Swyddog polisïau

Cyflwyniad
Mae swyddogion polisïau'n helpu i reoli'r cyngor yn effeithiol trwy gymryd rhan ym mhroses llunio a chyflawni strategaethau, amcanion, polisïau a gweithdrefnau ledled y cyngor.  Maen nhw'n adolygu ac yn monitro strategaethau/gweithdrefnau cyfredol hefyd i ofalu eu bod yn gyson ar draws y cyngor.

Amgylchiadau'r gwaith
Yn y swyddfa y bydd y gwaith yn mynd rhagddo gan amlaf, er y gallai fod angen teithio i gyfarfodydd yn ardal y cyngor weithiau.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae swyddogion polisïau'n cydweithio'n agos â'r prif weithredwr, uwch swyddogion a chynghorwyr mewn prosiectau penodol.  Bydd y dyletswyddau'n amrywio yn ôl natur y cyngor a pha mor fawr yw uned llunio ei bolisïau.  Dyma orchwylion nodweddiadol:

  • ymchwilio'n fanwl i'r cyngor, ei bolisïau, ei arferion a'i weithdrefnau gan roi argymhellion gerbron y cynghorwyr a/neu'r prif weithredwr ynglŷn â materion o bwys a meysydd anodd;
  • pwyso a mesur effaith deddfau newydd y Deyrnas Gyfunol ac Undeb Ewrop ar y cyngor ac awgrymu sut dylai'r prif swyddogion a/neu'r cynghorwyr ateb gofynion a rhoi newidiadau ar waith;
  • cydweithio â phroffesiynolion eraill y cyngor wrth gynllunio'n strategol, llunio trefniadau rheoli ac ati;
  • rhoi cymorth i gynghorwyr, cynnal rhaglenni hyfforddi a gofalu bod pawb yn cydweithio trwy'r pwyllgorau a'r gweithgorau perthnasol;
  • gofalu bod gwasanaethau'r cyngor yn ymateb i anghenion y gymuned a bod materion cyfleoedd cyfartal yn hysbys;
  • meithrin a chynnal cysylltiadau â chyrff allanol megis asiantaethau datblygu rhanbarthol, siambrau masnach rhanbarthol a chymdeithasau tai;
  • cydlynu a hwyluso strategaeth y cyngor ar gyfer ymgynghori a chydweithio â'r gymuned gan ofalu bod polisïau a gwasanaethau'n cael eu cloriannu, eu llunio a'u hadolygu ar y cyd â defnyddwyr a mudiadau bro;
  • gallai swyddogion polisïau fod yn gyfrifol am strategaethau penodol y cyngor megis iechyd a diogelwch, hefyd.

Medrau a diddordebau
Y rhai hanfodol yw'r gallu i gyfathrebu â staff ar bob lefel, medrau trefnu a medrau dadansoddi.
 
Meini prawf derbyn
Er nad oes meini prawf statudol, mae gan y rhan fwyaf o swyddogion polisïau radd neu gymhwyster cyfwerth.  Mae graddau mewn pynciau megis gweinyddu cyhoeddus ac ymchwil gymdeithasol ac economaidd yn arbennig o berthnasol.  Rhaid deall byd llywodraeth leol yn dda - y drefn, y ffordd mae awdurdodau lleol yn gweithredu a'r prosesau gwleidyddol.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Dros y blynyddoedd diwethaf hyn, mae nifer y swyddogion polisïau yn y cynghorau wedi cynyddu.  Mae'n debyg y bydd y duedd honno'n parhau yn sgîl Rhaglen Gwella Cymru ac amryw ofynion eraill Llywodraeth Cymru.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Freiniol y Gweinyddwyr Busnes: www.charteredaba.org

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links