Swyddog datblygu polisïau

Cyflwyniad
Diben swyddog datblygu polisïau yn adran gwasanaethau cymdeithasol y cyngor yw cynnal ymchwil i wasanaethau, eu trefnu a'u datblygu nhw.  Gallen nhw arbenigo yn y gwasanaethau i oedolion neu'r gwasanaethau i blant a'u teuluoedd.  Gorchwyl arall yw cynghori aelodau etholedig ac uwch reolwyr y cyngor am eu dewisiadau ynglŷn â pholisïau, cynllunio a datblygu.

Amgylchiadau'r gwaith
Yn swyddfeydd y cyngor y bydd swyddog datblygu polisïau'n gweithio gan amlaf.

Gweithgareddau beunyddiol
Bydd y dyletswyddau'n amrywio yn ôl y maes dan sylw ond dyma'r rhai cyffredinol:

  • cydweithio ag asiantaethau ac adrannau eraill i bennu ehangder datblygiadau strategol a gwasanaethau newydd;
  • trefnu a datblygu gwasanaethau newydd gan gynnwys trafod telerau ar gyfer cytundebau ag asiantaethau allanol sy'n cynnig gwasanaethau;
  • astudio cyfleoedd i gael gafael ar arian allanol;
  • cadw golwg ar ddatblygiadau a newidiadau yn y deddfau, y rheoliadau, y safonau gwladol a'r ymchwil berthnasol;
  • llunio a diweddaru datganiadau am bolisïau yn sgîl newidiadau yn y gyfraith ac arferion da;
  • hysbysu uwch reolwyr, cynghorwyr, rheolwyr gwasanaethau cymdeithasol lleol a gweithwyr cymdeithasol am oblygiadau newidiadau a datblygiadau sydd i ddod;
  • dyfeisio ffyrdd arloesol o ddatrys problemau sy'n codi;
  • llunio a rheoli prosiectau strategol pwysig;
  • arwain prosiectau sy'n adolygu effeithiolrwydd gwasanaethau, gan argymell newidiadau a gofalu eu bod yn cael eu cyflwyno;
  • meithrin perthynas dda â phobl o sawl lliw a llun megis trigolion y fro a chyrff gwirfoddol/annibynnol, gan gydweithio â nhw i benderfynu pa wasanaethau y bydd eu hangen a chomisiynu'r gwasanaethau hynny wedyn;
  • llunio canllawiau i'r staff;
  • gofalu bod cyflawniad wedi'i fonitro a bod data wedi'u casglu a'u dadansoddi - a llunio adroddiadau am y canlyniadau wedyn;
  • rheoli cyllideb.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai pwysicaf:

  • medrau trefnu da;
  • medrau rhagorol ynglŷn â rheoli prosiectau;
  • gallu dod i benderfyniadau craff;
  • gallu gweithio mewn tîm;
  • medrau cyfathrebu da - ar lafar ac ar bapur fel ei gilydd;
  • medrau negodi a dylanwadu da;
  • gallu arwain a rheoli prosesau newid;
  • gallu blaenoriaethu gwaith.

Meini prawf derbyn
Yn ôl pob tebyg, bydd angen rhai blynyddoedd o brofiad mewn swydd uchelradd yn y gwasanaethau cymdeithasol yn ogystal â gradd neu gymhwyster cyfwerth ynglŷn â gwaith cymdeithasol neu faes cysylltiedig.  Gallai fod angen profiad o gynnal ymchwil i bolisïau a llunio polisïau, hefyd.  Cymhwyster sylfaenol gweithwyr cymdeithasol yw gradd mae Cyngor Gofal Cymru yn ei gydnabod ym maes gwaith cymdeithasol.  I ennill gradd o'r fath, rhaid astudio am dair blynedd mewn prifysgol gymeradwy fydd yn pennu ei meini prawf ei hun o ran derbyn myfyrwyr.  Mae'r cymhwyster blaenorol, Diploma Gwaith Cymdeithasol (DipSW), yn cael ei gydnabod o hyd.

Bydd angen tystysgrifau TGAU gradd C neu'n uwch (neu gymhwyster cyfwerth) yn Saesneg a mathemateg i astudio ar gyfer gradd ym maes gwaith cymdeithasol.  Er bod prifysgolion yn pennu eu meini prawf eu hunain o ran derbyn myfyrwyr, gallai Safon Uwch (neu gymhwyster cyfwerth) yn y gyfraith, cymdeithaseg neu seicoleg fod o fantais.  Gallai tystysgrifau TGAU a Safon Uwch mewn pynciau galwedigaethol fod yn ddefnyddiol, hefyd.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cyngor y Galwedigaethau Iechyd a Gofal: www.hpc-uk.org
Cyngor Gofal Cymru: www.ccwales.org.uk

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links