Cymhorthydd domestig – cartref preswyl

Cyflwyniad
Bydd y swydd hon yn apelio at y rheiny sy'n ystyried eu hunain yn rheolwyr da ar gartref.  Mae cadw amgylchedd glân, taclus ac iach yn bwysig iawn mewn sefydliad preswyl, gofal dydd a sefydliadau seibiant ac adfer eraill.  Mae ar yr uwch swyddog gofal angen cadw trefn ac awyrgylch tawel er lles pobl ddiamddiffyn, rhai ohonyn nhw â phroblemau iechyd meddwl. Mae cymorthyddion domestig yn eu helpu nhw i wneud hyn.  Bydd swyddi o'r fath ar gael ymhob awdurdod, ac eithrio cynghorau dosbarth. 

Yr Amgylchedd Gweithio
Mae gwaith yn cael ei gynnal mewn hosteli a chartrefi sy'n cael eu rhedeg gan wasanaethau gofal cymunedol.  Gall fod yn gorfforol galed ac mae'n bosib y bydd angen dygymod â rhywfaint o faw ac anhrefn.  Mae cymorthyddion domestig hefyd yn gweini bwyd, yn cynorthwyo gyda pharatoi bwyd ac, mewn rhai lleoliadau, yn ymgymryd â dyletswyddau coginio.  Efallai y byddwch chi'n ymgymryd â gwaith estyn allan.

Gweithgareddau Dyddiol
Mae cymorthyddion domestig yn gyfrifol am y canlynol:

  • Glendid ystafelloedd gwely, ystafelloedd eistedd a bwyta, ystafelloedd amlbwrpas, coridorau, ystafelloedd ymolchi a thoiledau. 
  • Dyletswyddau ystafell fwyta - gweini/clirio byrddau, golchi llestri.  
  • Dyletswyddau cegin - glanhau, paratoi bwyd a choginio dan oruchwyliaeth.  
  • Defnyddio offer golchi dillad a gofalu am ddillad a dillad gwely - peiriannau golchi, haearnau smwddio ac ati. 
  • Gwneud gwlâu, goflau am ddillad gwely gan gynnwys eu golchi a'u smwddio (yn aml bydd gofyn i chi olchi dilladau wedi eu baeddu).  
  • Gwybod lle mae'r diffoddyddion tân a'r allanfeydd tân a pha gamau i'w cymryd pan fo tân. 
  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant a datblygu staff cartref.

Maen nhw hefyd yn helpu cleientiaid i edrych ar ôl eu hunain a gwneud tasgau pob dydd.

Sgiliau a Diddordeb
Mae'n rhaid i gymorthyddion domestig fod:

  • yn ofalgar a sensitif; 
  • yn heini ac yn gallu codi a symud yn gorfforol; 
  • yn drefnus; 
  • yn hyblyg; 
  • yn barod i ymgymryd â hyfforddiant; 
  • yn deall yr angen am gyfrinachedd; 
  • yn gyfrifol ac yn aeddfed.

Gofynion
Mae dealltwriaeth o Iechyd a Diogelwch a Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, yn ogystal â phrofiad o ofalu, yn hanfodol.
Fe ddylech chi fod â thystysgrif codi a symud yn gorfforol.

Rhagolygon a Chyfleoedd
Ychydig iawn o gyfleoedd sydd ar gael, ond wrth dderbyn profiad a hyfforddiant, Gallwch ymgeisio am swyddi goruchwylio ym maes gofal domestig.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Cyngor Gofal Cymru www.cgcymru.org.uk
Gofal yn y Gymuned www.communitycare.co.uk 
Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymunedol www.csv.org.uk/socialhealthcare
Yr Adran Iechyd www.dh.gov.uk 
Cyngor Gweithwyr Proffesiynol Iechyd a Gofal www.hpc-uk.org 
Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau www.homesandcommunities.co.uk 
Sgiliau Gofal www.skillsforcare.org.uk   
Cymdeithas Gofal Cymdeithasol www.socialcareassociation.co.uk

Efallai y bydd rhagor o wybodaeth am y maes yma ar gael trwy Gyrfa Cymru (www.gyrfacymru.com/) neu yn eich llyfrgell neu'ch swyddfa gyrfaoedd lleol neu'ch ysgol.

Related Links