Swyddog contractau

Cyflwyniad
Mae'r swydd yn cynnwys darparu gwasanaeth ymgynghori a chynghori effeithiol i'r grwpiau cleient amrywiol mewn perthynas â chontractau gwaith i ddarparu gwasanaethau cynnal a chadw tiroedd a ddyfarnwyd gan y cyngor yn dilyn tendr.

Amgylchedd Gwaith
Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei wneud mewn swyddfa, ond bydd llawer o amser (50% neu fwy) yn cael ei dreulio mewn lleoliadau amrywiol yn yr awdurdod lleol, dan do ac yn yr awyr agored.

Gweithgareddau Dyddiol
Mae'r rhain yn ymwneud yn bennaf â monitro perfformiad contractau i sicrhau bod safonau ansawdd yn cael eu cyrraedd.  Mae hyn yn cynnwys asesu, rhaglennu a monitro'r gwaith penodol, mesur gwaith sydd wedi'i gwblhau ac awdurdodi taliadau ar gyfer gwaith a gontractiwyd a gwaith ychwanegol.  Mae swyddogion contract yn cyfathrebu'n rheolaidd â chontractwyr a chleientiaid ac mae'n ofynnol iddynt gyflwyno rhybuddion diffygion am ddiffyg cydymffurfiaeth neu pan nad yw perfformiad yn foddhaol. Maent hefyd yn ymdrin ag ymholiadau a chwynion gan gwsmeriaid a'r cyhoedd.

Ymysg dyletswyddau eraill mae cyfathrebu â staff technegol a phroffesiynol o ran goruchwylio gwaith arbenigol a chyflawni dyletswyddau gweinyddol sy'n ymwneud â chontractau.  Bydd angen gweithio y tu allan ioriau o bryd i'w gilydd, gan gynnwys gyda'r nos ac ar benwythnosau i fynychu cyfarfodydd ac ati.

Sgiliau a Diddordebau
Rhaid i swyddogion allu gweithio yn yr awyr agored, a byddai empathi â natur a gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o faterion cadwraeth a chynaladwyedd o fantais.  

At hynny, dylent feddu ar sgiliau trefnu a chyfathrebu da ar gyfer delio â phroblemau ar y safle a chyflwyno datrysiadau ar gyfer y problemau hynny.  Bydd angen ymddwyn yn ystyriol ac yn ddiplomataidd wrth ymdrin â chwynion cwsmeriaid, ac wrth gyfleu'r rhain a rhybuddion diffygion i gontractwyr.  Mae'r swydd yn defnyddio mwy a mwy o TG a rhaid i ymgeiswyr feddu ar rywfaint o sgiliau cyfrifiadurol a bysellfwrdd, a meddu ar wybodaeth am sicrwydd ansawdd ac iechyd a diogelwch.

Gofynion Ymgeisio
Rhaid i ymgeiswyr fod â rhywfaint o brofiad ym maes garddwriaeth a meddu ar gymhwyster perthnasol fel Diploma Cyntaf BTEC/SQA neu S/NVQ.  Yn ddelfrydol bydd ganddynt gymhwyster lefel uwch perthnasol fel Diploma Cenedlaethol BTEC/SQA mewn Garddwriaeth Amwynder neu HND mewn Garddwriaeth, neu byddant yn barod i astudio ar gyfer cymhwyster o'r fath, neu'n ceisio aelodaeth â chorff proffesiynol perthnasol fel y Sefydliad Rheoli Hamdden ac Amwynderau (ILAM).

Cyfleoedd yn y dyfodol
Y cam naturiol nesaf fyddai i swydd rheoli.

Rhagoro Wybodaeth a Gwasanaethau
Lantra www.lantra.co.uk 
Instituteof Groundsmanshipwww.iog.org The Building Consultancy www.thebuildingconsultancy.com

Mae modd cael rhagoro wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links