Cyflwyniad
Mae bricwyr yn ymwneud â chodi a chynnal adeiladau'r
cyngor. Maen nhw'n grefftwyr sy'n troi cynlluniau peirianwyr
a phenseiri'n adeiladau go iawn. Maen nhw'n codi pob math o
waliau ar gyfer adeiladau newydd, addasiadau, estyniadau, twnneli,
pyrth bwaog, sustemau draenio ac ati.
Amgylchiadau'r gwaith
Mae bricwyr yn gweithio y tu mewn a'r tu allan i
adeiladau ym mhob math o dywydd. Gwaith corfforol yw hwn ac
mae llawer o sefyll, plygu, penlinio, codi a chario. Mae
bricwyr yn gwisgo hetiau caled ac esgidiau ac arnyn nhw flaenau
dur. Bydd angen dillad diogelu ychwanegol megis sbectol lwch,
menig a phlygiau clustiau ar gyfer rhai gorchwylion. Rhaid
gweithio ar fannau uchel - ar ysgol a sgaffald - ac, weithiau, mewn
lleoedd cul. Gallai fod angen teithio trwy'r fro i weithio mewn
amryw brosiectau.
Gweithgareddau beunyddiol
Mewn prosiectau llai, gallai fod disgwyl i fricwyr
baratoi'r safle, gan gynnwys:
- defnyddio llinyn a phegiau i farcio lle bydd waliau a chorneli
yn ôl y cynllun;
- gosod sylfeini trwy gloddio ffosydd a'u llenwi â cherrig a
choncrit.
Wrth ddechrau adeiladu, bydd bricwyr yn:
- gweithio yn ôl cynllun manwl sy'n dangos ble mae'r drysau a'r
ffenestri, pa ddeunyddiau sy'n briodol a sut dylai'r briciau gael
eu gosod;
- trefnu eu gwaith nhw i ofalu mai o dan ffenestri neu ddrysau y
bydd unrhyw doriadau yn y bricwaith, fel na fyddan nhw mor
amlwg;
- dewis yr arfau priodol megis amryw fathau o forthwylion,
cynion, tryweli a pheiriannau;
- dewis y deunyddiau priodol megis briciau, blociau concrit,
blociau patrwm, calch a cherrig;
- gwneud morter a'i wasgaru'n ofalus rhwng haenau'r briciau;
- defnyddio lefel saer a phlymen i ofalu bod popeth yn unionsyth
neu'n wastad;
- gwneud addurniadau megis gosod briciau ar ongl fel y bydd
corneli'n amlwg, gosod haen o friciau fel y bydd yn sefyll yn glir
o'r wyneb neu ddefnyddio rhywbeth megis calch i lunio patrwm.
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:
- dwylo medrus;
- gallu gweithio'n gyflym ac yn daclus;
- bod yn effro i faterion diogelwch;
- mathemateg sylfaenol ar gyfer mesur yn gywir a thrin a thrafod
symiau;
- gweithio'n dda mewn tîm;
- gallu gweithio heb gael eich goruchwylio drwy'r amser.
Meini prawf ymgeisio
Er nad oes meini prawf safonol, gallai fod angen
TGAU/cymhwyster galwedigaethol cyfwerth o ran bricwyr dan
hyfforddiant. Mae Saesneg, mathemateg a thechnoleg yn bynciau
defnyddiol.
Yn y rhan fwyaf o gynlluniau hyfforddi megis prentisiaeth,
byddwch chi'n dysgu yn y gwaith ac yn mynychu coleg unwaith yr
wythnos. Gallai fod angen sefyll prawf ar gyfer rhai
cynlluniau hyfforddi neu brentisiaethau.
Mae modd astudio ar gyfer Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol
(lefelau 2 a 3) ym maes gosod briciau.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Ar ôl cael profiad a rhagor o hyfforddiant, gallai swyddi
goruchwylio neu reoli fod ar gael ym maes adeiladu.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Medrau adeiladu: www.citb.co.uk
Gwybodaeth am brentisiaethau: www.apprenticeships.org.uk
Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu erthygl Sbotolau ar
yrfaoedd ym maes adeiladu: https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-adeiladu/
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/)
y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.