Swyddog datblygu cymunedol

Cyflwyniad
Mae Swyddog Datblygu Cymunedol yn cefnogi rhaglenni sy'n anelu at leihau tlodi a helpu i wella bywydau pobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig.  Y nod yw cynnwys cymunedau yn y gwaith o chwilio am atebion i'r problemau y maent yn eu hwynebu mewn partneriaeth â chyrff statudol a gwirfoddol.  Bydd y Swyddog Datblygu Cymunedol yn hyrwyddo'r rhaglen yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol drwy ymgysylltu'n strategol â darparwyr gwasanaeth allweddol a chyrff rhanbarthol a chenedlaethol eraill.  Mae'r swydd yn adnabod ymarfer da o fewn yr awdurdod lleol yn ogystal ag yn rhanbarthol a chenedlaethol, gan sicrhau cyfnewid gwybodaeth ac ymarfer da, adnabod cyfleoedd cyllido a gweithredu cynlluniau ar draws ardal yr awdurdod lleol yn ogystal â rhai rhanbarthol.  Mae'n bosibl y bydd yna gyfrifoldebau rheoli staff yn ogystal â rheoli cyllidebau.

Amgylchedd Gwaith
Mae'r gwaith yn cynnwys elfen o weinyddu wrth ddesg ond caiff mwyafrif yr amser ei dreulio'n gweithio yn y maes neu mewn canolfannau cymunedol o fewn yr ardal ddaearyddol sy'n cael ei chefnogi.

Gweithgareddau Dyddiol
Gall y dyletswyddau gynnwys:

  • datblygu a chynnal cysylltiadau gyda phartneriaid strategol o fewn pob sector er mwyn sicrhau bod yr holl gynlluniau'n cyd-fynd a chyd-blethu â blaenoriaethau'r rhaglen;
  • sicrhau bod rhanddeiliaid allweddol a darparwyr gwasanaeth yn cael eu cynnwys yn effeithiol yn y gwaith o weithredu'r rhaglen;
  • adnabod a meithrin cynlluniau rhanbarthol i fynd i'r afael ag anghenion ar draws ffiniau clwstwr a bwrdeistref;
  • adnabod ac ymgeisio am gyllid i weithredu cynlluniau ar draws y fwrdeistref yn ogystal â rhai rhanbarthol.

Sgiliau a Diddordebau
Bydd y canlynol gan y Swyddog Datblygu Cymunedol:

  • profiad o weithio ym maes datblygu cymunedol;
  • gwybodaeth am brosesau Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau (RBA);
  • dealltwriaeth o ddeddfwriaeth a pholisi cyfredol mewn perthynas ag allgau cymdeithasol a thlodi;
  • dealltwriaeth o ac ymrwymiad i swyddogaeth llywodraeth leol a gwaith datblygu cymunedol; 
  • dealltwriaeth o sut mae allgau cymdeithasol yn effeithio ar fywydau pobl;
  • gallu i gyfathrebu'n hawdd ac effeithiol gydag amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau;
  • gallu i gynhyrchu deunyddiau ac adroddiadau ysgrifenedig o safon uchel;
  • sgiliau rhyngbersonol cryf; 
  • gallu i sefydlu perthnasau cynhyrchiol gydag aelodau etholedig, uwch swyddogion y cyngor, sefydliadau allanol a thrigolion lleol;
  • gallu i dderbyn a deall gwybodaeth newydd yn sydyn;
  • gallu i weithio ar eich liwt eich hun neu fel rhan o dîm a chynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill;
  • gallu i ddod o hyd i atebion i faterion sensitif a chymhleth;
  • gallu i weithio dan bwysau ac o fewn terfynnau amser llym;
  • cryf eich cymhelliad, gyda gallu i ddangos egni a gweledigaeth er mwyn ysgogi eraill;
  • dangos dyhead i wneud cyfraniad cadarnhaol tuag at wella ansawdd byw pobl mewn cymunedau difreintiedig;
  • deall pwysigrwydd ac egwyddorion cyfranogiad cymunedol.

Gofynion Mynediad
Mae Swyddogion Datblygu Cymunedol fel arfer yn raddedigion.  Mae nifer o brifysgolion y DU yn cynnig cyrsiau gradd neu ôl-radd perthnasol ym maes datblygu cymunedol neu bynciau perthynol.

Cyfleoedd a Rhagolygon ar gyfer y Dyfodol
Efallai y byddwch yn gweithio i lywodraeth leol neu ganolog neu sefydliad nid-er-elw ym maes datblygu cymunedol.

Gwasanaethau a Gwybodaeth Bellach
Community Development Foundation www.cdf.org.uk
Federation for Community Development Learning www.fcdl.org

Gallwch gael gwybodaeth bellach ar y maes gwaith hwn drwy Gyrfa Cymru (www.gyrfacymru.com) neu yn eich llyfrgell leol, y swyddfa yrfaoedd neu lyfrgell yrfaoedd eich ysgol.

Related Links