Gweithiwr cefnogi teulu

Cyflwyniad
Mae gweithwyr cefnogi teuluoedd yn mynd i gartrefi pobl i gynnig help ymarferol a chefnogaeth emosiynol i deuluoedd sy'n dioddef o wahanol problemau.  Bydd gweithwyr cymdeithasol yn cyfeirio teuluoedd at weithwyr cefnogi teuluoedd sy'n gallu cynnig cyngor ac yn ceisio cadw teuluoedd gyda'i gilydd.  Lles y plant sy'n dod yn gyntaf i weithiwyr cefnogi teuluoedd pan fydd rhieni mewn trafferthion.  Gallai'r trafferthion hynny gynnwys cyffuriau neu alcohol, un rhiant yn yr ysbyty neu yn y carchar, trafferthion ariannol neu briodasol neu dim ond nad yw eu profiad nhw o gael eu magu'n un braf.

Amgylchedd Waith
Mae gweithwyr cefnogi teuluoedd yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn ymweld â phobl yn eu cartrefi.  Efallai y byddan nhw'n treulio ychydig o amser yn y swyddfa'n paratoi adroddiadau.

Yn aml, mae'n rhaid gweithio'n gynnar yn y bore, gyda'r nos ac ar benwythnosau gan mai dyna pryd y mae teuluoedd a phlant gyda'i gilydd.  Os yw'r plant yn yr ysgol, efallai mai dim ond yn hwyr y prynhawn neu gyda'r nos y gellir eu gweld.  Efallai y bydd yn rhaid ymweld â rhai teuluoedd y peth cyntaf yn y bore i wneud yn siŵr fod y plant yn cael eu paratoi'n iawn ar gyfer yr ysgol, wedi cael brecwast a bod ganddyn nhw ddillad glân.

Gweithgareddau Pob Dydd
Mae'r gwaith yn amrywio yn ôl anghenion y teuluoedd ac argymhellion y gweithwyr cymdeithasol.  Gofynnir i weithwyr cefnogi teuluoedd wneud 'darn o waith wedi'i gynllunio' gyda nifer o deuluoedd.  Gallai hynny olygu annog, dysgu a chefnogi rhieni gyda nifer o dasgau penodol, megis:

  • Golchi, gwisgo a bwydo plant yn ôl y gofyn gan gofio am faterion megis iechyd a hylendid. 
  • Chwarae gyda phlant - rhoi iddyn nhw'r anogaeth, y cariad a'r sylw priodol. 
  • Ymdrin â thrafferthion disgyblu ac ymddygiad.
  • Cefnogi teuluoedd lle mae gan riant neu blentyn anabledd.

Gallai gweithwyr cefnogi teuluoedd hefyd helpu rhieni i reoli eu harian yn well drwy gyllidebu.  Nid gwaith swyddog cefnogi teulu yw gwneud pethau ar ran teuluoedd ond yn hytrach dangos iddyn nhw sut y gellir gwneud pethau ac yna eu helpu nes eu bod yn gallu dygymod ar eu pen eu hunain.  Ar gyfartaledd, gellir treulio hyd at ddwy awr ddwywaith yr wythnos gyda theulu am rai misoedd, yn dibynnu ar yr hyn sydd ei angen.  Efallai y bydd rhai teuluoedd angen cefnogaeth hir dymor gydag ymweliadau llai aml.  Weithiau, os nad yw'r rhieni'n bresennol, bydd yn rhaid i'r swyddog cefnogi teulu symud i mewn i gartref y teulu ac ymddwyn fel rhiant.  Ar ôl pob ymweliad, bydd yn rhaid i'r gweithiwr cefnogi teuluoedd gofnodi'r tasgau sydd wedi'u gwneud, agwedd y rhieni at y plant, cyflwr y cartref ac yn y blaen.  Weithiau, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu defnyddio fel tystiolaeth mewn llys (gyda'r swyddog cefnogi teulu'n bresennol) os bydd y plant yn dod o dan orchymyn gofal.  Gall swyddogion cefnogi teulu hefyd fod â rhan mewn 'Asesu ac Ailsefydlu' plant - asesu sefyllfa'r rhieni, o dan arweiniad gweithiwr cymdeithasol, pan fydd plant sydd wedi bod yn derbyn gofal yn mynd yn ôl adref, efallai am gyfnod prawf.

Sgiliau a Diddordebau
Mae'n rhaid i weithwyr cefnogi teuluoedd fod yn:

  • Gallu dygymod â phobl o bob oedran, 
  • Gallu gwrando a chyfathrebu'n dda, 
  • Gallu deall ac asesu teimladau pobl, 
  • Peidio â bod yn feirniadol ynghylch amgylchiadau pobl, 
  • Gallu gweithio'n annibynnol, 
  • Trefnwyr da, 
  • Hyblyg, 
  • Gallu aros yn dawel o dan bwysau, 
  • Gallu annog pobl eraill ac adeiladu eu hunan hyder.

Gofynion Mynediad i'r Swydd
Er nad oes cymwysterau gofynnol penodol ar gyfer y swydd, efallai y bydd gofyn i chi gael profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc a bod yn barod i weithio a chael NVQ un ai mewn Gofal neu Gofal Blynyddoedd Cynnar.  Gall cymwysterau NNEB/CACHE mewn Gofal Plant fod yn ddefnyddiol ond nid yn hanfodol. Mae hyfforddiant ar gael ar bob agwedd o'r swydd, gan gynnwys y fframwaith gyfreithiol, asesu teuluoedd, amddiffyn plant, cymorth cyntaf a sut i adnabod arwyddion cam ddefnyddio alcohol a chyffuriau.

Rhagolygon a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol
Gallai gweithwyr cefnogi teuluoedd profiadol, gyda hyfforddiant pellach, ddod yn weithwyr cymdeithasol, rheolwyr gofal neu reolwyr canolfannau teuluoedd.  Efallai y bydd cyfle hefyd i symud i feysydd gwaith mwy arbenigol, megis gweithio gyda phobl gydag anableddau.

Gwybodaeth a Gwasanaethau Pellach
Cyngor Gofal Cymru www.ccwales.org.uk
Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymunedol www.csv.org.uk/socialhealthcare
Iechyd a Phroffesiynau Gofal Cyngor www.hpc-uk.org

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links