Cynorthwy-ydd technegol, priffyrdd

Cyflwyniad
Ceir swydd fel hon ym mhob ymgynghoriaeth/adran beirianneg a phriffyrdd arferol, ac y mae'n rhoi cyfle i beirianwyr gael hyfforddiant a phrofiad ychwanegol wrth iddynt weithio ar gyfer eu cymhwyster.  Gallai staff dylunio â chymorth cyfrifiadur hefyd ei gweld fel cam i swydd ym maes peirianneg.  Mae'r swydd ar gael ym mhob math o awdurdod.

Amgylchedd Gwaith
Bydd cynorthwywyr technegol fel arfer yn gweithio yn swyddfeydd adrannau dylunio neu drafnidiaeth wrth ymyl peirianwyr, technegwr TG a rhifwyr arolygon traffig.  Byddant yn treulio llawer o amser wrth gyfrifiadur, sydd weithiau'n cysylltu â dylunwyr, penseiri a pheirianwyr mewn cyfarwyddiaethau eraill. Byddant hefyd yn teithio i wahanol safleoedd gwaith sydd weithiau'n fwdlyd ac yn anodd eu defnyddio ar dywydd gwael.  Bydd dillad gwarchod ar eu cyfer.  Mae'r oriau gwaith yn safonol - sef 37 awr yr wythnos - a phur anaml y bydd angen gweithio sifftiau  gwrthgymdeithasol.

Gweithgareddau Dyddiol
Bob dydd, bydd cynorthwywyr technegol yn cyfrannu i brosiectau drwy roi cymorth cyffredinol 'swyddfa ddylunio' i grŵp o bobl sy'n gyfrifol am greu cynlluniau priffordd a thraffig.  Byddant yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn creu ac yn cynnal cynlluniau, brasluniau, lluniau a diagramau addas ar gais staff eraill yr ymgynghoriaeth.  Bydd hyn yn golygu defnyddio'r cyfleusterau cyfrifiadurol diweddaraf a defnyddio terfynellau'n uniongyrchol.  Bydd yn rhaid iddynt hefyd:

  • ffeilio, llungopïo ac argraffu lluniau â chymorth cyfrifiadur yn unol â gofynion y grŵp;
  • ymweld â safleoedd adeiladu a gwaith priffyrdd;
  • lunio, goruchwylio a dadansoddi arolygon traffig a chyflwyno adroddiadau arnynt.  Mae hyn yn cynnwys cysylltu â sefydliadau eraill a goruchwylio staff dros dro;
  • gysylltu â rhannau eraill o adrannau'r amgylchedd, trafnidiaeth a chynllunio;
  • fynychu ymgynghoriadau, ymchwiliadau a chyfarfodydd cyhoeddus er mwyn cefnogi'r arbenigwyr.

Rhan o ddyletswydd cynorthwywyr technegol fydd ymchwilio i'r mannau gorau ar gyfer cynnal arolygon traffig a lleoli cyfrifwyr, gyda golwg benodol ar ddiogelwch.  Bydd yn rhaid iddynt ateb cwestiynau'r cyhoedd am ymgynghoriadau cyhoeddus, a materion cynllunio, a chynghori staff yn gyffredinol ynglŷn â defnyddio systemau meddalwedd cymhleth.  Bydd gofyn iddynt gynllunio ymlaen llaw a helpu gydag arddangosfeydd.  Byddwn hefyd yn disgwyl iddynt gynnig ffyrdd newydd o egluro'r cynlluniau sydd gennym mewn golwg i aelodau etholedig a'r cyhoedd, drwy ddefnyddio lluniau neu ddiagramau.  Byddant yn gyfrifol am ddarparu'r cymhorthion hyn ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus sy'n ymdrin â materion fel cynlluniau traffig newydd, er enghraifft.

Sgiliau a Diddordebau
Er mwyn cyflawni'r swydd hon y mae'n rhaid i gynorthwywyr technegol:

  • allu trafod rhifau'n dda (er mwyn amcangyfrif tendrau/costau); 
  • allu darllen ac ysgrifennu'n dda er mwyn llunio adroddiadau ar brosiectau; 
  • allu tynnu lluniau yn ôl graddfa; 
  • fod yn gyfarwydd â dulliau newydd o weithredu, a thechnegau a deddfwriaeth newydd; 
  • fod yn hollol gyffyrddus yn defnyddio cyfarpar swyddfa cyffredin a chyfleusterau arlunio terfynell cyfrifiadur; 
  • allu defnyddio cyfarpar arolygu ar gyfer ymweliadau â safleoedd; 
  • wybod am reolau diogelwch wrth weithio'n agos i briffyrdd; 
  • allu cyflwyno'n dda a darparu cymhorthion gweledol effeithiol; 
  • allu hyfforddi pobl eraill ar gyfer defnyddio meddalwedd arlunio i ddibenion arbenigol; 
  • fod yn ddigon cymodol a medrus wrth gyd-drafod i allu darbwyllo cleientiaid i dderbyn gofynion y gyfraith; 
  • allu gweithio heb eu harolygu.

Gofynion Derbyn
Bydd angen o leiaf 4 tystysgrif TGAU radd 'C' arnoch.  Bydd disgwyl hefyd i chi ddeall arferion a dulliau gweithredu Peirianneg Sifil a gallu defnyddio cyfleusterau arlunio cyfrifiadurol.  Byddai dwy flynedd o brofiad perthnasol mewn amgylchedd peirianneg priffyrdd neu amgylchedd tebyg hefyd yn fanteisiol.

Rhagolygon a Chyfleoedd
Mae sawl cyfle am ddyrchafiad fel yr awgrymwyd yn y cyflwyniad i'r braslun hwn.  Gall cynorthwyydd technegol ddod yn dechnegydd peirianneg, yn beiriannydd corfforedig ac yn beiriannydd siartredig drwy ddilyn rhagor o hyfforddiant, ennill cymwysterau a chael ei arolygu gan gorff peirianneg proffesiynol fel Sefydliad Peirianwyr Sifil.  Bydd hyfforddiant mewnol ar gael hefyd yn aml.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
E-sgiliau www.e-skills.com
Sefydliad Peirianwyr Sifil www.ice.org.uk
Sefydliad Peirianwyr Sifil www.ihie.org.uk
Sefydliad Rheoli Systemau Gwybodaeth www.imis.org.uk
Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Thrafnidiaeth www.ciht.org.uk

Cewch ragor o wybodaeth am y maes hwn hefyd drwy gysylltu â Gyrfa Cymru (www.careerswales.com/), eich llyfrgell leol, eich swyddfa yrfaoedd neu lyfrgell yrfaoedd eich ysgol.

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/

Related Links