Gweithiwr cymdeithasol maethu a mabwysiadu

Cyflwyniad
Mae gweithwyr cymdeithasol maethu a mabwysiadu'n asesu a yw teuluoedd yn addas ar gyfer maethu neu fabwysiadu plant.  Maen nhw'n canfod lleoliadau tymor hir a thymor byr ar gyfer maethu plant sy'n dechrau derbyn gofal ac yn canfod teuluoedd newydd, parhaol, i blant na all fynd adref am wahanol resymau.   Mae eu gwaith yn cynnwys recriwtio, asesu a rhoi cefnogaeth barhaus i ofalwyr maeth ac i'r rhai sy'n mabwysiadu plant.

Amgylchedd Waith
Mae gweithwyr cymdeithasol maethu a mabwysiadu'n treulio llawer o'u hamser yn ymweld â theuluoedd yn eu cartrefi.

Gweithgareddau Pob Dydd
Prif waith gweithwyr cymdeithasol maethu a mabwysiadu yw recriwtio, asesu a chefnogi darpar ofalwyr maeth a rhieni mabwysiadu ac ymchwilio i ba mor addas ydyn nhw ar gyfer gofalu am, a magu, plant.  Mae hyn yn golygu canfod pa sgiliau a nodweddion personol perthnasol sydd ganddyn nhw, a yw'r cartref yn addas i blant ac a oes yno ddigon o le, yn ogystal â thrafod materion cyffredinol iechyd a hylendid.  Bydd yn rhaid canfod hefyd pa offer y gallai darpar faethwyr fod ei angen, megis cot, sedd car, coets neu ychwaneg o ddodrefn.

Mae gweithwyr cymdeithasol maethu a mabwysiadu'n treulio llawer o'u hamser yn cyfweld darpar ofalwyr, yn canfod hanes eu teulu, yn lle a sut y cawson nhw eu haddysg, sut bobl oedd eu rhieni a pha sgiliau a phrofiad sydd ganddyn nhw eisoes o ofalu am blant.  Fe fyddan nhw hefyd yn trafod gyda phob aelod o'r teulu i ganfod perthynas pawb a'i gilydd yn ogystal ag i gael eu barn a'u syniadau.  Mae'n rhaid i'r gweithiwr cymdeithasol maethu a mabwysiadu gasglu cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl er mwyn gwneud yn siŵr y bydd unrhyw blentyn sy'n cael ei roi i deulu'n ddiogel a chyda thebygrwydd clir o fod yn hapus yno.

Gallai'r asesiadau hyn gymryd amser hir, bydd pob ymweliad yn para am rhwng awr ac awr a hanner unwaith bob pythefnos am gyfnod o bedwar i chwe mis.  Yn y cyfamser, bydd yn rhaid i'r gweithiwr cymdeithasol maethu a mabwysiadu gynnal gwiriadau statudol llawn o hanes y teulu gydag awdurdodau megis yr heddlu, y gwasanaeth prawf, addysg, NSPCC a'r Adran Iechyd.

Gall gweithwyr cymdeithasol maethu a mabwysiadu hefyd fod â rhan mewn cynnig cefnogaeth i deuluoedd, megis y rhaglen hyfforddi i baratoi ar gyfer maethu neu fabwysiadu.  Maen nhw hefyd yn cynnig cwnsela, hyfforddiant a chefnogaeth ar ôl maethu neu fabwysiadu yn ôl y gofyn.    Mae gweithwyr cymdeithasol maethu a mabwysiadu hefyd yn treulio amser yn y swyddfa'n cofnodi gwaith achos ac yn ysgrifennu adroddiadau asesu.  Maen nhw'n cysylltu â gweithiwr cymdeithasol y plentyn a chyda phroffesynolion eraill sydd â rhan mewn gofalu am y plentyn.  Efallai hefyd y bydd gofyn iddyn nhw gymryd rhan mewn rota ddyletswydd, lle maen nhw yn y swyddfa ac yn ymateb i ymholiadau cyffredinol, yn ogystal ag i argyfyngau megis canfod lleoliadau i blant sydd angen derbyn gofal ar frys.

Sgiliau a Diddordebau
Mae gofyn i weithiwr cymdeithasol maethu a mabwysiadu fod yn:

  • Gallu dygymod â phobl o bob oedran, yn enwedig plant, 
  • Diplomatig a sensitif
  • Gallu deall pobl a chydymdeimlo â nhw, 
  • Cyfathrebwyr da
  • Gwrthrychol a gwybodus ynghylch amddiffyn plant, 
  • Gallu annog pobl eraill ac adeiladu eu hunan hyder.

Cymwysterau Mynediad i'r Swydd
Yr hyfforddiant cymhwyso proffesiynol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol yw gradd mewn gwaith cymdeithasol sydd wedi'i chymeradwyo gan Gyngor Gofal Cymru.   Mae gradd yn rhaglen dair blynedd mewn prifysgolion cymeradwy, sydd â'u gofynion mynediad eu hunain.   Mae'r hen gymhwyster proffesiynol, Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol, yn dal yn cael ei gydnabod fel cymhwyster gwaith cymdeithasol dilys.

Bydd yn rhaid i'r rhai sy'n dymuno dilyn gradd mewn gwaith cymdeithasol gael TGAU (neu gyfwerth) mewn Saesneg a Mathemateg, gradd C neu uwch.  Er bod prifysgolion yn gosod eu hamodau mynediad eu hunain, gallai lefel A (neu gyfwerth) mewn pynciau megis y gyfraith, cymdeithaseg neu seicoleg fod yn ddefnyddiol.  Gallai TGAU a lefel A mewn pynciau galwedigaethol hefyd fod yn ddefnyddiol.
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y cymhwyster newydd ar gael ar wefan Care Council for Wales website.

Swyddi Cysylltiedig
Cyngor Gofal Cymru www.ccwales.org.uk
Cymdeithas Brydeinig Gweithwyr Cymdeithasol www.basw.co.uk
Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymunedol www.csv.org.uk/socialhealthcare
Sgiliau ar Gyfer Gofalu www.skillsforcare.org.uk

Mae'r Brifysgol Agored wedi llunio adnodd rhyngweithiol am ddiwrnod ym mywyd gweithiwr cymdeithasol: http://www.open.edu/openlearn/body-mind/social-care/social-work/try-day-the-life-social-worker

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links