Swyddog datblygu economaidd

Cyflwyniad
Mae datblygu economaidd mewn llywodraeth leol yn ymwneud â gwella economi ardal drwy ddenu busnesau newydd, annog cyfleoedd buddsoddi, cynyddu cyfleoedd swydd, hyrwyddo hamdden a thwristiaeth a nodi cyfleoedd ar gyfer twf a datblygu cynaliadwy.  Mae Swyddogion Datblygu Economaidd yn llunio strategaethau datblygu economaidd ac yn gweithredu camau i gyflawni hyn.

Amgylchedd Gwaith
Mae Swyddogion Datblygu Economaidd yn gweithio mewn swyddfeydd, ond maent yn treulio llawer o amser yn teithio i gyfarfodydd gyda chynrychiolwyr busnes lleol neu sefydliadau partner.
 
Gweithgareddau Dyddiol
Gall rôl Swyddog Datblygu Economaidd mewn cyngor lleol fod yn amrywiol, ac mae'n cynnwys gwaith ar lefel strategol a gweithredol.  Gall y dyletswyddau gynnwys rhywfaint o'r canlynol, os nad pob un ohonynt:

  • cynnal arolygon, gwaith ymchwil ac ymgynghoriadau er mwyn llunio strategaeth datblygu economaidd leol;
  • creu cynllun gweithredu er mwyn gweithredu'r strategaeth datblygu economaidd a monitro ei chynnydd;
  • ceisio cyfleoedd am gyllid allanol a chyflwyno cynigion;
  • rheoli projectau mewn perthynas â datblygiad economaidd a chynlluniau adnewyddu;
  • gweithio'n agos mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, gan gynnwys y Cyngor Sgiliau Sector, Llywodraeth Cymru, cynghorau cyfagos, y Siambr Fasnach a'r Ganolfan Byd Gwaith;
  • cynnig cyngor i entrepreneuriaid lleol a busnesau newydd;
  • gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau buddsoddi;
  • hyrwyddo datblygiad twristiaeth yn yr ardal;
  • annog arferion busnes cynaliadwy.

Gall rhai cynghorau mwy gyflogi Swyddogion Datblygu Economaidd mewn meysydd gwaith mwy arbenigol, fel mewnfuddsoddi, cyllid Ewropeaidd neu ddatblygu/cyngor busnes.
 
Sgiliau a Galluoedd
 Mae angen y canlynol ar swyddogion datblygu economaidd llywodraethau lleol:

  • sgiliau busnes;
  • gallu ariannol;
  • sgiliau cyfathrebu;
  • gallu i feithrin perthnasau a rhwydweithio â sefydliadau partner; 
  • sgiliau rheoli project; 
  • dealltwriaeth o ddatblygiad ac adfywio; 
  • dealltwriaeth o gyfeiriad strategol.

Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion penodol, ond mae'r rhan fwyaf o gynghorau lleol yn gofyn am radd mewn pwnc perthnasol fel economeg, cynllunio, astudiaethau busnes, daearyddiaeth neu reoli ystadau.  Gall rhai cynghorau lleol ofyn am brofiad blaenorol ym maes datblygu economaidd neu o lunio cynigion cyllido.
 
Cyfleoedd yn y Dyfodol
Gall Swyddogion Datblygu Economaidd llywodraeth leol symud i rôl fel cynorthwy-ydd datblygu economaidd neu ddatblygu busnes.  Gall fod cyfleoedd i symud i swyddi rheoli ym maes datblygu economaidd neu gyllid.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Siambrau Masnach Prydain www.britishchambers.org.uk
Ffederasiwn Sgiliau a Safonau'r Sector Diwydiant www.sscalliance.org
Sefydliad Datblygu Economaidd www.ied.co.uk
Llywodraeth Cymru www.wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/?lang=cy

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y maes gwaith hwn drwy Yrfa Cymru (www.gyrfacymru.com) neu yn eich llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links