Pensaer tirlunio

Cyflwyniad
Mae pensaernïaeth dirlunio mewn llywodraeth leol yn ymwneud â lle a gofod.  Gallai pensaer tirlunio fod yn dylunio nifer o ardaloedd awyr agored, o barciau dinesig neu broject adnewyddu trefol i ardal chwarae mewn coetir neu ardd hanesyddol.  Cyflogir penseiri tirlunio llywodraeth leol yn y rhan fwyaf o gynghorau mawr, fel arfer yn yr adran parciau, hamdden neu wasanaethau diwylliannol.

Amgylchedd Gwaith
Fel arfer mae Penseiri Tirlunio yn gweithio mewn swyddfeydd, ond fel arfer maent yn gwneud llawer o waith yn yr awyr agored hefyd.  Fel arfer, yr oriau gwaith yw 37 awr yr wythnos.

Gweithgareddau Dyddiol
Mae Penseiri Tirlunio llywodraeth leol yn cynllunio, dylunio a rheoli ardaloedd awyr agored sy'n addas at y diben yn ddeniadol ac yn gynaliadwy.  Maent yn adfywio ac yn datblygu hen dirluniau ac yn dylunio a chreu rhai newydd.

Gall y dyletswyddau gynnwys rhywfaint o'r canlynol, os nad pob un ohonynt:

  • cytuno ar frîff dylunio gyda chleientiaid;
  • paratoi darluniadau, brasluniau ac amcanbrisiau;
  • datblygu cynigion dylunio manwl a chynlluniau iechyd a diogelwch;
  • paratoi tendrau a dogfennaeth contract;
  • ysgrifennu adroddiadau technegol;
  • ymweld â safleoedd i gynnal arolygon neu oruchwylio gwaith sy'n mynd rhagddo;
  • cadw cofnodion cywir o ddyluniadau, costau ac ymweliadau monitro;
  • cynnig cyngor tirlunio i gydweithwyr yn y cyngor, er enghraifft, i swyddogion cynllunio ar effaith ceisiadau cynllunio ac ailddatblygiadau;
  • gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol eraill yn ystod y broses ddylunio a gweithredu, er enghraifft, peirianwyr, penseiri a chynllunwyr;
  • delio ag ymholiadau ac ymgynghori â'r cyhoedd ar brojectau tirlunio.

Bydd gwaith pensaer tirlunio llywodraeth leol yn dibynnu ar ei leoliad.  Mewn ardaloedd gwledig gall y pwyslais fod ar amaethyddiaeth, coedwigoedd a thwristiaeth, tra bod y gwaith yn aml yn ymwneud ag adfywio tai cyhoeddus, gwaith ffordd, parciau ac ardaloedd hamdden eraill mewn ardaloedd trefol.
 
Sgiliau a Galluoedd
Mae angen y canlynol ar benseiri tirlunio llywodraeth leol:

  • sgiliau dylunio graffeg a TG;
  • sgiliau cyfathrebu;
  • manwl gywirdeb;
  • creadigrwydd a sgiliau datrys problemau arloesol;
  • sgiliau ysgrifennu adroddiadau;
  • sgiliau rheoli project.

Gofynion Mynediad
I fod yn gwbl gymwys bydd angen i chi fod yn aelod llawn o Sefydliad Tirlunio.  Dylech ddechrau drwy gwblhau gradd sydd wedi'i hachredu gan y Sefydliad Tirlunio.  Fel arfer bydd angen o leiaf 2 Lefel A neu gymwysterau cyfatebol i gael mynediad i radd israddedig.  Mae cyrsiau ôl-raddedig ar gael i'r rheini nad oes ganddynt radd dosbarth cyntaf.  Mae rhestr o gyrsiau prifysgol achrededig ar gael ar wefan y Sefydliad Tirlunio.  Unwaith i chi gwblhau eich gradd yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich gwneud yn un o Aelodau Cyswllt y Sefydliad Tirlunio.  Os oes gennych brofiad gwaith perthnasol yn lle gradd achrededig, gallech gael eich gwneud yn Aelod Cyswllt o hyd.

Er mwyn gweithio tuag at aelodaeth lawn o'r Sefydliad Tirlunio, rhaid i chi gwblhau'r Llwybr Siartredig.  Mae hyn yn ymwneud â datblygu gwybodaeth a phrofiad drwy arfer proffesiynol.  Mae unigolion yn dilyn y llwybr ar eu liwt eu hunain, ond mae angen tua dwy flynedd ar y rhan fwyaf o bobl i fod yn barod ar gyfer yr arholiad llafar terfynol. Drwy gwblhau hwn yn llwyddiannus, cewch aelodaeth gyflawn o'r Sefydliad Tirlunio.  Unwaith i chi gael aelodaeth gyflawn, cewch ddefnyddio'r teitl Pensaer Tirlunio Siartredig.  Fodd bynnag, mae angen dilyn datblygiad proffesiynol parhaus drwy gydol eich gyrfa i sicrhau bod eich sgiliau yn gyfredol. 
 
Cyfleoedd ar gyfer y Dyfodol
Ceir datblygiad proffesiynol clir o fod yn Aelod Cyswllt i fod yn Aelod Llawn o'r Sefydliad Tirlunio.  Gall y rheini â llawer o brofiad symud i rolau fel uwch/prif bensaer tirlunio.  Gallai fod cyfleoedd hefyd i symud i swydd reoli, naill ai yn yr adran dylunio tirlunio neu'n ehangach yn adrannau eraill y cyngor lleol, fel pensaernïaeth, rheoli adeiladu a chynllunio.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Ysgol Gyswllt Pensaernïaeth www.landscapeurbanism.aaschool.ac.uk
Cymdeithas Diwydiannau Tirlunio Prydain www.bali.org.uk
Y Sefydliad Tirlunio www.landscapeinstitute.co.uk
Lantra www.lantra.co.uk
Cymdeithas y Tirlunwyr Proffesiynol www.landscaper.org.uk

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu erthygl Sbotolau ar yrfaoedd ym maes adeiladu: https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-adeiladu/

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y maes gwaith hwn drwy Yrfa Cymru (www.gyrfacymru.com) neu yn eich llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links