Dechrau ym maes llywodraeth leol

A chithau'n swyddog llywodraeth leol, byddech chi'n gyfrifol am roi polisïau'r cyngor ar waith.  Byddech chi'n gofalu bod gwasanaethau lleol yn dda, hefyd.  Os ydych chi am weithio mewn swyddfa yn eich bro chi, efallai mai dyma faes perffaith i chi.

Rhaid i swyddog llywodraeth leol allu trin a thrafod pobl o sawl cefndir.  Mae angen medrau da o ran trafod telerau a threfnu gwaith, hefyd.  Bydd y medrau a'r profiad mae'u eu hangen ar bob swyddog yn amrywio yn ôl ei ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau.  Felly, dylech chi ddarllen meini prawf pob swydd yn ofalus.

Meini prawf derbyn
Bydd y medrau a'r profiad mae'u eu hangen ar bob swyddog yn amrywio yn ôl ei ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau.  Felly, dylech chi ddarllen meini prawf pob swydd yn ofalus.  Ar gyfer rhai swyddi, bydd cyflogwyr yn mynnu cymwysterau hyd at lefel gradd neu brofiad cyfatebol.  Mae'r rhan fwyaf o gynghorau'n gwerthfawrogi ysgol profiad, ac efallai y bydd cyngor yn eich derbyn heb yr union gymwysterau roedd wedi'u mynnu, ar yr amod bod digon o brofiad a medrau perthnasol gyda chi.
Mae modd dechrau ym maes llywodraeth leol yn gynorthwywr gweinyddol a gorffen yn bennaeth gwasanaeth neu, hyd yn oed, yn brif weithredwr.

Hyfforddi a datblygu
Dewis arall yw astudio ar gyfer cymwysterau sy'n berthnasol i'ch adran - materion tai, adnoddau dynol neu faterion ariannol, er enghraifft.  Os ydych chi am fod yn uwch reolwr, gallech chi astudio ar gyfer cymhwyster Meistr Gweinyddu Busnes.

Medrau a gwybodaeth
I fod yn swyddog ym maes llywodraeth leol, mae angen:

  • medrau cyfathrebu ardderchog - ar lafar ac ar bapur fel ei gilydd; 
  • y gallu i drin a thrafod pobl o sawl lliw a llun; 
  • medrau negodi da; 
  • medrau trefnu da; 
  • ffordd resymegol o ddatrys problemau; 
  • y gallu i weithio'n fanwl gywir; 
  • y gallu i ddadansoddi a dehongli gwybodaeth; 
  • medrau rhifedd ar gyfer trin a thrafod ystadegau, anfonebau a chyllidebau.
     

Dolenni perthnasol