Cyflwyniad
Mae Cynghorau'n creu refeniw ar ffurf treth gyngor a
godir ar feddianwyr eiddo, yn seiliedig ar werth yr eiddo
hwnnw. Mae swyddogion y dreth gyngor yn pennu
atebolrwydd trigolion lleol o ran talu treth, cyfrifo treth a
gweinyddu systemau ar gyfer ceisio a chasglu taliadau.
Amgylchedd Gwaith
Mae swyddogion y dreth gyngor fel arfer wedi'u lleoli yn
swyddfeydd y cyngor.
Gweithgareddau Dyddiol
Mae swyddogion y dreth gyngor yn delio â phroses gyfan y dreth
gyngor, o'r bil cychwynnol i gasglu treth. Bydd y
dyletswyddau yn cynnwys:
- diweddaru cronfa ddata gyfrifiadurol yn dangos manylion
trethdalwyr, er enghraifft, pan fyddant yn derbyn gwybodaeth newydd
am rywun yn symud i mewn i eiddo neu'n hawlio eithriad neu leihad
mewn perthynas â'r dreth gyngor;
- paratoi a dosbarthu biliau'r dreth gyngor, hysbysiadau atgoffa,
gwysion a gohebiaeth bwysig arall;
- sefydlu a diwygio cyfarwyddiadau debyd uniongyrchol;
- negodi, cytuno ar, a monitro trefniadau a wneir gyda
threthdalwyr sy'n ei chael hi'n anodd talu;
- adolygu gostyngiadau ac eithriadau i ystyried pwy sydd â'r hawl
iddynt;
- cysylltu â'r Adran Budd-daliadau i sicrhau bod cwsmeriaid yn
cael unrhyw fudd-dal treth gyngor y mae ganddynt hawl iddo;
- lle bo angen, trosglwyddo ac ailddyrannu arian rhwng ac o fewn
cyfrifon, ynghyd â pharatoi ad-daliadau;
- paratoi gwaith papur a thystiolaeth ddogfennol os bydd
preswylydd yn apelio yn erbyn y dreth gyngor sydd i'w thalu gan
fynd i dribiwnlys treth;
- cyfweld â diffygdalwyr a gweithio fel eiriolwr i geisio
gorchmynion atebolrwydd yng ngwrandawiadau Llys yr Ynadon;
- gweithio gydag amryw gysylltiadau gan gynnwys y cyhoedd,
cyfreithwyr, Cynghorau eraill, Prifysgolion, cyflogwyr, yr
Asiantaeth Budd-daliadau, y Derbynnydd Swyddogol, gwasanaethau
cymdeithasol, cyfleustodau cyhoeddus (nwy, dŵr, trydan) ac adrannau
eraill yn y cyngor i sicrhau bod cofnodion y dreth gyngor yn gywir
ac yn gyfredol, a cheisio gwybodaeth am ddyledwyr;
- ateb galwadau ffôn gan bobl sydd ag ymholiadau ynglŷn â
chyfrifon y dreth gyngor - weithiau bydd angen delio â chwsmeriaid
anodd, yn enwedig y rheini y mae camau adennill wedi'u cymryd yn eu
herbyn;
- delio ag ymholiadau cymhlethach o ran atebolrwydd megis gwneud
penderfyniad ynghylch lle mae "prif" breswylfa unigolyn neu a
ddylid ystyried eiddo yn dŷ amlfeddiannaeth;
- prosesu a chydbwyso rhestrau o newidiadau i fandiau ac eiddo a
geir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio;
- gwirio darpar restrau o gyfrifon a phenderfynu pa gyfrifon
ddylai gael gwŷs yn unol â'r canllawiau a roddwyd.
Mae gwaith swyddog y dreth gyngoryn cynyddu o bryd i'w gilydd yn
ystod y flwyddyn. Er enghraifft, ym mis Mawrth a mis Ebrill pan
gaiff biliau blynyddol eu paratoi a'u dosbarthu.
Sgiliau a Diddordebau
Rhaid i swyddogion y dreth gyngor:
- weithio'n fanwl gywir,
- gallu dilyn a deall gweithdrefnau yn fanwl a chwblhau
cyfrifiadau cymhleth,
- meddu ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da er mwyn
cyfathrebu'n ystyriol ag amrywiaeth o bobl,
- gallu gweithio ar eu liwt eu hunain ac fel aelod o dîm,
- gallu blaenoriaethu gwaith er mwyn cyflawni terfynau
amser,
- dangos gwybodaeth am ddeddfwriaeth y dreth gyngor a diogelu
data,
- cael sgiliau TGCh rhagorol.
Rhaid i uwch aelodau o staff sy'n ymddangos yn y llys ac mewn
tribiwnlysoedd fod yn hyderus wrth siarad yn gyhoeddus.
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad sylfaenol. Fodd bynnag, mae'r rhan
fwyaf o gynghorau yn gofyn am o leiaf bedair gradd TGAU gradd C neu
uwch, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg. Fel arfer bydd
cymwysterau cyfatebol fel NVQ/SVQ neu GNVQ/GSVQ canolradd mewn
busnes yn cael eu derbyn. Gall rhai cynghorau ofyn am brofiad
blaenorol perthnasol.
Cyfleoedd yn y dyfodol
Gallech gael eich dyrchafu i fod yn uwch swyddog y dreth gyngor
neu'n rheolwr y dreth gyngor. Gyda mwy o brofiad yn y rôl,
gallai swyddogion y dreth gyngor symud ymlaen i rolau rheoli eraill
yn y tîm refeniw a budd-daliadau ehangach, neu yn yr adran gyllid
yn gyffredinol. Gyda rhagor o brofiad a chymwysterau, gallai
arwain at swyddi cyfrifyddu arbenigol.
Rhagoro Wybodaeth a Gwasanaethau
Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu www.aat.co.uk
Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli www.cimaglobal.com
Y Sefydliad Rheoli Systemau Gwybodaeth www.imis.org.uk
Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr www.icaew.com
Sefydliad Refeniw, Trethi a Phrisio www.irrv.org.uk
Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig www.acca.co.uk
Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth www.cipfa.org.uk
Mae modd cael rhagoro wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y
llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.