Cynllunydd gwlad a thref

Cyflwyniad
Prif bwrpas cynllunio gwlad a thref yw gwneud y defnydd gorau o dir ac adnoddau naturiol tra'n sicrhau cadwraeth yr amgylchedd.  Mae tua 10,000 o gynllunwyr wedi eu cyflogi ym maes llywodraeth leol yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd. Maen nhw i'w cael mewn gwahanol fathau o gynghorau.  

Amgylchedd Gwaith
Gwneir mwyafrif y gwaith mewn swyddfa. Mae peth teithio ledled ardal y cyngor yn angenrheidiol i fynychu cyfarfodydd ac ymweld â safleoedd. 

Gweithgareddau dyddiol
Swyddogaeth y cynllunwyr yw sicrhau cydbwysedd rhwng y galw am dir a'i ddefnydd. A ddylid datblygu tir ar gyfer tai, ffatrioedd, parciau, ffyrdd neu ffermydd? Maen nhw'n ymgynghori â gwahanol gyrff â diddordeb ac yn gwneud argymhellion i'r pwyllgor cynllunio.  Bydd cynllunwyr yn gweithio ar lefel sirol yn cynhyrchu Cynllun Datblygu sy'n amlinellu'r blaenoriaethau datblygu, cadwraeth a gwella. Mae'r ddogfen hon yn cael ei llunio ar ôl gwaith ymchwil i ystod o faterion yn ymwneud ag anghenion tai, diwydiant, yr amgylchedd ac ecoleg ac mae'n nodi'r polisïau strategol a'r cynigion. 

Mae cynllunwyr a gyflogir gan gynghorau dosbarth yn datblygu cynllun lleol manwl o hyn, gan ystyried pryderon a chyfyngiadau lleol penodol. Bydd cynghorau unedol yn cynhyrchu 'cynllun datblygu unedol', sy'n cyfuno'r swyddogaethau 'sirol' a 'dosbarth'.  Mae cynllunwyr yn edrych ar bob cais datblygu ac yn ystyried goblygiadau'r cais. Lle bo newidiadau wedi'u cyflawni heb ganiatâd gall cynllunwyr weithredu i orfodi canlyniad boddhaol. 

Sgiliau a diddordebau
Mae angen i gynllunwyr feddu ar ddiddordeb yn yr amgylchedd ac effeithiau datblygu ar fywydau pobl. Mae'n rhaid iddyn nhw fedru cyfathrebu ag amrediad eang o bobl, yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn amrywio o aelodau etholedig, cydweithwyr proffesiynol (e.e. penseiri, cyfreithwyr ac ati) a'r cyhoedd. Mae sgiliau trefnu a gweinyddol da yn hanfodol hefyd, ynghyd â'r galluoedd i ddadansoddi data a gwneud gwaith ymchwil. 

Gofynion mynediad
Dim ond aelodau'r Sefydliad Brenhinol Cynllunio Trefol (Royal Town Planning Institute - RTPI) sy'n medru disgrifio eu hunain fel cynllunwyr tref siartredig. Er mwyn bod yn aelod o'r sefydliad hwn mae'n rhaid i chi gyflawni cwrs israddedig neu ôl-raddedig neu ddiploma wedi'i achredu gan RTPI, ynghyd â dwy flynedd o brofiad ymarferol perthnasol. 

Mae'r gofynon mynediad isafswm ar gyfer cyrsiau gradd gyntaf yn cael eu pennu gan y Prifysgolion. Fel arfer 5 TGAU/Gradd Safonol neu gymwysterau cyfatebol a 2 bwnc Safon Uwch/Gradd Uwch. Mae'r pynciau a argymhellir yn cynnwys Saesneg, Mathemateg, Hanes, Daearyddiaeth neu Ieithoedd Tramor Modern.   Gall y rhai â gradd sy'n ymwneud â chynllunio, megis pensaerniaeth, daeareg, ecoleg, pensaerniaeth tirlun, ystadegau, economeg neu gludiant, ddilyn hyn â chwrs amser llawn dwy flynedd o hyd neu gwrs rhan amser tair blynedd o hyd sy'n rhoi cymhwystwr cynllunio ôl-raddedig.  Cynigir Diploma/MA ar y cyd trwy ddysgu o bell hefyd. Cewch fanylion gan RTPI.  Yn achos staff cefnogi cynllunio mae'r hyfforddiant yn y gweithle yn arferol, ynghyd ag astudio ar gyfer tystystgrif BTEC neu dystysgrif Cenedlaethol Uwch mewn Cynllunio Gwlad a Thref neu NVQ Lefel 3 Cefnogi Cynllunio Tref. Y gofynion mynediad isafswm yw 4 TGAU/Gradd Safonol (graddau A-C), yn cynnwys Mathemateg.  

Rhagolygon a chyfleoedd yn y dyfodol
Cyflogir cynllunwyr ymhob awdurdod cynllunio lleol yn y Deyrnas Unedig. Yn gyffredinol mae'r rhagolygon dyrchafiad yn dda, ond yn aml mae'r parodrwydd i symud o gwmpas y wlad wrth i swyddi ddod yn wag yn gwella hyn. 

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Construction Skills www.citb.co.uk
Planning Officers Society www.planning officers.org.uk
Royal Town Planning Institute www.rtpi.org.uk

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links