Swyddog cynllunio rhag argyfwng

Cyflwyniad
Mae cynllunio rhag argyfwng mewn llywodraeth leol yn cynnwys cydlynu a pharatoi cynlluniau wrth gefn, gweithdrefnau a gweithgareddau sy'n ymdrin â'r heriau a ddaw yn sgil argyfyngau mawr, er enghraifft, llifogydd, achosion o glefydau heintus iawn mewn anifeiliaid neu bobl, ymosodiadau terfysgol, damweiniau mawr ac yn y blaen.

Amgylchedd Gwaith
Fel arfer mae swyddogion cynllunio rhag argyfwng llywodraeth leol yn gweithio yn y swyddfa, ond mae angen ymweliadau ag amrywiaeth o leoliadau, fel meysydd awyr, cyfleusterau diwydiannol a rigiau olew hefyd.

Gweithgareddau dyddiol
Mae'r gwaith a wneir gan swyddogion cynllunio rhag argyfwng llywodraeth leol yn eang iawn, ac mae'n amrywio o gyngor i gyngor. Gallai'r dyletswyddau gynnwys rhai neu bob un o'r canlynol:

  • gweithio'n agos gydag amrywiaeth o asiantaethau eraill, megis sefydliadau argyfwng a gwirfoddol, grwpiau cymunedol, y fyddin, llywodraeth ganolog, cynghorau lleol eraill, ac o bosibl asiantaethau rhyngwladol, i sicrhau bod y cynlluniau, polisïau a gweithdrefnau rhag argyfwng cywir yn eu lle;
  • ymchwilio i unrhyw ddatblygiadau newydd a allai effeithio ar gynllunio rhag argyfwng a gwneud y newidiadau perthnasol i'r cynlluniau a gweithdrefnau ar y cyd â sefydliadau partner;
  • cynnal hyfforddiant yn seiliedig ar senario ar gyfer staff y cyngor lleol ac eraill o sefydliadau partner, fel eu bod yn gwybod beth i'w wneud os bydd sefyllfa o argyfwng penodol yn codi a beth fyddai eu rolau a'u cyfrifoldebau;
  • delio'n uniongyrchol ag argyfyngau, er enghraifft, gallai swyddog cynllunio rhag argyfwng llywodraeth leol dderbyn galwad ffôn yn ystod y nos am lifogydd a achosir gan brif beipen ddŵr wedi byrstio - fe allai weithio ar y safle ynghyd â sefydliadau partner a chydlynu ymateb y cyngor;
  • trefnu sesiynau adolygu gyda sefydliadau partner ar ôl i argyfwng ddigwydd, er mwyn gwerthuso llwyddiant yr ymateb a gwneud gwelliannau i'r gweithdrefnau.

Sgiliau a Diddordebau
Mae angen i swyddogion cynllunio rhag argyfwng llywodraeth leol:

  • fod yn gyfathrebwyr ardderchog sy'n gallu cysylltu'n effeithiol ag amrywiaeth o wahanol bobl,
  • gallu aros yn dawel a meddwl yn glir o dan bwysau,
  • sgiliau cynllunio a threfnu da,
  • gallu arwain a chymell eraill,
  • sgiliau ymchwil da,
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ardderchog.

Gofynion Mynediad
mae angen addysg o safn dda ar gynllunwyr rhag argyfwng llywodraeth leol ac efallai byddai cymwysterau iechyd a diogelwch perthnasol yn ddefnyddiol. Mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr hefyd yn chwilio am rywfaint o brofiad blaenorol mewn cynllunio rhag argyfwng neu faes cysylltiedig, er enghraifft, efallai byddai gan rheiny sydd wedi gweithio yn y gwasanaethau argyfwng neu'r lluoedd fod a phrofiad addas.  Mae hyfforddiant ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus ar gael trwy'r Gymdeithas Cynllunio Rhag Argyfwng.

Rhagolygon a chyfleoedd y dyfodol
Mae rhywfaint o ddilyniant gyrfa o lefel cymhorthydd, hyd at swyddog cynllunio rhag argyfwng a rheolwr cynllunio rhag argyfwng. Efallai bydd cyfleoedd hefyd i symud ymlaen i adrannau eraill y cyngor lleol eraill fel cynllunio a thrwyddedu, priffyrdd a chludiant, diogelwch cymunedol, neu'r gwasanaethau amgylcheddol.

Mwy o Wybodaeth a Gwasanaethau
Coleg Cynllunio Rhag Argyfwng  www.epcollege.com
Cymdeithas Cynllunio Rhag Argyfwng  www.the-eps.org
UK Resilience, gwefan swyddfa'r Cabinet http://www.cabinetoffice.gov.uk/ukresilience

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links