Swyddog cydraddoldeb

Cyflwyniad
Mae awdurdodau lleol yn cyflogi swyddogion cydraddoldeb a elwir hefyd yn gynghorwyr, i edrych ar ôl anghenion pobl o nodweddion gwahanol a warchodir dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, fel, hil, rhyw, anabledd, oedran, crefydd neu gred, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil a beichiogrwydd a mamolaeth.

Amgylchedd Gwaith
Mae llawer o'r gwaith mewn swyddfa er bydd angen i swyddogion cydraddoldeb allu teithio i bob gweithle a rhannau o'r gymuned i gyflawni elfennau o'u swyddi. Efallai bydd angen teithio i ganolbarth Cymru fel un o ofynion y swydd i fynychu holl gyfarfodydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Cymru, megis y rhai a gynhelir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Gweithgareddau dyddiol
Mae gwaith swyddogion cydraddoldeb yn eang a gall gynnwys y cyfan neu rai o'r gweithgareddau a restrir isod:

  • Amlygu materion cydraddoldeb yn y gweithle gyda'r nod o sicrhau na wahaniaethir yn erbyn neb yn y gweithle ar sail hil, rhyw, statws priodasol, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, oedran neu gred grefyddol o ran cyflogaeth neu fynediad i wasanaethau;
  • Cefnogi integreiddio mentrau cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth ddarparu'r holl wasanaethau trwy gysylltu ag adrannau eraill a gwasanaethau corfforaethol;
  • Cyflwyno (ac adolygu) polisïau ac arferion i sicrhau bod yr awdurdod lleol yn gweithio tuag at gyflawni gweithlu mwy cytbwys;
  • Annog prosiectau cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn y gymuned, gan weithio gyda phob math o grwpiau a sefydliadau, gan gynnwys grwpiau merched, grwpiau pobl anabl, pobl hŷn a grwpiau pobl ifanc, cynghorau ffydd, grwpiau Du a Lleiafrifoedd Ethnig, sefydliadau fel Stonewall a Chanolfan Rhagoriaeth LGBT Cymru, rhwydweithiau trawsrywiol, a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac ati;
  • Hyrwyddo mentrau a digwyddiadau cydraddoldeb ac amrywiaeth lleol, cenedlaethol a rhyngwladol fel wythnos ryngwladol y merched;
  • Cynghori ar faterion recriwtio , datblygu staff a pholisïau a gweithdrefnau mewnol eraill;
  • Darparu neu drefnu hyfforddiant ymwybyddiaeth cydraddoldeb i swyddogion gan drafod y ddeddfwriaeth cydraddoldeb, cyfrifoldebau'r sefydliad ac unigolion fel gweithwyr;
  • Darparu neu drefnu hyfforddiant penodol i swyddogion ar gynnal asesiadau effaith cydraddoldeb (EIA), y gyfraith, y broses asesu ac edrych ar enghreifftiau EIA. 

Fodd bynnag, mae awdurdodau lleol yn defnyddio ystod eang o raglenni cydraddoldeb ac amrywiaeth ac nid oes unrhyw un swydd yn nodweddiadol. Mae gan swyddogion cydraddoldeb gyswllt â phobl sy'n amrywio o brif weithredwyr i weithwyr gwirfoddol ac aelodau o'r cyhoedd. Maent yn asesu anghenion y gymuned ac archwilio ymatebion i, er enghraifft, ymosodiadau hiliol neu ddiffyg cyfleusterau ar gyfer grwpiau lleiafrifoedd ethnig/ pobl anabl/ merched/ pobl drawsrywiol/ pobl o grefydd a chredoau gwahanol ac ati

Sgiliau a Diddordebau
Mae llawer o'r gwaith mewn meysydd sensitif iawn lle mae galw am drafod, cyfathrebu a dealltwriaeth ar lefel uchel. Mae llwyddiant rhaglenni cydraddoldeb ac amrywiaeth yn dibynnu ar waith tîm da, ac ar hyrwyddo'r materion pwysig yn llwyddiannus. Felly, mae angen i swyddogion cydraddoldeb allu blaenoriaethu a bod â diddordeb penodol yn y swydd a materion cydraddoldeb yn gyffredinol.

Rhaid iddynt hefyd fod yn barod i fod yn 'asiant ar gyfer newid' (hy: asesu lle mae angen newid a datblygu strategaethau i sicrhau bod hyn yn digwydd).

Gall y rôl yn fod yn drwm, ac yn llawn straen ar adegau. Er mwyn ymdopi â hyn, mae'n ddefnyddiol os gall swyddogion cydraddoldeb gau'r drws ar y gwaith tu allan i'r swyddfa.

Gofynion Mynediad
Does dim angen cymwysterau mynediad ffurfiol i fod yn swyddog cydraddoldeb, er bod llawer yn aelodau o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD). Yn aml, mae cyflogwyr â mwy o ddiddordeb mewn cefndir perthnasol ac ymrwymiad, er bod gwaith mewn adrannau Adnoddau Dynol, hyfforddiant proffesiynol mewn gwaith cymdeithasol, ieuenctid neu gymunedol yn aml yn fantais.
Mae gwybodaeth gadarn o faterion a deddfwriaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth a sgiliau cyfathrebu da i gyd yn berthnasol i'r swydd. Mae angen gallu cymell eich hun a medrau gweinyddol hefyd.

Rhagolygon a chyfleoedd y dyfodol
Mae cyfleoedd ar gael mewn unedau wedi'u sefydlu, yn enwedig mewn cynghorau mwy, er bod newidiadau i strwythurau cyngor yn ddiweddar wedi arwain at ostyngiad mewn swyddi arbenigol. Mae mwy o swyddogion cydraddoldeb bellach yn gweithio mewn gwahanol adrannau lle maent yn gyfrifol am integreiddio cydraddoldeb i waith y gwasanaethau.  Er ei bod yn bosibl cael dyrchafiad i swydd uwch, mae unedau cydraddoldeb ac amrywiaeth yn fach a gallai symud ymlaen yn eich gyrfa olygu symud i gyngor arall neu i swydd wahanol yn yr un cyngor.

Mwy o Wybodaeth a Gwasanaethau
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol www.equalityhumanrights.com
Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu www.cipd.co.uk
Swyddfa Cydraddoldeb y Llywodraeth http://homeoffice.gov.uk/equalities/

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links