Swyddog ewropeaidd

Cyflwyniad
Mae gan Swyddogion Ewropeaidd rôl gydlynol yn cysylltu adrannau llywodraeth leol, busnesau lleol, adrannau'r llywodraeth a'r Undeb Ewropeaidd. Un o'r prif dasgau yw sicrhau cyllid yr UE ar gyfer eu hawdurdodau a sefydliadau eraill yn yr ardal.

Amgylchedd Gwaith
Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith yn digwydd mewn swyddfa yn swyddfeydd yr awdurdod lleol. Fodd bynnag, mae teithio yn rhan hanfodol o'r gwaith, ledled y DU ac Ewrop.

Gweithgareddau dyddiol
Rhan bwysig o'r gwaith yw paratoi cynigion i ddenu grantiau UE (datblygu economaidd, twristiaeth, hyfforddiant diweithdra ac ati). Yn aml mae Swyddogion Ewropeaidd yn cysylltu ag ystod eang o fudd-ddeiliaid gan gynnwys cynrychiolwyr o adrannau llywodraeth leol a chenedlaethol, cyrff proffesiynol, sectorau preifat a gwirfoddol. Yn aml maent yn gweithio gyda chynrychiolwyr o wledydd Ewropeaidd eraill ar brosiectau. Mae gwneud cais am arian yr UE yn parhau yn rhan bwysig o'r gwaith. Ymateb yn effeithiol i ffurflenni cais a anfonwyd gan yr Undeb Ewropeaidd ac adrannau arbenigol y llywodraeth; mae gweithio i derfynau amser ac ysgrifennu canllawiau yn bwysig.

Mae Swyddogion Ewropeaidd yn datblygu systemau i fonitro prosiectau llwyddiannus. Maent hefyd yn cadw golwg ar gronfeydd eraill sydd ar gael. Yn aml, mae gan gynrychiolwyr gysylltiad ag Aelodau o Senedd Ewrop i'w briffio ar faterion yn yr awdurdod lleol. Gall rhwydweithio rhwng gwahanol ardaloedd yn Ewrop gyda chefndir amaethyddol neu ddiwydiannol tebyg hefyd arwain at rannu profiadau a rhoi atebion i'r ddwy ochr. Mae gan Swyddogion Ewropeaidd gysylltiad ag aelodau o'r cyhoedd sy'n ffonio er enghraifft ag ymholiadau ar ddeddfwriaeth Ewropeaidd newydd, neu sydd angen gwybodaeth am gyllid sydd ar gael.

Sgiliau a Diddordebau
Mae'n rhaid i Swyddogion Ewropeaidd allu cyfathrebu'n dda yn ysgrifenedig ac ar lafar er mwyn trosglwyddo a chaffael gwybodaeth (gymhleth yn aml) i bobl o bob cefndir. Mae hefyd angen sgiliau trefnu da, yn ogystal â sgiliau ymchwil a chyllid.

Gofynion Mynediad
Mae gan y rhan fwyaf o Swyddogion Ewropeaidd radd/ HND neu gymwysterau cyfwerth, sy'n ddymunol. Mae'r graddau perthnasol yn cynnwys naill ai economeg neu bolisi cyhoeddus gydag ieithoedd. Mae prifysgolion yn cynnig ystod o gyrsiau gyda modiwlau astudiaethau Ewropeaidd.

Ar y cyfan, bydd gan Swyddogion Ewropeaidd brofiad blaenorol mewn adrannau cynllunio neu gyllid neu ddatblygiadau economaidd. Mae deall cyfrifiaduron yn bwysig a byddai bod yn rhugl mewn iaith Ewropeaidd arall heblaw am Saesneg yn fanteisiol. Darperir hyfforddiant pellach yn aml yn y swydd.

Rhagolygon a chyfleoedd y dyfodol
Mae yna gyfleoedd i ddatblygu yn y swydd a dysgu sgiliau y gellir eu trosglwyddo megis sgiliau rheoli prosiect. Mae swyddi'n aml yn cael eu hariannu gan grant o gronfeydd Ewropeaidd ac mae llawer o'r swyddi â chontractau tymor penodol.

Mwy o Wybodaeth a Gwasanaethau
Undeb Ewropeaidd http://europa.eu/index_en.htm
Sefydliad Datblygu Economaidd www.ied.co.uk
European Social Fund http://ec.europa.eu/esf/home.jsp
European Regional Development Fund http://www.communities.gov.uk/regeneration/regenerationfunding/europeanregionaldevelopment/
Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru http://wefo.wales.gov.uk/?lang=en
 
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links