Gweithiwr ieuenctid materion cyffuriau ac alcohol

Cyflwyniad
Gwelir y defnydd o gyffuriau megis ecstasi, cocên a heroin yn broblem gymdeithasol sydd ar gynnydd.  Dyma hunllef waethaf pob rhiant - boed sefyllfa wir neu ddychmygol.  Nid dim ond pobl ifanc sy'n camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, wrth gwrs.  Mae gan rai oedolion broblemau difrifol ynglŷn â nhw, hefyd.

Yn aml, bydd gweithwyr ieuenctid yn rhan o wasanaeth ieuenctid a chymuned adran addysg yr awdurdod lleol.  Gan mai gwaith estyn braich yw hwn, gallen nhw weithio o dan adain y gwasanaethau cymdeithasol achos eu bod yn ymwneud â phobl sy'n agored i niwed.  Diben y swydd yw cynnig rhaglen addysg sy'n helpu pobl ifanc i osgoi cyffuriau.

Amgylchiadau'r gwaith
Ble bynnag y bydd pobl ifanc yn cwrdd ar gyfer cymdeithasu, megis canolfannau ieuenctid a chymuned, fe fydd angen ichi fod yno hefyd.  Fe fydd swyddi o'r fath yn rhai rhan-amser yn aml, ond 37 awr yw'r wythnos safonol fel arall.  Rhaid gweithio y tu allan i oriau'r swyddfa - gyda'r nos a thros y Sul gan amlaf.  Fydd y gweithle ddim yn un ffurfiol bob amser, a gallai'r gwaith fod yn ingol.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae gweithwyr estyn braich yn canolbwyntio ar fro benodol yn ardal yr awdurdod lleol gan feithrin cysylltiadau â phobl ifanc.  Maen nhw'n ceisio ymgysylltu â nhw yn eu milltir sgwâr i'w hatal - trwy addysg - rhag defnyddio cyffuriau niweidiol.  Ar ben hynny, byddan nhw'n helpu pobl ifanc i ddod o hyd i gymorth ar gyfer rhoi'r gorau i gyffuriau.  Mae sawl gweithiwr ieuenctid yn rhan o brosiect atal ac ymwybyddiaeth o ran cyffuriau, ac maen nhw'n atebol i gydlynydd y prosiect.  Ar ôl dod i adnabod yr ardal, bydd gweithwyr estyn braich yn meithrin cysylltiadau â chanolfannau ieuenctid ac ati.  Fe fyddan nhw'n ymuno â chlybiau chwaraeon, cwmnïau drama a gweithgareddau cyffelyb eraill i ddod i adnabod y bobl ifanc ac ennill eu hymddiried.  Wrth drin a thrafod pobl ifanc, bydd angen cyffyrddiad ysgafn ac anffurfioldeb.  Trefnir sesiynau addysg ffurfiol ac anffurfiol fel ei gilydd heb osgoi trafod materion anodd o ran camddefnyddio cyffuriau.  Er bod rôl gweithiwr estyn braich yn ymwneud ag addysg ac ymwybyddiaeth, gallan nhw drefnu sesiynau cwnsela a hysbysu am gymorth sydd ar gael i'r rhai mae ei angen arnyn nhw.  Er enghraifft, os alcohol yw'r broblem, mae modd anfon pobl i Alcoholigion Anhysbys.  Mae amryw asiantaethau ar gyfer gwahanol gyffuriau y gallai pobl ifanc fod yn gaeth iddyn nhw hefyd, gan gynnwys meddygfeydd ac ysbytai.

All gweithwyr ieuenctid ddim rhoi barn feddygol na seicolegol ond byddan nhw'n cyfeirio pobl at arbenigwyr fel y bo'n briodol.  Maen nhw'n cydweithio'n agos â gweithwyr cymdeithasol, hefyd.  Ar y cyfan, prif swyddogaeth gweithiwr ieuenctid yw meithrin cysylltiadau â'r gymuned a'r gwasanaethau i bobl ifanc.  I'r perwyl hwnnw, rhaid llunio strategaethau diwallu anghenion hysbys a hybu cynllun atal ac ymwybyddiaeth yn y fro.  Gan y gallai achosion camddefnyddio gynnwys sawl ffactor arall, bydd cysylltiadau â'r teulu'n hanfodol, hefyd.

Medrau a diddordebau

Dyma'r rhai hanfodol:

  • hyblygrwydd i ymaddasu yn ôl sefyllfa gyfnewidiol a gweithio'n effeithiol mewn nifer o sefyllfaoedd amrywiol gyda grwpiau ac unigolion;
  • gallu trefnu a chyflawni gwaith yn effeithiol;
  • gallu derbyn, deall a chyfleu gwybodaeth a syniadau'n dda ar lafar ac ar bapur fel ei gilydd;
  • iechyd a stamina da;
  • parodrwydd i weithio y tu allan i oriau arferol;
  • ymroddiad i ddatblygu proffesiynol parhaus;
  • medrau trefnu;
  • gallu nodi cryfderau pobl ifanc mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol.

O ran gwybodaeth, dylech chi ddeall y canlynol:

  • gwaith ieuenctid yn broses addysgol;
  • sut mae cyflawni gwaith ieuenctid yn ôl fframwaith cyfleoedd cyfartal;
  • materion sy'n effeithio ar fywydau pobl ifanc.

Yn y bôn, dylech chi fod yn strydgall.

Meini prawf derbyn

Gan fod modd bod yn weithiwr ieuenctid cymwysedig neu anghymwysedig yn ôl amodau amser llawn neu ran-amser, profiad sy'n bwysicaf.  Byddai disgwyl profiad fel a ganlyn:

  • gweithio gyda phobl ifanc ac oedolion mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol;
  • gweithio gyda grwpiau ac unigolion;
  • trefnu rhaglen o weithgareddau addysg gymdeithasol;
  • cyflawni gwaith ieuenctid ymhlith pobl ifanc;
  • pennu ffiniau proffesiynol eglur gyda phobl ifanc ac oedolion;
  • cydweithio â phwyllgorau.

Bydd tystysgrif ym maes gwaith ieuenctid (neu gymhwyster cyfatebol) o gymorth, hefyd.  Fel arfer, bydd angen addysg gyffredinol dda (TGAU mewn tri phwnc, o leiaf).

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae llawer o gyfleoedd ym meysydd addysg a gwaith cymdeithasol er nad oes llwybr dyrchafu eglur ar ôl ymgymhwyso ar wahân i arweinydd neu gydlynydd prosiect.  Wrth gyflawni gwaith estyn braich, bydd cyfle ichi arbenigo mewn meysydd megis iechyd y meddwl, ceiswyr lloches, HIV ac ati.  Nod y gallech chi anelu ato yn y pen draw yw diploma gwaith cymdeithasol neu swydd yn y gwasanaeth prawf.  Ym maes addysg i oedolion, mae cyfleoedd i ddysgu pobl am fedrau sylfaenol llythrennedd a rhifedd.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Alcoholigion Anhysbys: www.alcoholics-anonymous.org.uk/Professionals
Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain: www.basw.co.uk/about
Cymdeithas Cymdeithaseg Prydain: www.britsoc.co.uk
Cyngor Gofal Cymru: www.ccwales.org.uk
Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymuned: www.csv.org.uk/socialhealthcare
DrugScope www.drugscope.org.uk
Medrau er Gofal: www.skillsforcare.org.uk
Cymdeithas Gofal Cymdeithasol: www.socialcareassociation.co.uk

Efallai bod rhagor am y maes hwn yn swyddfa Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), llyfrgell eich bro neu swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links