Gweithiwr adsefydlu (nam ar y golwg)

Cyflwyniad
Mae swyddog adsefydlu'n broffesiynolyn sy'n gweithio gyda phobl a chanddyn nhw nam ar y golwg i'w helpu i fyw'n annibynnol.  Gallai hynny gynnwys unrhyw beth megis dysgu sut mae defnyddio Braille i ddarllen neu ffon hir i gerdded yn ogystal â meithrin medrau megis sut mae gwneud cwpanaid o de neu baratoi a choginio pryd o fwyd yn ddiogel.  Yn adrannau gwasanaethau cymdeithasol y cynghorau lleol mae staff adsefydlu'n gweithio.

Amgylchiadau'r gwaith
Bydd gweithiwr adsefydlu'n treulio'r rhan fwyaf o bob dydd gydag un client neu ragor - naill ai yng nghartref y client neu yn ei filltir sgwâr.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae amryw orchwylion gan gynnwys asesu anghenion clientiaid a rhoi/rheoli unrhyw wasanaethau yn ôl yr angen megis hyfforddiant defnyddio ffon a byw'n annibynnol.  Gallai rhai gweithwyr adsefydlu fod mewn tîm sy'n gyfrifol am nifer o achosion.  Fe fydd pob achos yn unigryw a bydd angen ei drin a'i drafod yn wahanol.  Yn rhan o'r gweithgareddau beunyddiol, gallai fod rhaid i weithwyr adsefydlu lunio adroddiadau a chysylltu â phroffesiynolion eraill megis arbenigwyr llygaid.

Medrau a diddordebau
Dylai gweithwyr adsefydlu allu cyfathrebu â phobl beth bynnag fo eu cefndir.  Ar ben hynny, bydd agwedd dringar at anableddau a'r gallu i ymdopi â sefyllfaoedd anodd yn hanfodol.  Bydd angen trwydded yrru fel arfer, hefyd.

Meini prawf derbyn
Diploma Addysg Uwch 'Astudiaethau Adsefydlu' yw cymhwyster proffesiynol y maes hwn.  Mae modd astudio o hirbell dros ddwy flynedd ar gyfer y ddiploma honno trwy Ysgol Astudiaethau Adsefydlu'r Sefydliad Brenhinol Cenedlaethol er y Deillion, o dan adain Prifysgol Dinas Birmingham.  I ymuno â'r cwrs, bydd angen TGAU mewn tri phwnc a'r Safon Uwch mewn dau bwnc (neu gymwysterau cyfwerth).  Gallai fod yn bosibl derbyn myfyrwyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol yn ôl eu profiad ar yr amod bod tystiolaeth y gallen nhw astudio ar gyfer cymhwyster addysg uwch.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gallai gweithiwr adsefydlu profiadol gael ei ddyrchafu'n uwch weithiwr adsefydlu yn ogystal â bod yn weithiwr goruchwyliol sy'n arwain tîm neu'n ddarlithydd ym maes astudiaethau adsefydlu, hyd yn oed.  Mae cyfleoedd i arbenigo, hefyd (er enghraifft, gweithio gyda phlant a chanddyn nhw nam ar y golwg).

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cyngor Gofal Cymru: www.ccwales.org.uk
Gofal Cymuned: www.communitycare.co.uk
Adran Cynnwys Anableddau ac Anghenion Arbennig Prifysgol Birmingham: http://www.birmingham.ac.uk/schools/education/departments/disability-inclusion-special-needs/index.aspx
Adran Iechyd San Steffan: www.dh.gov.uk
Cyngor Galwedigaethau Iechyd a Gofal: www.hpc-uk.org
Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau: www.homesandcommunities.co.uk
Sefydliad Brenhinol Cenedlaethol er y Deillion: www.rnib.org.uk
Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Prifysgol Dinas Birmingham: www.bcu.ac.uk/courses/rehabilitation-work-visual-impairment
Medrau er Gofal: www.skillsforcare.org.uk
Cymdeithas Gofal Cymdeithasol: www.socialcareassociation.co.uk
Canolfan Dysgu ac Ymchwil Prifysgol Birmingham dros Faterion Nam ar y Golwg: http://www.birmingham.ac.uk/research/activity/education/victar/index.aspx

Efallai bod rhagor am hyn ar wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links