Cynghorwr defnyddwyr a chwsmeriaid

Cyflwyniad
Y Cynghorwr Defnyddwyr a Chwsmeriaid yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer trigolion/cwsmeriaid sydd ag ymholiadau, cwestiynau neu gwynion ynghylch gwasanaethau'r awdurdod lleol. Mae cwsmeriaid yn cysylltu â'r awdurdod lleol mewn nifer o ffyrdd yn cynnwys y ffôn neu e-bost, a byddai Cynghorwr Defnyddwyr a Chwsmeriaid mewn canolfan alwadau ganolog yn ceisio datrys eu problem.  Byddai'r Cynghorwr Defnyddwyr a Chwsmeriaid yn edrych drwy gyfres o sgriniau cyfrifiadur er mwyn ceisio datrys yr ymholiad a chynnig yr ymateb priodol. Yn aml caiff galwadau eu recordio at ddibenion hyfforddi a monitro.  Mae gan rai awdurdodau lleol bwyntiau cyswllt wyneb yn wyneb hefyd, efallai mewn llyfrgell leol, lle gellir gwneud taliadau am wasanaethau awdurdod lleol.  Weithiau mae yna gyfrifoldebau arolygu staff ynghlwm â'r swydd.

Amgylchedd Gwaith
Fel arfer bydd y swydd wedi'i lleoli mewn canolfan alw neu mewn swyddfa ranbarthol.

Gweithgareddau Dyddiol
Gallai'r dyletswyddau gynnwys:

  • darparu gwybodaeth a chyngor i gwsmeriaid yn y fformat mwyaf priodol er mwyn cwrdd â'u hanghenion;
  • gwneud tasgau gweinyddol a galwadau ffôn yn ôl y gofyn er mwyn symud ymholiadau gan gwsmeriaid yn eu blaenau, gan sicrhau bod y gwasanaeth yn gweithredu'n effeithiol;
  • cynnal gwybodaeth bersonol am reoliadau megis (ac nid yn unig) Budd-daliadau, Treth Cyngor, Gwasanaethau Amgylcheddol a Thai;
  • hyrwyddo'r awdurdod lleol drwy roi gwybod i gwsmeriaid am wasanaethau eraill a allai fod yn berthnasol neu o ddiddordeb iddynt;
  • sicrhau bod gweithgareddau talu'n cael eu gwneud yn unol â rheoliadau ariannol yr awdurdod lleol.

Sgiliau a Diddordebau
Bydd gan Gynghorwr Defnyddwyr a Chwsmeriaid:

  • ymarweddiad ffôn cynhesol ond proffesiynol;
  • sgiliau cyfathrebu da;
  • sgiliau gwrando da;
  • gallu gweithio fel rhan o dîm, neu ar eich liwt eich hun, a gweithio heb arolygaeth agos;
  • gallu delio â sefyllfaoedd cymhleth;
  • byddai'r gallu i gyfathrebu mewn amgylchedd dwyieithog yn cynnwys Cymraeg a Saesneg yn ddefnyddiol.

Gofynion Mynediad
Mae'n bosibl na fydd angen cymwysterau ffurfiol, ond byddai profiad yn ddymunol.

Cyfleoedd a Rhagolygon ar gyfer y Dyfodol
Efallai y bydd cyfleoedd yn codi i reoli tîm bychan o Gynghorwyr neu i weithio wyneb yn wyneb yn uniongyrchol gyda chwsmeriaid.  Gall oriau gwaith fod yn hyblyg, yn enwedig lle bo gwasanaeth yn cael ei ddarparu y tu allan i oriau swyddfa arferol.  Wrth i dechnoleg esblygu mae gan rai cyflogwyr weithlu sy'n gweithio o gartref, a gall hyn gynnig mwy fyth o hyblygrwydd.

Gwasanaethau a Gwybodaeth Bellach
Call Centre Management Association www.ccma.org.uk/
Institute of Customer Service www.instituteofcustomerservice.com
E-skills www.e-skills.com

Gallwch gael gwybodaeth bellach ar y maes gwaith hwn drwy Gyrfa Cymru (www.gyrfacymru.com) neu yn eich llyfrgell leol, y swyddfa yrfaoedd neu lyfrgell yrfaoedd eich ysgol.

Related Links