Swyddog dylunio a chadw trefol

Cyflwyniad
Edrychwch o'ch cwmpas.  Ydych chi'n hoffi'r hyn welwch chi?  Ydy'r adeiladau newydd yn y trefi cystal â'r rhai a godwyd flynyddoedd maith yn ôl?  Ddylen ni gadw ein hen adeiladau?  Beth am erddi a chofebion cyhoeddus?  Ydyn nhw'n tynnu'ch sylw?  Ydych chi'n cytuno â barn bardd enwog y bydd rhywbeth hardd yn achosi llawenydd am byth?  Os ydych chi wedi ystyried y cwestiynau hynny ac ymddiddori yn yr atebion, gallech chi helpu i lunio'r olwg sydd ar yr amgylchedd adeiledig trwy ddewis gyrfa ym maes dylunio a chadw trefol.

Amgylchiadau'r gwaith
Bydd angen cyflawni rhywfaint o waith yn y swyddfa yn ogystal â theithio i safleoedd a chyfarfodydd cyhoeddus.  37 awr yw'r wythnos safonol er y bydd modd gweithio yn ôl oriau hyblyg.  Gallai fod rhaid gweithio gyda'r nos a thros y Sul weithiau.

Gweithgareddau beunyddiol
Prif ddiben y swydd yw llunio polisïau a chanllawiau fydd yn helpu i gadw'r amgylchedd adeiledig ac yn hybu dylunio o'r radd flaenaf o ran adeiladau newydd.  I'r perwyl hwn, dyma ddyletswyddau swyddog dylunio a chadw trefol:

  • helpu'r cyhoedd i ddeall pwysigrwydd cadw a gwella'r dreftadaeth adeiledig - nodweddion gweladwy eu hanes;
  • galluogi pobl i ddweud eu dweud am wedd yr amgylchedd a mwynhau bod yn rhan ohono;
  • cynghori aelodau etholedig, y rhai sy'n gofyn am ganiatâd cynllunio a'r cyhoedd am gadw adeiladau rhestredig, cofebion o bwys, safleoedd archeolegol, gerddi, parciau ac ati yn ogystal â chynnig taflenni gwybodaeth iddyn nhw;
  • ystyried datblygiadau arfaethedig gan gynghori am ganiatâd cynllunio i amryw brosiectau mewn ardaloedd cadwraeth a chymryd rhan yn y trafodaethau;
  • helpu i gymryd camau gorfodi a chyfreithiol pan fo angen diogelu adeiladau a nodweddion trefol eraill;
  • cydweithio â swyddogion rheoli adeiladu trwy asesu adeiladau mewn perygl gan gynnwys paratoi gwaith atgyweirio ac argyfwng;
  • paratoi tystiolaeth ysgrifenedig a chynrychioli'r cyngor yn dyst arbenigol wrth ymateb i apeliadau ynglŷn â chynllunio/gorfodi ac erlyn troseddwyr;
  • paratoi cynlluniau a manylion ynglŷn â safleoedd sydd o bwys neu'n bwnc llosg;
  • cynghori am ardaloedd cadwraeth newydd ac arfarnu eu nodweddion ar gyfer ymgeiswyr, perchnogion a phreswylwyr;
  • rheoli cynlluniau'r cyngor ar gyfer gwobrwyo gwaith dylunio a chadw rhagorol a rhoi grantiau cynnal a chadw adeiladau o arwyddocâd hanesyddol;
  • cadw dogfennau, lluniau a mapiau ynglŷn ag adeiladau o arwyddocâd, parciau, gerddi, cofebion hynafol a nodweddion eraill o ddiddordeb pensaernïol penodol.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • gwybod hanes pensaernïol a materion dylunio, adeiladu a thirlunio;
  • gwybod am adeiladau o arwyddocâd hanesyddol a gofynion y gyfraith ynglŷn â chadw adeiladau o'r fath;
  • gallu trafod telerau a chyfleu syniadau i broffesiynolion a phobl nad ydyn nhw'n arbenigwyr fel ei gilydd - ar lafar, ar bapur a thrwy luniau;
  • medrau dylunio trefol ardderchog a'r gallu i lunio deunydd eglur a manwl;
  • gallu llunio adroddiadau eglur a chryno;
  • gallu trefnu gwaith heb lawer o oruchwyliaeth;
  • ymroi i hybu cadwraeth a dylunio o'r radd flaenaf.

Fe ddylech chi allu trin a thrafod cyfrifiadur a gwybod am hen ddulliau a deunyddiau adeiladu, hefyd.

Meini prawf derbyn
Mae angen gradd neu gymhwyster cyfwerth mewn un maes neu ragor fel a ganlyn: cynllunio trefol, pensaernïaeth, cadw adeiladau o arwyddocâd hanesyddol neu ddylunio trefol.  Yn ddelfrydol, dylech chi fod yn aelod o Sefydliad Cadw'r Adeiladau Hanesyddol, Sefydliad Brenhinol y Dylunio Trefol neu Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain.

Bydd o leiaf ddwy flynedd o brofiad ar ôl ymgymhwyso yn hanfodol.  Byddai o gymorth pe baech chi wedi gweithio ym maes llywodraeth leol a chael profiad o reoli datblygu a pharatoi arfarniadau o ardaloedd cadwraeth, hefyd.  At hynny, byddai profiad o lunio polisïau a chanllawiau cynllunio, pennu manylion dylunio a sefydlu mentrau cadw hen adeiladau o bwys yn ddefnyddiol.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Bydd modd cael dyrchafiad yn y gwasanaethau cynllunio ac amgylcheddol.  Y rôl nesaf yw prif swyddog cynllunio, sy'n gyfrifol am reoli rhagor o bolisïau.  Mae swyddi uwch ym meysydd adnewyddu trefol, cadwraeth, cynllunio trefol a diogelu treftadaeth ar gael drwy'r amser.  Ar wahân i faes llywodraeth leol, mae swyddi ym maes treftadaeth.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cadw: http://cadw.wales.gov.uk
Cyngor Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol: www.cciskills.org.uk
Sefydliad Cadw Adeiladau Hanesyddol: www.ihbc.org.uk
Sefydliad Brenhinol Dylunio Trefol: www.rtpi.org.uk
Cynghrair Treftadaeth: www.theheritagealliance.org.uk

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu erthygl Sbotolau ar yrfaoedd mewn bwyd a ffermio: https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-fwyd-a-ffermio/   

Efallai bod rhagor am hyn ar wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links