Ymgynghorydd iechyd a diogelwch

Cyflwyniad
Diben ymgynghorydd iechyd a diogelwch (a elwir yn hyfforddwr iechyd a diogelwch neu'n archwiliwr iechyd a diogelwch, weithiau) yw cynghori adrannau awdurdod lleol a gofalu eu bod yn gweithio'n ddiogel yn ôl gofynion y gyfraith ym maes iechyd a diogelwch.  Mae'n gyfrifol am fonitro ac archwilio cydymffurfiaeth â'r gyfraith a pholisïau'r cyngor, a lledaenu'r arferion gorau trwy wella'n barhaus.

Amgylchiadau'r gwaith
Swyddfeydd yr awdurdod lleol yw canolfan ymgynghorydd iechyd a diogelwch, fel arfer - naill ai ymhlith tîm o ymgynghorwyr neu ar ei ben ei hun.  Weithiau, bydd swyddog iechyd yr amgylchedd yn gweithredu'n ymgynghorydd iechyd a diogelwch i'r awdurdod.  Bydd ymgynghorydd iechyd a diogelwch yn treulio llawer o'i amser yn archwilio ac yn hyfforddi staff holl adrannau'r awdurdod gan eu cynghori, eu helpu i ddatrys problemau, eu dysgu a'u cynrychioli.  Felly, rhaid ymweld â swyddfeydd yr amryw adrannau.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae'r gwaith yn amrywio'n fawr, a gallai fod angen gwneud unrhyw o'r canlynol:

  • cynghori rheolwyr (fel y bo'n briodol) am holl agweddau iechyd a diogelwch megis deddfau perthnasol, cyfarwyddebau, codau ymarfer a pholisïau;
  • helpu i lunio a diweddaru canllawiau, polisïau, arferion a gweithdrefnau gan ofalu eu bod yn cyd-fynd ag unrhyw ofynion penodol;
  • asesu peryglon a materion eraill (megis gweithdrefnau rheoli cemegion) a chynghori am y camau priodol pan fo angen;
  • archwilio safleoedd i ofalu eu bod yn cydymffurfio â deddfau perthnasol a pholisïau/gweithdrefnau'r awdurdod lleol, gan argymell camau cywiro;
  • ymchwilio i ddamweiniau, digwyddiadau a cheisiadau ynglŷn ag eiddo'r awdurdod lleol;
  • hyfforddi gweithwyr newydd ym maes iechyd a diogelwch;
  • gwerthuso, llunio, datblygu a chynnal cyrsiau hyfforddi priodol;
  • cysylltu (fel y bo'n briodol) â chontractwyr, clientiaid a chyrff allanol megis yr Awdurdod Gweithredol dros Iechyd a Diogelwch;
  • cadw cofnodion papur ac electronig am iechyd a diogelwch, gan gynnwys ystadegau am ddamweiniau.

Medrau a diddordebau
Rhaid i ymgynghorydd iechyd a diogelwch asesu pobl, gweithleoedd a gweithdrefnau yn ogystal â hyfforddi staff.  Felly, mae medrau trin a thrafod pobl yn hanfodol.  Mae medrau ysgrifennu'n hanfodol hefyd, gan fod angen llunio adroddiadau a llythyrau yn ogystal â gweithdrefnau pob adran.  Dylech chi allu dehongli'r gyfraith o ran iechyd a diogelwch fel y bydd modd ateb y gofynion.  Mae angen ymroddiad a diddordeb ym maes iechyd a diogelwch er mwyn cadw golwg ar ddatblygiadau newydd.
 
Meini prawf derbyn
Dyma'r amryw lwybrau:
Llwybr 1: Tystysgrif Bwrdd Cenedlaethol Archwilio Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (NEBOSH).  Bydd Diploma 1 a 2 NEBOSH ynghyd â phrofiad perthnasol yn arwain at aelodaeth gyflawn o Sefydliad Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol (IOSH).
Llwybr 2: Asesu yn y gwaith ar gyfer Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol ym maes arferion iechyd a diogelwch galwedigaethol (rhwng lefel 1 a lefel 4).  Ar ôl cyrraedd lefel 4, cewch chi fod yn aelod cyflawn o IOSH.
Llwybr 3 - Gradd prifysgol ym maes iechyd a diogelwch galwedigaethol.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae cyfle i gael dyrchafiad, er bod rhagor o gyfleoedd yn yr awdurdodau mwyaf.  Yn aml, rhaid mynd i awdurdod arall i gael profiad, gwybodaeth ehangach a dyrchafiad.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cyngor Diogelwch Prydain: www.britsafe.org
Sefydliad Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol: www.iosh.co.uk
Cymdeithas Frenhinol Atal Damweiniau: www.rospa.com
Cyfeirlyfr Sefydliadau Iechyd a Diogelwch Proffesiynol y DG: www.safetydirectory.com

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links