Swyddog cynllunio

Cyflwyniad
Prif ddiben cynllunwyr yw defnyddio tir ac adnoddau naturiol yn y modd gorau wrth ddiogelu'r amgylchedd.  Y gamp yw penderfynu a ddylai'r tir gael ei ddefnyddio ar gyfer tai, diwydiannau, manwerthu ac ati a gorfodi pawb i gadw at amodau cynllunio lle bo angen a modd.  Mae rhaid i gynllunwyr drin a thrafod dyletswyddau a gofynion yn ôl Deddf 'Cynllunio Gwlad a Thref' a deddfau cysylltiedig.  Dylai'r rhai a hoffai godi adeilad, datblygu tir neu newid ei ddibenion yn ardal awdurdod lleol gael caniatâd yr awdurdod cynllunio lleol gyntaf oni bai bod modd bwrw ymlaen yn unol â Gorchymyn Caniatáu Datblygu Cyffredinol Deddf 'Cynllunio Gwlad a Thref' 1995.  Trwy gyfrwng y fframwaith hwnnw y bydd swyddogion cynllunio'n cynorthwyo eu huwch swyddogion ym mhob un o awdurdodau Cymru.

Amgylchiadau'r gwaith
A chithau'n swyddog cynllunio, byddwch chi'n treulio peth amser o dan do - mewn swyddfa, yn bennaf, ond mewn ambell ganolfan gymunedol neu neuadd dref pan fo achlysuron megis cyfarfodydd cyhoeddus, hefyd - a pheth amser yn yr awyr agored i ymweld â safleoedd beth bynnag fo'r tywydd.  Byddwch chi'n gweithio yn ôl yr oriau safonol fel arfer, er y gallai fod angen cwrdd â phreswylwyr neu adeiladwyr y tu allan i oriau'r swyddfa weithiau.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae gweithgareddau swyddog cynllunio bob dydd yn ymwneud â diwallu anghenion uwch swyddogion cynllunio a thrin a thrafod achosion unigol.  Er enghraifft:

  • gwirio dilysrwydd ceisiadau sydd wedi'u cyflwyno a chydgysylltu ag asiantau ac ymgeiswyr ynglŷn â'r wybodaeth sydd i'w chyflwyno gyda chais, unrhyw wallau ac ati; 
  • gofalu bod ceisiadau'n ddilys, bod yr ymgynghori wedi cynnwys pob un o'r bobl berthnasol, bod hysbysiadau perthnasol ar safleoedd ac ati; 
  • ymchwil, gwerthuso ac adroddiadau ynglŷn â cheisiadau yn ôl y targedau y cytunwyd arnyn nhw, fframwaith polisïau'r awdurdod a chyfyngiadau'r safle; 
  • paratoi cynghorion i gwsmeriaid a hoffai gyflwyno cais; 
  • cynghori cwsmeriaid dros y ffôn, trwy lythyr/ebost ac yn bersonol ynglŷn â materion cynllunio a'r datblygu sydd wedi'i ganiatáu; 
  • casglu, sganio a chofnodi gwybodaeth am ymholiadau cyn cyflwyno cais a'r amryw geisiadau am ganiatâd cynllunio; 
  • cydweithio â chontractwyr, awdurdodau lleol, cyrff ac asiantaethau allanol, ymgynghorwyr cynllunio, cynghorwyr, adeiladwyr a'r cyhoedd; 
  • ychwanegu at ansawdd datblygu a dylunio trwy broses cyflwyno ceisiadau am ganiatâd cynllunio; 
  • cydlynu a mynychu cyfarfodydd yn y ganolfan ddinesig ac ar safleoedd i drin a thrafod cynigion datblygu, mynegi barn a negodi newidiadau lle bo angen; 
  • gwirio ac asesu cynigion datblygu yn ôl y gyfraith ynglŷn ag asesu effeithiau ar yr amgylchedd; 
  • monitro prosiectau sydd wedi'u cwblhau i ofalu eu bod wedi cadw at amodau cynllunio; 
  • ymchwilio i unrhyw achosion a chyhuddiadau o dorri amodau; 
  • cynorthwyo yn ystod proses cyflwyno apêl; 
  • cymryd camau gorfodi yn ôl yr angen (dan oruchwyliaeth uwch swyddogion cynllunio).

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai pwysicaf:

  • bod yn fanwl gywir;
  • gallu trin a thrafod cyfrifiadur;
  • gallu gweithio'n hyblyg gan ymateb i amryw geisiadau a'u prosesu nhw yn ôl amserlen benodol;
  • cyfathrebu'n dda â phobl o bob lliw a llun - gan esbonio materion cynllunio mewn modd eglur a chryno yn ogystal â llunio adroddiadau;
  • gallu gweithio'n dda mewn tîm;
  • agwedd dringar, negodi'n dda a gallu pwyso a mesur amryw safbwyntiau;
  • gallu darllen, deall ac esbonio cynlluniau a chynigion;
  • diddordeb ym mhob rhan o'r amgylchedd - gwledig a threfol fel ei gilydd;
  • gallu rheoli amser yn effeithiol a phrosesu ceisiadau, ateb llythyrau, ffonio pobl yn ôl ac ati yn ôl y targedau perthnasol;
  • trwydded yrru.

Meini prawf derbyn
I fod yn swyddog cynllunio, mae angen cymhwyster cydnabyddedig megis Diploma Cenedlaethol Uwch, Tystysgrif Genedlaethol Uwch a Chymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (Lefel 4) ym maes cynllunio trefol neu bwnc cysylltiedig.  Ar y llaw arall, byddai gradd neu ddiploma ym maes cynllunio neu gyfuniad o wybodaeth am y maes hwn a rhai blynyddoedd o brofiad ynddo yn dderbyniol.  Rhaid dangos eich bod chi'n gyfarwydd â threfn y cynllunio a'r deddfau sy'n berthnasol iddi, yn arbennig y rhai sy'n ymwneud â rheoli datblygu.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae trefn ddyrchafu mewn adrannau cynllunio a chyfleoedd i fod yn uwch swyddog er y gallai fod angen i symud i awdurdod arall i gael eich dyrchafu.  Mae swyddi y tu allan i fyd llywodraeth leol, hefyd.  Fe gewch chi ymuno â'r Sefydliad Brenhinol dros Gynllunio Trefi ar ôl ei fodloni bod gyda chi'r cymwysterau a'r profiad perthnasol (fel arfer, un o'r cymwysterau sydd wedi'u crybwyll uchod ac o leiaf ddwy flynedd wrth y gwaith).  Mae modd cael hyfforddiant i fod yn gynlluniwr proffesiynol, hefyd.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Brenhinol y Cynllunio Trefi: www.rtpi.org.uk
Cymdeithas y Swyddogion Cynllunio: www.planning officers.org.uk

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links