Beth yw llywodraeth leol?

Mae byd llywodraeth leol yn cyflawni rôl hanfodol ynglŷn â chynrychioli buddiannau dinasyddion a chynnal a chomisiynu gwasanaethau lleol.  Bydd llywodraeth y wlad yn dirprwyo pwerau i'r lefel isaf briodol i gryfhau llywodraeth leol eto fyth.  Yr awdurdodau lleol fydd yn cyflawni'r brif rôl yn hynny o beth trwy ddefnyddio'r pwerau sydd wedi'u dirprwyo iddyn nhw a dirprwyo pwerau ymhellach i fudiadau ar lawr gwlad lle bo modd.

At hynny, bydd rôl hanfodol i'r awdurdodau lleol ynglŷn â gofalu bod gwasanaethau effeithlon ar gael i'w cymunedau bob dydd, cynnig gwerth eu harian i'r trigolion a rhoi'r hyn mae pobl yn ei fynnu.  I'r perwyl hwn, bydd byd llywodraeth leol yn fwy tryloyw ac atebol i'r dinasyddion.  Bydd yn cydweithio'n agos a grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol.

A chithau'n swyddog llywodraeth leol, byddech chi'n gyfrifol am roi polisïau'r cyngor ar waith.  Byddech chi'n gofalu bod gwasanaethau lleol yn dda, hefyd.  Os ydych chi am weithio mewn swyddfa yn eich bro chi, efallai mai dyma faes perffaith i chi.
Rhaid i swyddog llywodraeth leol allu trin a thrafod pobl o sawl cefndir.  Mae angen medrau da o ran trafod telerau a threfnu gwaith, hefyd.
Bydd y medrau a'r profiad mae'u eu hangen ar bob swyddog yn amrywio yn ôl ei ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau.  Felly, dylech chi ddarllen meini prawf pob swydd yn ofalus.
 
Y gwaith
Gallech chi weithio mewn amryw adrannau a rolau megis trefnu gwasanaethau'r cyngor mewn adran bolisïau neu gynnig gwasanaethau mewn maes megis addysg neu faterion tai.  Ymhlith y swyddi ar y lefel hon mae swyddog cydraddoldeb ac amrywioldeb, swyddog ariannu allanol, swyddog polisïau a swyddog gwasanaethau democrataidd.  Byddai'ch gorchwylion beunyddiol yn amrywio yn ôl eich adran a'ch cyfrifoldebau.  Er enghraifft:

  • rheoli a chloriannu prosiectau; 
  • llunio adroddiadau a phapurau hysbysu; 
  • trin a thrafod ymholiadau a rhoi cynghorion; 
  • cyflwyno gwybodaeth mewn cyfarfodydd; 
  • goruchwylio gwaith gweinyddol a rheoli staff clercaidd; 
  • cadw cofnodion; 
  • paratoi a rheoli cytundebau; 
  • cydweithio ag asiantaethau eraill; 
  • rheoli cyllidebau ac arian.

Dolenni perthnasol