Cyflwyniad
Darparu gwasanaethau pwyllgor a chefnogaeth weinyddol gysylltiedig
effeithiol ac effeithlon i'r Cyngor a'i aelodau, ac, yn ogystal,
dylanwadu'n uniongyrchol ar sicrhau bod cyfarfodydd yn cael eu
trefnu a'u cynnal yn llwyddiannus o fewn system gwneud
penderfyniadau'r Cyngor a chydlynu unrhyw bwyntiau gweithredu sy'n
codi yn unol â chyfansoddiad y Cyngor a deddfwriaeth berthnasol
arall.
Amgylchedd Gwaith
Fel arfer, swydd wedi'i lleoli mewn swyddfa yw hon, ond bydd
disgwyl i ddeilydd y swydd fynychu cyfarfodydd nos mewn lleoliadau
allanol (adeiladau yn y gymuned ac ati) a gallai hyn gynnwys elfen
o weithio ar eich liwt eich hun.
Gweithgareddau Dyddiol
- sicrhau bod gofynion deddfwriaethol a gweithdrefnau'r Cyngor yn
cael eu dilyn yn iawn, er enghraifft pan fyddant yn ymwneud â'r
broses gwneud penderfyniadau ffurfiol;
- yn unol â chyfarwyddyd, trefnu a gwasanaethu nifer o Fforymau a
Threfniadau Cydweithio/Gweithgorau ayyb;
- sicrhau bod cofnodion cyfarfodydd yn cael eu cymryd yn llawn a
symud unrhyw bwyntiau gweithredu yn eu Blaenau;
- cynnal unrhyw gofnodion sy'n angenrheidiol er mwyn cyflawni
meysydd gwaith y gwasanaeth pwyllgorau;
- darparu gwasanaethau gweinyddol eraill sy'n berthnasol i
swyddogaeth ehangach y Gwasanaethau Democrataidd;
- cyd-gysylltu â'r Cyfarwyddwyr a Chadeiryddion ac
Is-gadeiryddion Pwyllgor priodol ar faterion gweithdrefnol yn
ymwneud â gwaith y pwyllgorau a materion gweithredol parthed
amserlennu rhaglenni gwaith y pwyllgorau hynny;
- rhoi cyngor i aelodau ar weithdrefnau a phrotocolau
cyfansoddiadol y Cyngor a helpu Aelodau i godi materion fel rhan
o'r broses pwyllgorau;
- cydgysylltu â swyddogion o nifer o wasanaethau o fewn y Cyngor
ynglŷn â materion a godir mewn Pwyllgorau Craffu neu gan
Gadeiryddion/Is-gadeiryddion y pwyllgorau hynny neu rai
eraill;
- cael gafael ar a chasglu tystiolaeth gan aelodau a swyddogion
yr awdurdod, sefydliadau allanol, preswylwyr lleol ac eraill ar
destunau a materion yn ôl y gofyn;
- darparu gwasanaethau cefnogol ar gyfer aelodau etholedig yn
cynnwys; datblygu cyfleoedd hyfforddi a datblygu, trefnu
cyfweliadau blynyddol cefnogi a datblygu aelodau (lle bo hynny'n
angenrheidiol), cynllunio a chyhoeddi adroddiadau blynyddol
aelodau.
Sgiliau a Diddordebau
- sensitifrwydd/ymwybyddiaeth wleidyddol;
- sgiliau ysgrifenedig a llafar o safon uchel;
- gallu i baratoi deunydd ysgrifenedig cryno a manwl, yn cynnwys
dadansoddi trafodaethau sy'n digwydd mewn cyfarfodydd a chofnodi'r
penderfyniadau a wneir;
- gallu i weithio mewn tîm yn ogystal ag yn unigol;
- trefnus;
- gallu i ymdopi dan bwysau;
- gallu i flaenoriaethu gwaith, a gweithio o fewn terfynau
amser;
- sgiliau TG o ansawdd uchel.
Gofynion Mynediad
Fel arfer, wedi cymhwyso i safon gradd neu gyfatebol ac yn meddu
ar brofiad o weithio o fewn llywodraeth leol neu amgylchedd
tebyg. Fel arall, gellid ystyried cefndir o wneud gwaith
tebyg o fewn llywodraeth leol neu amgylchedd gwaith tebyg.
Cyfleoedd a Rhagolygon ar gyfer y Dyfodol
Mae gweinyddu pwyllgorau'n cynnig gyrfa dda ynddo'i hun, ond
gallai hefyd fod yn gychwyn ar yrfa mewn gwasanaethau Cyngor neu
Gyhoeddus eraill. Yn ddibynnol ar strwythur y sefydliad , gallai
bod yn arweinydd tîm neu gael swyddogaeth reolaethol gynnig
cyfleoedd hyrwyddo ar gyfer y dyfodol.
Gwasanaethau a Gwybodaeth Bellach
Institute of Business Administration www.instam.org
Gallwch gael gwybodaeth bellach ar y maes gwaith hwn drwy Gyrfa
Cymru (www.gyrfacymru.com)
neu yn eich llyfrgell leol, y swyddfa yrfaoedd neu lyfrgell
yrfaoedd eich ysgol.
Related Links