Cyflwyniad
Bydd swyddogion iechyd amgylcheddol yn archwilio safleoedd er mwyn
sicrhau bod mannau byw pobl yn ddiogel ac yn lân, a safonau iechyd
yn cael eu cynnal. Mae graddau a chymwysterau proffesiynol gan
swyddogion iechyd amgylcheddol. Byddant yn cael eu cefnogi yn eu
gwaith gan gynorthwywyr technegol. Bydd cynorthwywyr
technegol yn gweithio i gynghorau dosbarth/bwrdeistref ac unedol a
chynghorau prifddinasoedd. Bydd eu dyletswyddau fel arfer yn
newid o gyngor i gyngor. Ni fydd cynorthwywyr technegol o
gwbl mewn rhai cynghorau ac o dan amgylchiadau felly swyddogion
technegol neu orfodi sy'n gwneud y gwaith.
Amgylchedd Gwaith
Mae cynorthwywyr technegol wedi'u lleoli mewn swyddfeydd yn yr
adran iechyd amgylcheddol. Serch hynny, byddant yn treulio
cyfran helaeth o'u hamser ar ymweliadau. Bydd yn rhaid iddynt
weithiau ymweld â mannau annifyr a mannau a allai fod yn
beryglus. Pan fo angen, byddant yn gwisgo mygydau a dillad ac
esgidiau gwarchod. Byddant fel arfer yn gweithio am 37 awr yr
wythnos, ac o bryd i'w gilydd, bydd disgwyl iddynt gynnal
ymweliadau ben bore ac ar y penwythnos.
Gweithgareddau Dyddiol
Bydd cynorthwywyr technegol yn gweithio mewn un neu ragor o'r
meysydd hyn: arolygon hylendid bwyd; arolygon iechyd a diogelwch;
arolygon grantiau tai; arolygon trwyddedu; gwaith archwilio cwynion
a'r drefn orfodi. Er bod ganddynt hawl i drafod gwaith achos
lle nad oes llawer o berygl, ni chaniateir iddynt gymryd camau
gorfodi eu hunain nac ysgogi achosion cyfreithiol. Serch
hynny, byddant weithiau'n gweithredu fel 'tystion ffeithiau' mewn
achosion llys pan fydd y cyngor yn erlyn aelod o'r cyhoedd.
Bydd cynorthwywyr technegol sy'n archwilio hylendid bwyd neu iechyd
a diogelwch, weithiau'n 'gweithio yn y maes' mewn ardal ddaearyddol
neu grŵp o adeiladau penodol. Rhennir adeiladau i wahanol
gategorïau yn ôl perygl. Y cynorthwywyr technegol fydd yn
archwilio'r adeiladau lle nad oes llawer o berygl - siopau cornel
lle nad oes bwyd sydd heb ei orchuddio, er enghraifft - tra bod
swyddogion iechyd amgylcheddol yn ymweld â phoptai a ffatrïoedd lle
mae bwyd yn cael ei brosesu. Byddant yn cyflwyno adroddiadau
ac argymhellion i'w swyddog iechyd amgylcheddol neu arweinydd tîm
wedyn, a fydd o bosibl yn cymryd camau pellach.
Bydd cynorthwywyr technegol hefyd yn ymweld â siopau
anifeiliaid, mannau gwarchod anifeiliaid dros dro a mannau
adloniant cyhoeddus pan fydd arnynt angen adnewyddu eu trwyddedau
blynyddol. Pan fydd unrhyw broblemau iechyd a diogelwch amlwg
- gwifrau trydan ar hyd y llawr, er enghraifft - neu lefel sŵn
annerbyniol mewn disgo - byddant yn rhoi gwybod ar unwaith i'w
harweinydd tîm.
Caiff perchnogion tai ymgeisio i'r cyngor am grantiau ar gyfer
adnewyddu neu drwsio eu heiddo. Bydd cynorthwywyr technegol
sy'n arbenigo mewn gwaith grantiau tai'n darllen y ffurflenni cais
hyn ac yn mynd ati i asesu'r eiddo dan sylw. Os ydynt o'r
farn y dylid gwneud y gwaith, byddant yn gofyn am fanylion incwm yr
ymgeiswyr am fod grantiau'n cael eu seilio ar brawf moddion.
Byddant yn bwrw golwg dros yr holl waith papur wedyn ac efallai'n
argymell cymeradwyo'r grant. Bydd y cynorthwywyr technegol yn
hysbysu'r perchennog o'r swm sy'n cael ei gynnig ac yn gofyn am
amcangyfrif o gost y gwaith. Caiff yr holl fanylion ariannol
eu cymeradwyo gan uwch reolwr wedyn. Yn olaf, bydd y
cynorthwyydd technegol yn sicrhau bod y gwaith wedi'i wneud yn
gywir. Dyma un adeg yn ystod archwiliad iechyd amgylcheddol y
bydd perchennog yn falch o gael clywed nad yw ei eiddo wedi
cyrraedd y safon!
Sgiliau a Diddordebau
Mae'n rhaid i gynorthwywyr technegol:
- fod yn ofalus ac yn drefnus;
- allu cofnodi manylion yn fanwl gywir;
- allu ysgrifennu adroddiadau eglur;
- allu cyfathrebu'n rhagorol;
- allu cyd-dynnu â phobl o bob cefndir;
- fod yn ddigyffro ac yn foneddigaidd bob amser - gall perchennog
weithiau fod yn ymosodol pan fydd rhywun yn ymweld â'i
eiddo;
- fod yn ddyfal ac yn hyderus.
Bydd angen gwybodaeth wyddonol a thechnegol arnynt yn ogystal â
dealltwriaeth o hylendid bwyd a rheolau iechyd a diogelwch hefyd
pan fo hynny'n berthnasol.
Gofynion derbyn
Mae'r rheiny'n amrywio; gallai cynghorau ofyn am amryw o
gymwysterau TGAU/Graddau Safonol neu Safonau Uwch/Raddau
Uwch. Weithiau bydd yn well ganddynt petai gan ymgeiswyr
hefyd rywfaint o brofiad a chymwysterau addas fel Tystysgrif
Archwilio Safleoedd Bwyd, Tystysgrif Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
neu Ddiploma mewn Materion Defnyddwyr.
Rhagolygon a Chyfleoedd
Cewch ddilyn hyfforddiant er mwyn ymgymhwyso fel swyddog iechyd
amgylcheddol. Weithiau, bydd cynghorau'n noddi rhai
sy'n ymgymhwyso ar gyfer dilyn cwrs gradd mewn Iechyd
Amgylcheddol. (Fel arfer, bydd angen safonau Uwch yn y
Gwyddorau neu gymwysterau cyfatebol arnoch, ond bydd rhai
prifysgolion yn derbyn ymgeiswyr profiadol heb gymwysterau
safonol). Cewch hefyd wneud cwrs gradd rhan-amser dros gyfnod
o bump neu chwe blynedd.
Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Sefydliad Siartredig Iechyd Amgylcheddol www.ehcareers.org/default.aspx
Cewch ragor o wybodaeth am y math hwn o waith drwy gysylltu â
Gyrfa Cymru (www.careerswales.com/),
eich gwasanaeth lleol, eich swyddfa yrfaoedd neu lyfrgell yrfaoedd
eich ysgol.
Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn
STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/