Cyflwyniad
Mae technegwyr cerbydau modur y cynghorau lleol yn gyfrifol am
drwsio, cynnal a chadw cerbydau'r cyngor gan gynnwys ceir, faniau,
lorïau, cerbydau cludo teithwyr (megis bysiau a thramiau) ac offer
claddu. Rhaid cadw pob cerbyd ac offeryn ac ynddo beiriant
mewn cyflwr diogel bob amser.
Amgylchiadau'r gwaith
Mewn gweithdy y bydd technegwyr cerbydau modur gan amlaf, er y
gallai fod angen mynd allan i ddod â cherbydau sydd wedi methu yn
ôl i'r safle. Fel arfer, mae rhaid gwisgo dillad diogelu
megis esgidiau cryf ac oferôls.
37 awr yw'r wythnos safonol, a hynny yn ôl trefn
shifftiau. Gallai fod rhaid aros ar gael am 24 awr yn ogystal
â gweithio ar fore Sadwrn.
Gweithgareddau beunyddiol
Mae technegwyr cerbydau modur yn archwilio, yn trwsio, yn cynnal
ac yn cadw pob un o gerbydau ac offer modur y cyngor. Dyma eu
dyletswyddau:
- archwilio cerbydau nwyddau trwm, ceir, cerbydau masnachol
ysgafn a bysiau yn ôl canllawiau VOSA;
- archwilio offer modur yn ôl rheoliadau PUWER;
- pennu pa broblemau sydd ar gerbydau a beth mae angen ei wneud
i'w datrys - er enghraifft, a ddylai uned gael ei thrwsio neu ei
newid;
- cynnal a chadw cerbydau yn ôl rhaglen;
- gosod cyfarpar megis ffonau i'w defnyddio heb ddwylo, dyfeisiau
olrhain a phecynnau rheoli cerbyd;
- adnewyddu darnau;
- gyrru cerbydau ar brawf i ofalu bod y gwaith wedi'i wneud yn
dda;
- cofnodi problemau pob cerbyd gan nodi'r darnau newydd sydd
wedi'u gosod a'r atgyweiriadau sydd wedi'u cyflawni;
- gorffen gwaith yn ôl amserlenni;
- esbonio problemau mewn iaith syml ac argymell atgyweiriadau
perthnasol;
- defnyddio offer trydan i gywiro problemau trydanol;
- defnyddio arfau llaw trydan megis sbaneri, tyrnsgriwiau,
peiriannau tyllu a chyfarpar sodro a weldio (gan gynnwys setiau
ocsi-asetylen a mig);
- mynd i drwsio cerbydau sydd wedi methu ar y ffordd.
Efallai y bydd technegwyr mwy profiadol yn goruchwylio tîm
bychan.
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:
- natur ymarferol gyda'r gallu i ddefnyddio arfau llaw a thrydan
yn ddiogel a defnyddio offer electronig i ddod o hyd i
broblemau;
- natur drefnus a manwl gywirdeb;
- ymwybyddiaeth o weithdrefnau diogelwch bob amser;
- gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun ac mewn tîm;
- gallu cyfathrebu â phobl o sawl lliw a llun.
Meini prawf derbyn
Efallai na fydd meini prawf penodol i ddechrau'n weithiwr o dan
hyfforddiant ond, mewn rhai achosion, gallai fod angen pedair TGAU
(A*-C) neu gymhwyster cyfwerth gan gynnwys mathemateg. Mae
angen trwydded yrru hefyd - gallai rhai cynghorau fynnu trwydded
gyrru cerbydau nwyddau ysgafn. Mae gweithwyr o dan
hyfforddiant yn dysgu yn y gwaith wrth astudio ar gyfer Cymhwyster
Galwedigaethol Cenedlaethol neu fwrw prentisiaeth. Dyma
bynciau perthnasol: cynnal a chadw cerbydau modur, gosodwr
cerbydau, cynnal a chadw cerbydau a chymorth ac adennill ymyl y
ffordd. Gallai rhai cynghorau ofyn am dechnegwyr cymwysedig a
phrofiadol. Efallai y bydd angen tystysgrif Cyngor Addysg
Busnes a Thechnoleg/Sefydliad y Ddinas a'r Urddau neu Ddiploma
Genedlaethol Uwch mewn pynciau perthnasol.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Yn ogystal â chael eich dyrchafu'n rheolwr, gallai fod cyfle i
symud i swyddi technegol eraill megis trydanwr a thechnegydd cynnal
a chadw cyfleusterau ar ôl cael rhagor o hyfforddiant a
phrofiad.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Gwybodaeth am brentisiaethau: www.apprenticeships.org.uk
People First www.goskills.org
Retail Motor Industry Training (Remit) Ltd www.remit.co.uk
Cymdeithas Cludo Nwyddau: http://roadhaulageassociation.wordpress.com
Sefydliad Diwydiant Modur: www.motor.org.uk
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.