Cyflwyniad
Mae syrfewyr siartredig sy'n gweithio mewn llywodraeth leol yn gyfrifol am reoli, gwerthuso, datblygu a mesur tir, eiddo ac adeiladau.  Rhyw 8,000 sy'n cael eu cyflogi mewn llywodraeth leol ar draws y D.U., a byddant yn gweithio i bob math o awdurdodau.

Amgylchedd Gwaith
Er y bydd syrfewyr yn treulio rhywfaint o amser ar safleoedd allanol, byddant ran fynychaf yn y swyddfa'n ysgrifennu adroddiadau, yn gweinyddu ac yn darparu cynlluniau.  Bydd disgwyl iddynt deithio i gyfarfodydd hefyd, o bryd i'w gilydd.

Gweithgareddau Dyddiol

  • Bydd syrfewyr adeiladau'n gyfrifol am gynnal a chadw, trwsio a gwella pob math o eiddo sy'n perthyn i'r cyngor.  Bydd rhai syrfewyr adeiladau'n arbenigo mewn gweinyddu rheoliadau iechyd cyhoeddus, is-ddeddfau a grantiau gwella.
  • Bydd syrfewyr meintiau'n rheoli costau prosiectau adeiladu a pheirianegol y cyngor - o'r gwaith cynllunio hyd ddiwedd y prosiect.  Bydd pob darn o waith fel arfer yn cael ei osod ar gynnig, a'r syrfewyr meintiau'n ei archwilio ac yn cynghori'r cyngor ynglŷn ag agweddau technegol ar y prosiect.  Byddant hefyd yn gweithredu ar ran y cyngor pan fydd ceisiadau'n cael eu gwneud am grantiau neu gymorthdaliadau ar gyfer gwaith gwella penodol.
  • Bydd tirfesurwyr yn mesur ac yn nodi union le nodweddion tir ar gyfer mapiau a chynlluniau.  Gan ddefnyddio offer manwl, byddant hefyd yn cydweithio â mapwyr proffesiynol eraill i ddadansoddi a dehongli mapiau, darparu data a chynghori ynglŷn â materion technegol.
  • Bydd syrfewyr prisio'n trafod telerau gwerthu, prynu a phrydlesi ac yn cynghori'r awdurdod ynglŷn â gwerth tai, tir, swyddfeydd, siopau a safleoedd diwydiannol a masnachol.
  • Bydd syrfewyr cynllunio a datblygu'n arbenigo mewn pob math o waith cynllunio trefol a gwledig ac yn penderfynu sut y dylid defnyddio tir ac eiddo.
  • Bydd syrfewyr technegol yn cydweithio â syrfewyr siartredig, er mwyn llunio adroddiadau a chwilio am wybodaeth.

Sgiliau a Diddordebau
Mae angen meddwl trefnus a rhesymegol a gallu i drin rhifau a lluniadu'n fanwl ar gyfer bod yn syrfëwr.  Bydd disgwyl i chi allu cyfathrebu a chyd-dynnu'n dda â phobl eraill (aelodau o'r cyhoedd, cydweithwyr proffesiynol eraill, adeiladwyr, contractwyr ac ati.  Bydd disgwyl hefyd i chi allu gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol, dibynnu ar eich adnoddau eich hun a gweithio yn yr awyr agored.

Gofynion Derbyn
Nod yr hyfforddiant proffesiynol yw eich cymhwyso ar gyfer aelodaeth gorfforaethol o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig.  Er mwyn cofrestru, bydd angen gradd a'r cymwysterau derbyn canlynol: pum TGAU/Gradd Safonol (graddau A-C) a dwy Safon Uwch/Radd Uwch neu gymhwyster cyfatebol.  Os oes gennych radd gydnabyddedig berthnasol (mewn arolygu meintiau neu reoli stadau, er enghraifft) bydd angen o leiaf dwy flynedd o brofiad gwaith strwythuredig arnoch hefyd.  Os nad yw eich gradd yn berthnasol, bydd disgwyl i chi ddilyn cwrs cydnabyddedig ar gyfer graddedigion un ai am flwyddyn (amser llawn) ynteu dwy flynedd (rhan-amser).

Bydd angen un ai tystysgrif o'r Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg neu Awdurdod Cymwysterau'r Alban ynteu Tystysgrif neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch mewn pwnc perthnasol fel eiddo, yr amgylchedd adeiledig neu adeiladu, o leiaf, er mwyn cael eich derbyn.  Os mynnwch, cewch ddysgu bod yn syrfëwr technegol - am fwy o wybodaeth am hyn, cysylltwch â Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig.  Ar ôl dod yn syrfëwr technegol, bydd y ffordd yn glir wedyn i chi symud ymlaen at gwrs syrfewyr siartredig.

Rhagolygon a Chyfleoedd yn y dyfodol
Bydd syrfewyr yn cael eu cyflogi'n helaeth ar draws llywodraeth leol.  Serch hynny, y mae mwy o gyfle arbenigo mewn awdurdodau mawr.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig www.rics.org
Sgiliau Adeiladu www.citb.co.uk

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu erthygl Sbotolau ar yrfaoedd ym maes adeiladu: https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-adeiladu/

Cewch fwy o wybodaeth am y maes hwn, drwy gysylltu â Gyrfa Cymru (www.careerswales.com/) eich llyfrgell leol, eich swyddfa yrfaoedd neu lyfrgell yrfaoedd yr ysgol.

Related Links