Plastrwr

Cyflwyniad
Mae plastrwyr yn ymwneud â chodi adeiladau newydd i'r cyngor a chynnal a chadw'r rhai cyfredol.  Rhaid gweithio'n fedrus ac yn gyflym am fod plaster yn mynd yn sych cyn pen fawr o dro.  Mae dau fath o blastro - solet a ffibrog.  Mae plastrwyr solet yn dodi plastr gwlyb ar waliau ac mae plastrwyr ffibrog yn creu addurniadau plastr megis cornisiau, blodau, cilfwadau a bwâu.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae plastrwyr yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn gweithio yn amryw adeiladau'r cyngor er y gallan nhw wneud peth gwaith ar y muriau allanol.  Fe allai fod angen gweithio mewn mannau brwnt, llawn llwch a ddefnyddio ysgol, llwyfan a sgaffald i gyrraedd mannau uchel.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae plastro'n grefft lle gallai fod angen cyflawni'r gorchwylion isod:

  • paratoi'r rhan sydd i'w phlastro trwy dorri'r hen blastr, gofalu bod yr wyneb yn wastad ac yn unionsyth, cywiro byrddau plastr nad ydyn nhw'n syth a gosod stribedi metel ar gorneli ac onglau i'w gwneud yn llym;
  • cymysgu plastr sych a dŵr fel y bo'n briodol a thaenu'r cymysgedd ar y wal fesul haen â thrywel, gan ddechrau ar ran uchaf y wal a symud i lawr yn raddol;
  • crafu wyneb yr haen gyntaf fel y gall yr ail haen lynu wrthi;
  • dodi ail haen y plastr ar y wal yn ôl y trwch priodol;
  • gofalu eich bod yn gweithio'n daclus ac yn gyflym - efallai y byddwch chi'n gweithio at yn ôl tra boch chi'n edrych i fyny ar nenfwd am fod rhaid plastro bwâu a waliau crwm weithiau;
  • dodi'r haen derfynol denau ar y cyfan;
  • dodi cymysgedd o dywod, sment a cherrig ar furiau allanol naill ai â thrywel neu offer chwistrellu;
  • cymysgu plastr arbennig o gryf ac ynddo ffibrau ychwanegol a'i ddefnyddio i greu darnau arddunol megis blodau ar gyfer nenfwd.

Medrau a diddordebau
Mae eisiau'r canlynol:

  • natur ymarferol a gallu defnyddio'ch dwylo'n fedrus;
  • rhifedd - gallu pennu arwynebedd waliau a chyfaint deunyddiau;
  • gallu gweithio'n gyflym ac yn daclus;
  • ymwybodol o ddiogelwch;
  • gallu gweithio'n dda mewn tîm;
  • cwrtais wrth weithio yng nghartrefi a gweithleoedd pobl.

Meini prawf derbyn
Does dim gofynion penodol er y gallai fod angen tystysgrifau TGAU neu gymhwyster galwedigaethol cyfwerth ar blastrwyr dan hyfforddiant.  Mae Saesneg, mathemateg a thechnoleg yn bynciau defnyddiol.  Fel arfer, mae cynlluniau hyfforddi'n cyfuno profiad yn y gwaith â phresenoldeb rhan-amser mewn coleg (er enghraifft, prentisiaethau neu Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol).  Efallai y bydd rhai cynghorau'n mynnu profiad ym myd adeiladu neu ofyn am gymwysterau eraill ym maes plastro megis Tystysgrif y Ddinas a'r Urddau.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gallai plastrwr profiadol symud ymlaen i swydd oruchwylio neu rolau rheoli ym myd adeiladu.  Ar ôl hyfforddiant priodol, gallai fod modd symud i grefftau eraill ym myd adeiladu megis briciwr a saer coed.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Medrau Adeiladu: www.citb.co.uk
Cynllun y Ddinas a'r Urddau: http://www.city-and-guilds.co.uk/
Llywodraeth Cymru - Prentisiaethau yng Nghymru
http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/skillsandtraining/apprenticeships/?lang=en

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu erthygl Sbotolau ar yrfaoedd ym maes adeiladu: https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-adeiladu/

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links