Saer coed

Adeiladu'ch cymuned

Cyflwyniad
Mae seiri coed cynghorau lleol yn ymwneud â chodi, cynnal a chadw adeiladau megis tai, ysgolion a neuaddau.  Rôl saer coed yw paratoi a gosod pob darn pren o adeilad newydd megis trawstiau'r llawr, y to a fframiau'r drysau yn ogystal â chynnal a chadw adeiladau cyfredol.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae seiri coed yn gweithio y tu mewn a'r tu allan i adeiladau ac, fel arfer mae rhaid iddyn nhw wisgo hetiau caled, esgidiau blaenau dur a dillad diogelu ychwanegol megis sbectol, menig, masgiau a phlygiau clustiau.  Mae'r gwaith yn gorfforol iawn ei natur a gallai fod angen codi pethau trwm.  Yn aml, rhaid gweithio mewn mannau uchel ar ysgol neu sgaffaldwaith.  37 awr fyddai'r wythnos safonol fel arfer, er bod tuedd i ddechrau ben bore (7.30-8.00) yn ôl faint o oriau golau dydd sydd ar gael.  Efallai y bydd gofyn ichi fod ar gael pe bai argyfwng ar ôl oriau gwaith, hefyd.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae seiri coed yn gweithio yn ôl cynlluniau penseiri a pheirianwyr.  Byddan nhw'n pennu trefn y gwaith a faint o bob deunydd y bydd ei angen arnyn nhw.  Byddan nhw'n mesur y coed ac yn nodi ble mae angen ei dorri neu ei gysylltu.  Yna, byddan nhw'n defnyddio arfau megis llif, cŷn a phlaen i dorri a ffurfio'r coed.  Fe fydd seiri coed yn defnyddio amryw ddulliau i gysylltu darnau â'i gilydd.  Efallai y byddan nhw'n defnyddio morthwyl neu ordd bren i daro darnau at ei gilydd cyn eu gosod â hoelion, sgriwiau neu lud.  Bydd rhai darnau'n cyrraedd o'r ffatri yn barod i'w gosod.

Yn ystod camau cynnar adeiladu, bydd seiri coed yn gosod yr adeiladwaith sylfaenol megis y to, trawstiau'r llawr, paredau rhwng ystafelloedd a'r grisiau.  Wedyn, byddan nhw'n ymwneud â gwaith ceinach megis gwneud a gosod fframiau drysau a ffenestri, drysau, silffoedd ffenestri, bordiau waliau, rheiliau lluniau, cypyrddau, silffoedd ac ati.  I orffen yr adeilad, rhaid gosod pethau megis dolenni a chloeau.  Yn ogystal â helpu i godi adeiladau newydd, bydd seiri coed yn ymwneud ag addasu ac adnewyddu rhai cyfredol, hefyd.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • holliach a heini, a gallu cydlynu'r dwylo a'r llygaid;
  • dwylo medrus;
  • medrau sylfaenol mathemateg megis mesur, a thrin a thrafod symiau;
  • ymwybodol o ddiogelwch;
  • cwrtais wrth weithio yng nghartrefi a gweithleoedd pobl.

Meini prawf derbyn
Er nad oes meini prawf penodol, gallai fod angen TGAU mewn pynciau megis iaith, mathemateg a thechnoleg neu gymwysterau galwedigaethol cyfwerth.  Efallai y bydd rhai cynghorau lleol yn mynnu profiad o weithio ym maes adeiladu.  Bydd cynlluniau hyfforddi seiri coed yn gyfuniad o feithrin profiad yn y gwaith ac astudio mewn coleg, yn aml.  Gallai fod modd astudio ar gyfer cymwysterau galwedigaethol cenedlaethol ym maes saer coed a chelfi.  Mae prentisiaethau a phrentisiaethau uwch ym maes adeiladu ar gael, hefyd.

Gobeithion a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol
Ar ôl profiad a rhagor o hyfforddiant, gallai fod modd i saer coed symud ymlaen i rôl oruchwyliol neu swydd rheolwr ym maes adeiladu.  Gallai fod yn bosibl symud i rolau perthynol eraill megis rheoli adeiladu a pheirianneg cynnal a chadw adeiladau, hefyd.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Gwybodaeth am brentisiaethau: www.apprenticeships.org.uk
Cymdeithas y Meistri ar eu Crefft: http://joiners.amtuk.com/
Gwefan gyrfaoedd Bwrdd Hyfforddi Diwydiant yr Adeiladu: www.bconstructive.co.uk
Ffederasiwn Gwaith Coed Prydain: www.bwf.org.uk
Cyngor Diwydiant Adeiladu: www.cic.org.uk
Bwrdd Hyfforddi Diwydiant Adeiladu: www.citb.co.uk

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu erthygl Sbotolau ar yrfaoedd ym maes adeiladu: https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-adeiladu/

Efallai bod rhagor am hyn ar wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links