Mae byd llywodraeth leol yn ddylanwadol
Mae byd llywodraeth leol yn gyfrifol am gynnig amrywiaeth
helaeth o wasanaethau sy'n effeithio ar ein bywydau ni. Gall
byd llywodraeth leol wella cymunedau - gan gartrefu, hysbysu,
addysgu, diddanu a diogelu dinasyddion a chynnal amgylchedd
cytbwys.
Mae llywodraeth leol yn faes egnïol a chyffrous
Dyma faes sy'n newid drwy'r amser ac yn dod yn fwyfwy
cystadleuol. Rhaid ymateb i anghenion cymunedau a dymuniadau
llywodraeth y wlad. Mae'r rhai sy'n gweithio ym maes
llywodraeth leol yn wynebu her newydd bob dydd.
Mae gyrfa i bawb ym maes llywodraeth leol
Gan fod angen cynnig cynifer o wasanaethau, does dim
syndod bod amrywiaeth o yrfaoedd ym maes llywodraeth leol.
Mae ynddo 600 o garfanau alwedigaethol megis addysg, gofal
cymdeithasol, iechyd yr amgylchedd, datblygu chwaraeon, safonau
masnach a chynllunio.
Cyflog teg
Mae'r cyflogau'n gystadleuol mewn sawl galwedigaeth - yn
arbennig ym meysydd gweinyddu a rheoli. Mae'r buddion yn dda
ac mae cyfleoedd i fanteisio ar gyrsiau hyfforddi a datblygu
proffesiynol.
Mae cyfleoedd i fynd ymlaen
Gan fod pwyslais ar hyfforddi a datblygu, mae cyfleoedd i
weithwyr llywodraeth leol newid swyddi a meithrin medrau i ragori
ynddyn nhw. Mae cyfleoedd i symud rhwng adrannau ac i rolau
uwch, hefyd.
Cymunedau
Mae staff llywodraeth leol yn gweithio er lles cymunedau
yn ôl amodau egnïol, teg a hyblyg. Beth bynnag fo'ch cefndir,
bydd swydd ym maes llywodraeth leol yn cynnig cyfle i ddatblygu'ch
gyrfa ac effeithio ar fywydau pobl er gwell.
Amrywioldeb
Mae cynghorau lleol yn cyflogi pobl yn ôl amodau
cyfleoedd cyfartal. Mae'u polisïau a'u harferion yn gofalu
nad oes modd anffafrio neb o achos tras, rhyw, anableddau,
tueddfryd rhywiol, beichiogrwydd, mamolaeth, crefydd, cred, oedran,
newid rhyw, priodas neu bartneriaeth sifil. Mae'r ymrwymiad
hwn i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a pharchu amrywioldeb yn
berthnasol i'r rhai sy'n rhoi ac yn defnyddio'r gwasanaethau fel ei
gilydd.
Hyfforddiant
Mae byd llywodraeth leol yn cynnig rhaglenni penodol i
hyfforddi a datblygu ei staff. Bydd pob gweithiwr newydd yn
mynd trwy broses gyflwyno ac yn cael ei arfarnu'n fynych wedyn i
nodi unrhyw hyfforddiant y gallai fod ei angen arno.
Hyblygrwydd
Mae llawer o hyblygrwydd ym mhob agwedd ar waith
llywodraeth leol, ac mae sawl gweithiwr yn elwa ar drefniadau
gweithio hyblyg sy'n helpu i gadw'r ddysgl yn wastad rhwng gofynion
y gwaith a'r cartref.
Buddion
Yn ogystal â chyflog teg a chystadleuol, ac amryw
gyfleoedd i ddysgu a datblygu, fe allai fod hawl gan weithwyr
llywodraeth leol i sawl budd arall megis gwyliau hael, cynllun
pensiwn a threfniadau bwrw tymor.