Cyflwyniad
Mae gweithwyr allgymorth neu gymorth mewn timau gwasanaethau
cymunedol cyfun yn arbenigo mewn helpu pobl ac arnyn nhw broblemau
hirdymor ynglŷn ag iechyd y meddwl. Maen nhw'n eu helpu i
ymdopi â bywyd arferol yn y gymuned trwy feithrin medrau yn ôl
fframwaith ymgynghori cadarnhaol a chynllunio ar y cyd yn hytrach
na bod yn gaeth i ysbyty neu hostel.
Amgylchiadau'r gwaith
Mae'r swydd yn ymwneud â gweithio gyda chlientiaid yn eu cartrefi,
mewn mannau agored, yn wardiau'r ysbyty lleol ac mewn canolfannau
cymunedol/oriau dydd. Fe fydd rhaid trin a thrafod pobl allai
siarad yn sarhaus, byw mewn lleoedd brwnt ac amlygu sawl math arall
o ymddygiad heriol. Felly, bydd ar y gweithwyr gyfrifoldeb
cyfreithiol am iechyd a diogelwch ynglŷn â nhw eu hunain a phobl
eraill, a byddan nhw'n dilyn polisïau a gweithdrefnau staff sy'n
gweithio ar eu pennau eu hunain. Fe fydd timau'n cynnig
gwasanaethau yn y gymuned bob dydd drwy gydol y flwyddyn ac mae
disgwyl i bawb weithio tyrn fel y bydd rhywun ar gael gyda'r nos,
dros y Sul ac yn ystod gwyliau banc. 37 awr yw'r wythnos
safonol. Bydd angen aros dros nos yng nghartref client
weithiau, a gallai lwfans ychwanegol fod ar gael am hynny.
Gweithgareddau beunyddiol
Mae gweithwyr allgymorth yn rhoi cymorth ac yn lleddfu straen er
lles pobl sy'n profi anawsterau parhaus ynglŷn ag iechyd y
meddwl. Maen nhw'n atebol i uwch weithiwr allgymorth, rheolwr
gwasanaethau cynorthwyo'r gymuned neu'r swyddog dros iechyd y
meddwl yn y gymuned. Ar ben hynny, fe fyddan nhw'n rhoi'r un
fath o gymorth â'r hyn mae cynhaliwr yn ei roi sef gofal personol,
cymdeithasol a chartref, hyfforddiant a chyfleoedd i ymgysylltu â
gweithgareddau a phrofiadau ystyrlon gartref ac yn y fro.
Byddan nhw'n cydweithio'n agos â phawb sydd yn y tîm cymunedol i
alluogi clientiaid i barhau i fyw cyhyd ag y bo modd yn eu milltir
sgwâr. Y nod cyffredinol yw gwella byd pobl ac arnyn nhw
anawsterau iechyd y meddwl ac osgoi eu hanfon i'r ysbyty'n
amhriodol. Dyma orchwylion gweithiwr allgymorth bob dydd:
- mynd i gartrefi unigolion/teuluoedd penodol i gyflawni amryw
ddyletswyddau a gorchwylion yn ôl cynllun gofal sydd i'w helpu i
fyw mor annibynnol ag y bo modd - er enghraifft, mynd gyda'r client
i gasglu budd-daliad neu bensiwn;
- gwrando ar y client a'i gynhaliwr a rhoi ystyriaeth i'r hyn yr
hoffen nhw ei wneud, gan eu helpu nhw cystal ag y bo modd;
- nodi dirywio mewn clientiaid fel y bydd modd cymryd camau i'w
helpu - er enghraifft, gorchwylion gofal personol megis ymolchi a
choginio;
- monitro a goruchwylio unrhyw foddion mae meddygon wedi'u pennu
a nodi unrhyw newidiadau ynglŷn â faint sydd i'w gymryd;
- cynnig lle diogel i'r rhai mae angen eu goruchwylio a'u helpu
dros y tymor hir;
- helpu'r client i baratoi bwyd, siopa, glanhau'r tŷ a golchi
dillad;
- nodi unrhyw newidiadau o bwys yn iechyd, agwedd ac ymddygiad y
client a hel cynghorion goruchwylwyr ynglŷn â pha gamau fyddai'n
briodol;
- cynorthwyo yn ystod unrhyw weithdrefnau asesu;
- rhoi adroddiadau geiriol ac ysgrifenedig i'r uwch weithiwr
cymorth/rheolwr yn fynych a thrafod unrhyw newidiadau yn
amgylchiadau teulu'r client;
- rheoli proses cyflwyno staff allgymorth newydd.
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:
- deall materion iechyd y meddwl yn dda;
- medrau trin a thrafod pobl;
- gallu cyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac ar bapur;
- gallu cadw cofnodion ysgrifenedig priodol;
- ymwybyddiaeth o gyfrinachedd;
- gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun ac mewn tîm;
- ymwybyddiaeth o faterion iechyd a diogelwch (i chi'ch hun ac i
bobl eraill);
- natur dringar;
- gallu dilyn cyfarwyddiadau yn rhan o rhaglen ofal;
- ymwybyddiaeth o'r gyfraith ym maes cydraddoldeb.
Meini prawf derbyn
Bydd o leiaf flwyddyn o brofiad ynglŷn â gofalu am bobl ac arnyn
nhw anawsterau iechyd y meddwl yn hanfodol, yn ogystal â
pharodrwydd i gael rhagor o hyfforddiant. Yn ddelfrydol,
byddwch chi wedi ennill Cymhwyster Galwedigaethol Cyffredinol Lefel
3 'Gofal' neu'n astudio ar ei gyfer. Rhaid i Swyddfa'r
Cofnodion Troseddol wirio'ch cefndir ar gyfer y swydd hon.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Er y gallai'r gwaith fod yn anodd, mae modd cael llawer o foddhad
trwy helpu pobl ac arnyn nhw anawsterau i reoli eu bywydau'n fwy
effeithiol. Mae'r galw am staff ym maes gwaith cymdeithasol
yn fwy na'r cyflenwad ac, felly, mae sawl cyfle i gael eich
dyrchafu. Y llwybr yn y maes hwn yw rheolwr gwasanaethau
cynorthwyo cymuned, swyddog cymunedol dros iechyd y meddwl ac uwch
weithiwr allgymorth. Mae modd anelu at swyddi rheoli gofal,
hefyd. Mae gwaith allgymorth yn cynnig cyfle i weithio gyda
charfanau penodol megis y rhai sy'n gaeth i gyffuriau a'r ddiod
gadarn, y rhai sy'n chwilio am loches a'r rhai sy'n dioddef ag
HIV. Amcan arall i anelu ato yn y pen draw, o bosibl, yw
astudio ar gyfer Diploma 'Gwaith Cymdeithasol'.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cyngor Gofal Cymru: www.ccwales.org.uk
Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymunedol: www.csv.org.uk/socialhealthcare
Medrau Gofal: www.skillsforcare.org.uk
Cymdeithas Gofal Cymdeithasol: www.socialcareassociation.co.uk
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.