Swyddog etholiadau

Cyflwyniad
Y cynghorau lleol sy'n gyfrifol am drefnu pob etholiad yn y Deyrnas Gyfunol megis etholiadau'r Cynulliad, Senedd San Steffan a Senedd Ewrop, etholiadau llywodraeth leol ac unrhyw is-etholiadau.  Gorchwyl swyddogion etholiadol yw helpu i drefnu'r broses o ddiwrnod galw'r etholiad nes bod y pleidleisiau wedi'u cyfrif.

Amgylchiadau'r gwaith
Mewn swyddfa yn neuadd y sir y byddwch chi'n gweithio, fel arfer.  37 awr yw'r wythnos safonol.  Gallai fod modd rhannu swydd, hefyd.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae swyddogion etholiadau'n helpu rheolwyr etholiadau i gyflawni amrywiaeth eang o orchwylion fel y gall etholiad fynd rhagddo'n esmwyth, gan gynnwys:

  • gofalu bod cofrestr yr etholwyr yn gywir trwy anfon ffurflenni cofrestru i bob cartref;
  • archwilio'r ffurflenni cofrestru sydd wedi'u cyflwyno i ofalu eu bod yn gywir;
  • prosesu papurau enwebu ymgeiswyr ar gyfer etholiad;
  • trefnu i bapurau pleidleisio gael eu hargraffu;
  • trefnu i ystafelloedd gael eu defnyddio'n fannau pleidleisio;
  • cyflogi a goruchwylio staff dros dro sy'n gweithio ar ddiwrnod pleidleisio neu yn ystod y cyfnod cyn etholiad;
  • anfon papurau pleidleisio at y rhai a hoffai fwrw pleidlais trwy'r post;
  • ateb ymholiadau'r cyhoedd;
  • cadw golwg ar newidiadau yn y gyfraith ynglŷn ag etholiadau a monitro;
  • paratoi adroddiadau ac ystadegau.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • cyfathrebu'n dda;
  • gallu trin a thrafod pobl o bob lliw a llun;
  • medrau trefnu da;
  • gallu gweithio'n drefnus;
  • gallu blaenoriaethu gorchwylion a gweithio o dan bwysau weithiau;
  • gallu gweithio mewn tîm;
  • manwl gywirdeb;
  • medrau technoleg gwybodaeth.

Meini prawf derbyn
Does dim meini prawf penodol er y bydd rhai cyflogwyr yn mynnu 5 TGAU A*-C gan gynnwys mathemateg a'r Gymraeg/Saesneg.  Ar y llaw arall, gallai cymwysterau galwedigaethol cenedlaethol neu Lefel Ganolradd 'Gweinyddu Busnes' Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol fod yn dderbyniol.  Cewch chi hyfforddiant yn y swydd.  Mae cynghorau lleol yn annog swyddogion etholiadau i astudio ar gyfer tystysgrif/diploma Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol sy'n ymwneud â chofrestru etholwyr, gweinyddu etholiadau, trefniadau etholiadol, rheoli etholiadau a materion ariannol etholiadau.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gallai fod cyfle i gael eich dyrchafu'n rheolwr etholiadau.  Gallai fod modd symud i adran y gwasanaethau democrataidd a gweithio'n agosach gyda'r cynghorwyr, hefyd.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Gweinyddwyr Etholiadol: www.aea-elections.co.uk
Sefydliad Breiniol Gweithredwyr Cyfreithiol: www.cilex.org.uk
Sefydliad Arwain a Rheoli: http://www.i-l-m.com
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: www.wlga.gov.uk
Cymdeithas y Gyfraith: www.lawsociety.org.uk

Efallai bod rhagor am hyn ar wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links