Uwch swyddog polisi/swyddog datblygu partneriaethau

Cyflwyniad
Mae swyddogion polisi a phrojectau'n cyflawni amryw ddyletswyddau strategol.  Bydd gan y rhan fwyaf ohonynt arbenigeddau fel datblygu a gweithredu polisïau cynhwysiant a phartneriaethau cymdeithasol.  Yn ei hanfod, ystyr hyn yw gweithio i sicrhau bod y cyngor yn cysylltu â'r cyhoedd a bod ei holl wasanaethau ar gael iddynt mewn ffordd agored ac atebol.  Mae'r swydd yn bodoli mewn pob math o awdurdod.

Amgylchedd Gwaith
Bydd yn gweithio mewn swyddfa yn bennaf, a gall gynnwys mynychu cyfarfodydd y cyngor.  Efallai y bydd angen teithio'n lleol ac yn y rhanbarth.  Bydd defnydd sylweddol o gyfrifiadur.  Mae'r oriau contract yn amrywiol a gallant gynnwys rhywfaint o waith gyda'r nos ac ar y penwythnos i alluogi cyfarfodydd gyda phartneriaid mewnol ac allanol.

Gweithgareddau Dyddiol
Bydd angen delio â materion cymhleth a sensitif ar ran y Prif Weithredwr a'r Dirprwy ar faterion polisi ar lefel uchel.  Gall hyn gynnwys sicrhau y delir â chwynion yn briodol - lle bo ymrwymiadau o ran cydraddoldeb yn cael eu torri neu lle bo perygl i'r gymuned, er enghraifft - sy'n cynnwys gweithio gyda gwasanaethau cwsmeriaid, rheolwyr ansawdd a busnes a rheolwyr eraill er mwyn cynnal egwyddorion democrataidd y cyngor.  Mae'r swyddog datblygu partneriaethau yn allweddol i'r berthynas hon rhwng yr awdurdod a'r cyhoedd, a bydd yn gyfrifol am ddatblygu partneriaethau â'r heddlu, darparwyr iechyd, grwpiau cymunedol, asiantaethau gwasanaeth cymdeithasol ac ati.  Mae hyn yn cynnwys cysylltu ag adrannau eraill, asiantaethau allanol a grwpiau cymunedol, gweithredu polisïau mewn rhaglenni ar gyfer dwyn cymunedau ynghyd: eu helpu gyda thai, hawl am fudd-daliadau, cyflogaeth, gofal, gwahaniaethu ac ati.  Bydd cyswllt dyddiol â'r sector gwirfoddol a gweithredwyr cymunedol. Bydd yn cynnwys ymchwilio a llunio adroddiadau a dogfennau polisi, gwerthuso a monitro cynlluniau mewn ymgynghoriad â swyddogion project polisi a rheoli anghenion cyllido.  Bydd angen cryn dipyn o siarad a thrafod, ysgrifennu a meddwl fel rhan o'r swydd.  Bydd angen gwneud cyflwyniadau i grwpiau amrywiol yn y cyngor a thu hwnt yn barhaus, a byddant wedi'u dylunio i roi gwybodaeth syml ac arweiniad iddynt.  Y nod cyffredinol yw sicrhau bod gwaith yr awdurdod a'i bartneriaid yn trin pawb yn deg, waeth beth fo'u dosbarth, statws neu grŵp ethnig - i leihau allgau cymdeithasol drwy gydweithredu.  Drwy hyn, bydd y swyddog datblygu partneriaethau yn sicrhau bod y cyngor yn bodloni ei rwymedigaethau statudol i gynnig arfer gorau yn seiliedig ar yr egwyddorion gorau. Bydd swyddogion yn gweithio ar eu liwt eu hunain yn bennaf, ond mewn cydweithrediad agos ag eraill ac o fewn terfynau amser, er nad oes angen iddynt gwblhau dyletswyddau penodol bob diwrnod neu bob wythnos.  Mae'r gwaith hefyd yn cynnwys rheoli projectau arbennig, er enghraifft:

  • mentrau ansawdd a pherfformiad; 
  • partneriaethau cymdogaethol a strategaethau adnewyddu; 
  • cymalau cymdeithasol wrth gaffael contractau; 
  • gwasanaethau i geiswyr lloches, gan gynnwys cymorth o ran mynediad i gyfleusterau'r cyngor; 
  • trefniadau prynu, e.e. tai i bobl ag anghenion arbennig; 
  • moderneiddio llywodraeth leol.

Sgiliau a Galluoedd
Bydd angen y canlynol arnoch:

  • sgiliau dadansoddi; 
  • sgiliau cyfathrebu yn ysgrifenedig ac ar lafar; 
  • dealltwriaeth o eraill a pharch tuag atynt; 
  • dealltwriaeth o lywodraeth leol, anghenion lleol ac ymwybyddiaeth wleidyddol; 
  • sgiliau cyflwyno; 
  • y gallu i reoli projectau; 
  • hyder; 
  • sgiliau rhifedd; 
  • sgiliau rhyngbersonol.

Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion penodol, ond bydd angen lefel dda o addysg, yn ddelfrydol i lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol.  Mae profiad o waith yn y maes hwn, sef gwaith a rheolaeth gymdeithasol/cymunedol, yn arbennig mewn llywodraeth leol, yn hanfodol.  Byddai angen i ymgeisydd ddangos ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus i sicrhau ei fod yn gwybod am newidiadau a datblygiadau i bolisi cenedlaethol a pholisi'r Undeb Ewropeaidd, ond nid oes cymhwyster galwedigaethol.

Cyfleoedd yn y Dyfodol
Nid oes llawer o gyfleoedd am ddyrchafiad, ond gellir trosglwyddo'r sgiliau sydd eu hangen i wneud y swydd i lawer o rolau uwch reoli eraill.  Y cam naturiol nesaf fydd i rôl prif reolwr gwasanaethau yn un o'r cyfarwyddiaethau.  Gall hyn olygu y bydd angen i chi symud i gyngor neu adran wahanol, ond bydd yn bosibl cael swydd fel prif weithredwr cynorthwyol, a cheir swyddi ar lefel uchel mewn unedau polisi canolog.  Gall fod llawer o gyfleoedd y tu allan i awdurdodau lleol gyda'r llywodraeth ganolog, neu mewn swyddi rheoli strategol yn y sector preifat.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Cymdeithas Llywodraeth Leol www.lga.gov.uk
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru www.wlga.gov.uk

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y maes gwaith hwn drwy Yrfa Cymru (www.gyrfacymru.com) neu yn eich llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links