Swyddog cofebion

Cyflwyniad
Yn wahanol i fynwentydd, lle mae modd gosod carreg ar fedd rhywun sydd wedi'i gladdu yno, mae amlosgi'n llai amlwg.  Dyna pam mae'r awdurdodau lleol yn cynnig amryw gynlluniau sy'n helpu pobl i fynegi eu galar.  Mae swyddogion cofebion yn ymwneud â gwerthu, cofnodi a chynnal/cadw amryw drefniadau er cof am rywun - blodau, llech neu rodd i elusen - yn ogystal â gosod cofebion a gwasgaru llwch corff sydd wedi'i losgi.  Mae swyddogion o'r fath ym mhob awdurdod lleol - ymhlith staff gwasanaethau profedigaeth cyfadran y gwasanaethau cymdeithasol, fel arfer.

Amgylchiadau'r gwaith
Byddwch chi'n gweithio mewn swyddfa ar safle amlosgfa a mynwent, gan amlaf.  37 awr yw'r wythnos safonol.  Gallai fod angen gweithio ar ddydd Sadwrn, hefyd.  Rhaid gwisgo'n briodol ac efallai y bydd gwisg swyddogol ddu ar gael.

Gweithgareddau beunyddiol
I roi cymorth i bobl sy'n galaru, rhaid i swyddogion cofebion wneud y canlynol:

  • gwerthu cynlluniau cofio yn ôl cyfarwyddiadau a gwybodaeth clientiaid, gan gynnwys pennu prisiau a chasglu'r arian;
  • casglu'r ffurflenni priodol a'u cyflwyno i ganolwr meddygol fel y gall y llosgi fynd rhagddo yn ôl y bwriad;
  • helpu clientiaid i ddewis cofeb o blith amrywiaeth o gynlluniau cofio naill ai trwy'r post, dros y ffôn neu'n bersonol;
  • cofnodi ac adnewyddu cynlluniau a thynnu cofebion ar ôl iddyn nhw ddyddio;
  • archebu cofebion o gwmnïau arbenigol a'u dodi yn y mannau priodol neu eu gosod â hoelion troi yn ôl cyfarwyddiadau'r client;
  • mynd gyda'r galarwyr i Ardd y Cofio a'u helpu i gladdu neu wasgaru'r llwch;
  • cyflawni unrhyw orchwylion gweinyddu ar ôl y seremoni.

Medrau a diddordebau
Rhaid wrth agwedd dringar gan wybod pryd y dylech chi fod yn gynnil ond yn effeithlon fel na fydd galarwyr yn gorfod trin a thrafod materion gweinyddol.  Felly, bydd eisiau:

  • medrau cyfathrebu da ar lafar ac ar bapur;
  • gallu defnyddio cyfrifiadur;
  • gallu gweithio'n effeithiol ac yn fanwl gywir o dan bwysau;
  • gallu cadw a chanfod gwybodaeth;
  • gallu cynllunio;
  • agwedd ystyriol, amynedd a dealltwriaeth; 
  • medrau trefnu.

Meini prawf derbyn
Bydd hynny'n dibynnu ar natur y rhinweddau personol sydd wedi'u disgrifio uchod, er y bydd angen TGAU yn y Gymraeg/Saesneg a mathemateg, fel arfer.  Bydd profiad yn bwysicach na hynny, fodd bynnag.  Byddai rhai blynyddoedd o brofiad o weithio gyda phobl sy'n mynd trwy brofedigaeth ac ymdrin â'r cyhoedd yn bersonol a thros y ffôn yn ddefnyddiol.  At hynny, byddai disgwyl ichi fod yn brofiadol ynglŷn â chadw cofnodion papur a chyfrifiadurol yn ogystal â chyflawni gorchwylion ariannol.  Byddai o gymorth pe baech chi'n deall rhywfaint am arferion amryw grefyddau, hefyd.

Gobeithion a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol
Dyma faes eithaf cyfyng ond mae modd cael eich dyrchafu'n oruchwyliwr amlosgfa, swyddog gwasanaethau profedigaeth neu arolygydd mynwentydd ar ôl cael rhagor o gymwysterau a phrofiad.  Mae cyfleoedd gyda threfnwyr angladdau preifat, hefyd.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Ffederasiwn Awdurdodau Claddu ac Amlosgi: www.fbca.org.uk
Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd: www.iccm-uk.com

Gallai fod rhagor o wybodaeth ar wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links