Swyddog iechyd yr amgylchedd

Diogelu eich cymuned ym maes iechyd yr amgylchedd llywodraeth leol

Cyflwyniad
Mae iechyd yr amgylchedd mewn llywodraeth leol yn ymwneud â gwella ansawdd bywyd pobl a gwneud yn siŵr eu bod yn gallu byw, gweithio a chwarae mewn amgylcheddau diogel ac iach. Mae swyddogion/ ymarferwyr iechyd yr amgylchedd llywodraeth leol yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau sy'n cwmpasu diogelwch bwyd, iechyd y cyhoedd, iechyd galwedigaethol, tai a diogelu'r amgylchedd.

Amgylchedd Gwaith
Mae rhywfaint o'r gwaith mewn swyddfa, ond mae llawer o'r gwaith yn cynnwys ymweld â siopau, bwytai, ceginau, ffatrïoedd a swyddfeydd. Efallai bydd rhai o'r ymweliadau i leoedd budr ac a allai fod yn beryglus, neu'n annymunol ac efallai weithiau bydd angen gwisgo dillad amddiffynnol fel hetiau, masgiau ac oferôls.

Gweithgareddau dyddiol
Gall swyddogion iechyd yr amgylchedd llywodraeth leol fod yn gysylltiedig â phob agwedd gwaith iechyd yr amgylchedd, yn gyffredinol, neu efallai byddant yn arbenigo mewn un o'r pum prif faes gwaith:

  • Diogelwch bwyd - mae'r gwaith yn cynnwys archwilio eiddo lle caiff bwyd ei baratoi a'i werthu, fel bwytai, siopau, tafarndai, ffatrïoedd a siopau cludfwyd, er mwyn sicrhau bod safonau iechyd a diogelwch yn cael eu bodloni ac i gynghori ar reoliadau bwyd. Mae rhai o'r ymweliadau yn rheolaidd, ond mae eraill heb eu cynllunio ac fel arfer mewn ymateb i gwynion gan y cyhoedd.
  • Iechyd y cyhoedd - mae swyddogion iechyd yr amgylchedd yn gweithio mewn partneriaeth gyda gweithwyr meddygol proffesiynol i ddiogelu a hybu iechyd cyhoeddus. Maent yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd ymwybyddiaeth iechyd fel peryglon ysmygu a gordewdra. Maent hefyd yn ymwneud ag addysgu'r cyhoedd am glefydau heintus.
  • Tai - mae'r gwaith hwn yn ymwneud â monitro safonau tai i sicrhau bod tai yn ddiogel ac yn addas i fyw ynddynt. Efallai bydd y gwaith yn cynnwys gwirio i weld a oes diangfeydd tân cyfreithiol a larymau mwg, trefniadau monitro glanweithdra a sicrhau bod gwaith trwsio'n cael ei wneud gan landlordiaid.
  • Iechyd a diogelwch yn y gweithle - mae swyddogion iechyd yr amgylchedd yn ymweld ag amrywiaeth o fusnesau a swyddfeydd i fonitro safonau iechyd a diogelwch. Maent yn asesu risgiau a sicrhau bod gweithwyr yn ddiogel. Weithiau bydd yn rhaid iddynt ymchwilio i ddamweiniau yn y gweithle.
  • Diogelu'r amgylchedd - mae'r gwaith hwn yn ymwneud â monitro lefelau peryglus o lygredd aer, dŵr, tir a sŵn, gan nodi problemau a chymryd camau i'w hunioni. Yn aml mae angen i swyddogion ddefnyddio offer arbenigol i gymryd samplau o ddŵr a phridd, i fonitro lefelau llygredd yn yr aer, neu fesur lefelau sŵn. Maent wedyn yn darparu argymhellion ar sut i ddatrys y broblem ac mewn rhai achosion maent yn cymryd camau gorfodi i ddelio â'r mater.

Efallai gellid disgwyl i swyddogion iechyd yr amgylchedd llywodraeth leol dreulio rhywfaint o'u hamser yn ymweld ag ysgolion a grwpiau cymunedol hefyd, i siarad am faterion perthnasol, megis diogelwch tân neu ddiogelwch bwyd.  Efallai byddai disgwyl iddynt hefyd dreulio ychydig o amser yn casglu a pharatoi data ar gyfer achosion llys a rhoi tystiolaeth.

Sgiliau a Diddordebau
Mae angen i swyddogion iechyd yr amgylchedd llywodraeth leol:

  • Feddu ar alluoedd ymchwilio a gwneud penderfyniadau da,
  • Bod ag ymagwedd drefnus a gofalus i gasglu ffeithiau ac asesu tystiolaeth,
  • Bod yn gyfathrebwyr ardderchog - ar lafar ac yn ysgrifenedig,
  • Bod yn gadarn, ond yn deg,
  • Gallu delio ag amodau annymunol o bryd i'w gilydd,
  • Meddu ar ddealltwriaeth wyddonol a thechnegol dda.

Gofynion Mynediad
Mae iechyd yr amgylchedd yn broffesiwn i raddedigion, felly i ddod yn gwbl gymwys mae'n rhaid i chi ennill gradd wedi'i achredu gan Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd. Y gofynion mynediad ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau gradd yw o leiaf 5 TGAU (A-C neu uwch) ac o leiaf 2 lefel-A. (Does dim rhaid i chi gael lefel-A mewn gwyddoniaeth, ond byddai'n well cael o leiaf un.)

Gall graddedigion Gwyddoniaeth ymuno trwy gwrs ôl-raddedig achrededig ac mae cyrsiau sylfaen ar gael ar gyfer rhai nad ydynt yn raddedigion gwyddoniaeth neu rai sydd am newid gyrfa.  Efallai bydd rhai cynghorau lleol yn cynnig cyfleoedd i noddi myfyrwyr.

Gallwch astudio ar gyfer gradd achrededig CIEH yn unrhyw un o'r prifysgolion canlynol: 

Fel arfer, mae angen trwydded yrru lawn.

Rhagolygon a chyfleoedd y dyfodol
Mae strwythur dyrchafiad da ac yn diffinio'n glir o fewn cyngor lleol yn arwain at swyddi uwch, pennaeth a phrif swyddog ym maes iechyd yr amgylchedd. Efallai bydd angen symud i gynghorau eraill er mwyn cael mwy o brofiad, ehangder gwaith a dyrchafiad.

Mwy o Wybodaeth a Gwasanaethau
Gwybodaeth gyrfaoedd iechyd yr amgylchedd www.ehcareers.org
Sefydliad Diogelwch Galwedigaethol ac Iechyd y www.iosh.co.uk
Y Gymdeithas Frenhinol er Hybu Iechyd www.rsph.org

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu erthygl Sbotolau ar yrfaoedd mewn bwyd a ffermio: https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-fwyd-a-ffermio/   

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links