfraith, cymdeithaseg, seicoleg a gofal iechyd/cymdeithasol.  Gallai tystysgrifau TGAU a Safon Uwch mewn pynciau galwedigaethol fod yn ddefnyddiol, hefyd.  I astudio ar gyfer gradd meistr ym mhwnc gwaith cymdeithasol (dwy flynedd), fe ddylech chi fod wedi ennill eich gradd gyntaf mewn pwnc megis seicoleg, cymdeithaseg, y gyfraith neu droseddeg yn ôl lefel dderbyniol.  Mae rhagor o wybodaeth am y cymhwyster newydd gan Gyngor y Galwedigaethau Iechyd a Gofal ac Adran Iechyd San Steffan.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae modd i weithwyr cymdeithasol profiadol fod yn uwch swyddogion neu oruchwylwyr gan gyflawni rolau megis uwch weithiwr cymdeithasol neu arweinydd tîm.  Mae amryw gyfleoedd i arbenigo mewn meysydd megis addysg (gan weithio gyda phlant ac iddyn nhw hanes gwael o bresenoldeb, gan amlaf), mabwysiadu/maethu a throseddwyr ifanc hefyd.
 
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain: www.basw.co.uk
Cyngor Gofal Cymru: www.ccwales.org.uk
Gofal Cymunedol: www.communitycare.co.uk
Gwirfoddolwyr Gwasanaethau Cymunedol: www.csv.org.uk/socialhealthcare
Adran Iechyd San Steffan: www.dh.gov.uk
Cyngor y Galwedigaethau Iechyd a Gofal: www.hpc-uk.org
Asiantaeth y Cartrefi a'r Cymunedau: www.homesandcommunities.co.uk
Medrau Gofal: www.skillsforcare.org.uk
Cymdeithas y Gofal Cymdeithasol: www.socialcareassociation.co.uk

Mae'r Brifysgol Agored wedi llunio adnodd rhyngweithiol am ddiwrnod ym mywyd gweithiwr cymdeithasol: http://www.open.edu/openlearn/body-mind/social-care/social-work/try-day-the-life-social-worker

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links