Cyflwyniad
Mae modd nodi llwyddiant sefydliad yn ôl cyflwr ei berthynas â'r
weithwyr, yn aml. Mae gweithiwr bodlon yn weithiwr da.
Mae gan sawl cwmni ymgynghorwyr, neu swyddogion cydberthynas
ddiwydiannol, sy'n gofalu bod fframwaith sefydlog ac effeithiol i
gynnal perthynas y cyflogwyr â'r gweithwyr yn deg. Maen nhw'n
cael llawer o foddhad trwy helpu i ddatrys amryw sefyllfaoedd
anodd. Mae gan bob awdurdod lleol adran adnoddau
dynol/personél yn ei gyfadran gorfforaethol. Yno mae swyddog
cydberthynas ddiwydiannol yn gweithio.
Amgylchiadau'r gwaith
Mae'n gweithio yn y swyddfa gan amlaf, er bod angen teithio i
amryw leoedd - pob un o adrannau'r cyngor, ysgolion, canolfannau
gwahanol wasanaethau, cyfarfodydd rhanbarthol a
chynadleddau/seminarau cenedlaethol. Fe fydd yr olwg sydd
arnoch chi (graen eich dillad ac ati) yn bwysig. Er eu bod yn
ymwneud â phobl wyneb yn wyneb fel arfer, mae'r swyddogion yn
defnyddio cyfrifiaduron yn eu gwaith bob dydd, hefyd.
Gweithgareddau beunyddiol
Dyma swydd allweddol yn adran yr adnoddau dynol. Byddwch
chi'n cynghori ac yn cyfarwyddo rheolwyr gwasanaethau'r cyngor,
ysgolion a cholegau addysg bellach. Mae'r gwaith yn cynnwys
eu cynghori am y gyfraith ym maes cyflogaeth, trefniadau disgyblu a
chwynion, llunio polisïau ac ymgynghori â'r undebau llafur.
Mae blaenoriaethau o ddydd i ddydd yn sgîl ymholiadau trwy
lythyr a thros y ffôn lle bydd angen trafod materion megis
cyflogau, amodau ac erlid gyda'r undebau llafur a chynghori
rheolwyr am gamau disgyblu. Rhaid cysylltu â chyfreithwyr,
cynghorwyr ac aelodau o'r Cynulliad a Senedd San Steffan,
weithiau. Bydd swyddogion yn mynd i wrandawiadau
tribiwnlysoedd cyflogaeth o bryd i'w gilydd i ofalu bod chwarae
teg.
Bydd swyddog cydberthynas ddiwydiannol yn cadw llygad ar unrhyw
ddatblygiadau cyfreithiol a allai roi cyfleoedd i wella
effeithlonrwydd gwasanaethau ac arbed costau gweithredu.
Rhaid bod yn effro i unrhyw newidiadau sy'n effeithio ar hawliau'r
staff, hefyd. Mae swyddogion cydberthynas ddiwydiannol yn
gweithio mewn prosiectau arbennig megis sut mae gweithwyr yn cael
defnyddio dulliau cyfathrebu electronig, ffonau a'r rhyngrwyd,
hefyd. Er eu bod nhw'n gweithio o'u pennau a'u pastynau eu
hunain wrth lunio polisïau, byddan nhw'n cydweithio'n agos â
gweddill y tîm ynglŷn â thargedau rheoli adnoddau dynol -
gweithlu'r cyngor - bob blwyddyn.
Medrau a diddordebau
Ar gyfer y swydd hon, bydd angen:
- manwl gywirdeb;
- hyder;
- y gallu i gyd-dynnu â phobl o sawl cefndir;
- tringarwch.
Rhaid amlygu synnwyr cyffredin a pharchu cyfiawnder, hefyd.
Meini prawf derbyn
Yn ôl lefel y swydd, gallen nhw amrywio rhwng tystysgrifau Safon
Uwch, gradd neu un o gymwysterau proffesiynol Sefydliad Breiniol
Personél a Datblygu. Ar gyfer swyddi is eu statws, mae angen
tystysgrifau TGAU gan astudio'n rhan-amser ar gyfer cymhwyster
proffesiynol mewn maes megis astudiaethau busnes. Mae profiad
o reoli adnoddau dynol yn y sector preifat o fantais, hefyd.
Mae disgwyl y bydd pob swyddog - beth bynnag fo'i lefel - yn anelu
at fod yn aelod o Sefydliad Breiniol Personél a Datblygu yn y pen
draw.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae'r rhain yn gwella achos bod adnoddau dynol yn fwyfwy
pwysig. Mae amrywiaeth helaeth o gyfleoedd ym maes
cydberthynas ddiwydiannol. Mae dyrchafiad yn dibynnu ar
gymwysterau, profiad, hyblygrwydd a'r gallu i addasu. Mae
swyddi cyffelyb yn y sector preifat, hefyd.
Y swydd uchaf yw pennaeth adnoddau dynol, cyfarwyddwr neu brif
weithredwr cynorthwyol. Ar y llaw arall, gallech chi symud i
feysydd cysylltiedig megis recriwtio, rheoli perfformiad,
hyfforddi/datblygu a gwaith ymgynghorol.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Breiniol Personél a Datblygu: www.cipd.co.uk
Sefydliad Breiniol Rheoli: www.managers.org.uk
Fe gewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.