Swyddog technegol, rheoli llygredd

Cyflwyniad
Nid oes raid i chi fod wrth eich bodd â charthffosiaeth i weithio yn uned rheoli llygredd y gwasanaethau amgylcheddol. Ond, fel swyddogion technegol eraill yn yr uned, gallech fod yn treulio tipyn o'ch amser yn delio â chwynion am amrywiaeth o broblemau sy'n poeni'r gymuned leol. Byddai llawer o'r rhain yn golygu ymosodiad ar y synhwyrau i gyd i ryw raddau - sŵn, arogleuon, llwch, cŵn yn cyfarth neu gynigion cynllunio newydd.

Ond rhan o'r ateb yw rheoli llygredd, nid y broblem. Gwaith positif yw gwaith y swyddog technegol. Maent yn ysbrydoli ac arwain pobl i wella'r amgylchedd ar ran pawb. Mae swyddogion technegol yn adran iechyd yr amgylchedd yn sicrhau fod ble mae pobl yn byw ac yn gweithio yn lân a diogel, a gallant gael llawer o foddhad o ddatrys problemau pobl.

Yr Amgylchedd Gwaith
Mae'r gwaith yn golygu teithio'n lleol i bob math o leoliadau y tu mewn a'r tu allan yn cynnwys siopau, caffis, bwytai, warysau, tafarndai, ffatrïoedd, cartrefi ac amryw o safleoedd eraill. Mae swyddogion technegol yn monitro ac asesu llygredd sŵn ac aer yn ogystal ag weithiau ymchwilio i dai budr neu bentyrrau o sbwriel sy'n creu niwsans.

Gweithgareddau Dyddiol
Gyda'u hoffer monitro sŵn a dirgryniad neu nwy methan, mae swyddogion technegol yn mynd i mewn i'r gymuned ac yn barnu a yw'r cwynion a dderbyniant yn niwsans statudol. Maent yn siarad â'r bobl sy'n cwyno ac yn cymryd mesuriadau - lefel y sŵn a lleoliad cŵn sy'n cyfarth, naill ai'n eiddo preifat neu mewn cytiau cŵn, neu effeithiau llygrol gwaith carthion nad yw'n gweithio'n iawn, er enghraifft. Yna maent yn ysgrifennu adroddiadau a hanesion achos ac yn ystyried a oes angen cyflwyno hysbysiad atal sŵn neu hysbysiad cyfreithiol arall. Ond i ddechrau byddant yn ceisio cael y bobl sy'n gyfrifol am y broblem i gytuno i gymryd camau cyn bo'n rhaid gwneud hynny. Tri o'r prif feysydd pryder arbennig yw: ymwybyddiaeth sŵn, ansawdd yr aer a thir halogedig.

Wrth ymchwilio i gwynion, mae'n rhaid i swyddogion technegol ddefnyddio'u blaengaredd a gweithio mewn tîm ac ar eu pennau eu hunain. Mae'n rhaid iddynt gysylltu â chydweithwyr sydd ag arbenigeddau gwahanol a chydag adrannau eraill, gyda rheolwyr cwmni, cynghorwyr lleol a'r cyhoedd. Ond nid yw'n negyddol i gyd. Yn aml iawn caiff staff iechyd yr amgylchedd eu croesawu gan bobl mewn pob math o lefydd oherwydd y gefnogaeth a'r diogelwch y gallant eu cynnig.

Sgiliau a Diddordebau
Mae'n bwysig iawn meddu ar:

  • allu ymarferol; 
  • rhoi sylw i fanylder; 
  • natur ofalgar; 
  • hyder; 
  • y gallu i ddod ymlaen â phobl o wahanol gefndiroedd; 
  • sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar; 
  • tact; 
  • cadernid a bod yn ddiduedd; 
  • dealltwriaeth wyddonol a thechnegol.

A byddai'n ddefnyddiol i fod:

  • â diddordeb mewn cefn gwlad; 
  • yn rheolwr prosiect medrus; 
  • yn gallu trin ffigyrau; 
  • yn drefnus wrth gasglu ffeithiau a gwybodaeth.

Gan fod delio â phobl a allai fod yn ymosodol ac afresymol yn aml yn rhan fawr o'r swydd, dylai'r swyddog fod yn amyneddgar, yn ddi-ffws ac â digon o dact. Yn aml gellir datrys problemau yn anffurfiol drwy wrando'n dawel ar bob safbwynt ac felly osgoi gorfod cyflwyno hysbysiadau cyfreithiol. Byddai o ddefnydd cael profiad gwyddonol neu dechnegol blaenorol.

Gofynion Mynediad
Y gofynion mynediad arferol yw gradd mewn gwyddor amgylcheddol neu wyddorau eraill. Disgwylir hyfforddiant yn y swydd tuag at gymwysterau galwedigaethol (S/NVQs) a datblygiad proffesiynol parhaus drwy gyrsiau neu fel aelod o gorff proffesiynol.

Rhagolygon a chyfleoedd i'r dyfodol
Gan fod pob Awdurdod Lleol yn cyflogi Swyddogion Llygredd Technegol, mae cyfle i ehangu profiad a symud ymlaen i swyddi uwch yn rhai Awdurdodau. Mae rhai Swyddogion wedi llwyddo i symud o fod yn Swyddog Llygredd Technegol i gymhwyso fel Swyddog Iechyd yr Amgylchedd.

Swyddi Cysylltiedig
Dilynwch y ddolen hon i weld rhestr o'r holl swyddi cysylltiedig yn Gwarchod Eich Cymuned.  Neu, dilynwch y ddolen hon i weld yr holl ddisgrifiadau gyrfa yn yr un maes swydd .

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Gwybodaeth am yrfaoedd yn Iechyd yr Amgylchedd www.ehcareers.org
Y Gymdeithas Frenhinol er Hybu Iechyd www.rsph.org

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/

Related Links