Cynorthwy-ydd domestig – gofal cartref

Cyflwyniad
Mae cynorthwywyr domestig yn helpu pobl â thasgau yn y cartref.  Cyflogir cynorthwywyr domestig gan adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Drwy gynnig gwasanaeth domestig i bobl sydd mewn angen, maent yn galluogi pobl i aros yn eu cartrefi a bod mor annibynnol â phosibl.  Mae eu cleientiaid yn aml yn bobl hŷn neu'n bobl ag anableddau corfforol a meddyliol nad ydynt yn gallu gofalu am eu hunain ac y byddai'n rhaid iddynt fynd i ysbyty neu ofal preswyl heb gymorth o'r fath.

Amgylchedd Gwaith
Rhoddir 'grŵp' o gleientiaid i gynorthwywyr domestig sy'n golygu eu bod yn dod i nabod eu cleientiaid unigol yn dda iawn. Maent yn ymweld â phobl yn eu cartrefi ac yn cyflawni tasgau domestig angenrheidiol, a gallant fynd i'r siopau lleol ar eu rhan.  Gallant hefyd fynychu cyfarfodydd a chyrsiau hyfforddi gyda chydweithwyr yn swyddfeydd y cyngor.

Oherwydd risgiau iechyd, cynigir dillad ac offer arbennig - menig, tabardau, tortshis, larymau diogelwch personol a dyfeisiau cylched gweddilliol (i'w defnyddio gyda chyfarpar trydanol). 

Gall yr oriau fod yn hyblyg; unrhyw beth o 10 i 37 awr yr wythnos, yn dibynnu ar anghenion y gwasanaeth ac amgylchiadau deiliad y swydd.  Fel arfer mae'r gwasanaeth ar gael rhwng 8.00am a 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.  Efallai y bydd angen gweithio ar benwythnosau o bryd i'w gilydd.

Gweithgareddau Dyddiol
Mae cynorthwywyr domestig yn helpu cleientiaid i fyw mor annibynnol â phosibl.  Ymysg eu dyletswyddau mae glanhau, newid dillad gwely, golchi, siopa neu fynd â'r cleient i siopa, a pharatoi prydau bwyd.  Caiff unrhyw faterion iechyd a diogelwch, megis offer trydanol ac offer coginio, eu profi yn yr asesiad risg cychwynnol o'r cleient a'i gartref.  Cyfrifoldeb y cynorthwy-ydd domestig yw adrodd unrhyw ddiffygion neu atgyweiriadau angenrheidiol i'r rheolwr gofal cartref.

Sgiliau a Galluoedd
Mae angen y sgiliau canlynol:

  • sgiliau cyfathrebu;
  • y gallu i ddeall anghenion pobl;
  • y gallu i goginio a glanhau'n effeithiol;
  • y gallu i weithio ar eich liwt eich hun ac yn rhan o dîm;
  • ffitrwydd corfforol.

Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw gymwysterau mynediad penodol ar gyfer y swydd.  Mae nodweddion personol yn aml yn bwysicach (gweler uchod).  Mae rhai cynghorau'n cynnig hyfforddiant sy'n arwain at unedau NVQ/SVQ mewn Gofal.  Rhoddir hyfforddiant ar hylendid bwyd, paratoi bwyd, cymorth cyntaf a chodi a chario.

Cyfleoedd yn y Dyfodol
Mae'n bosibl symud o swydd fel cynorthwy-ydd domestig i fod yn gynorthwy-ydd gofal cartref.  Mae hyn fel arfer yn dibynnu ar gyfweliad ac asesiad cymhwysedd, a gall arwain at hyfforddiant pellach at NVQ/SVQ Lefel 2 mewn Gofal Uniongyrchol.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Cyngor Gofal Cymru www.ccwales.org.uk
Gofal Cymunedol 
Gwirfoddolwyr Gwasanaethau Cymunedol www.csv.org.uk/socialhealthcare
Yr Adran Iechyd www.dh.gov.uk
Cyngor Iechyd a Phroffesiynau Gofal www.hpc-uk.org
Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau www.homesandcommunities.co.uk
Sgiliau Gofal www.skillsforcare.org.uk
Cymdeithas Gofal Cymdeithasol www.socialcareassociation.co.uk

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y maes gwaith hwn drwy Yrfa Cymru (www.gyrfacymru.com) neu yn eich llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links