Swyddog budd-daliadau

Cyflwyniad
Mae rhai pobl ac iddyn nhw ond hyn a hyn o incwm yn cael manteisio ar gymorth ar ffurf budd-dal tai - arian fydd yn eu helpu i dalu'r rhent.  Mae'n bosibl y bydd pobl ac iddyn nhw incwm isel o'r fath yn rhydd rhag talu rhan o dreth y cyngor neu'r dreth i gyd.  Mae'r cynghorau'n gyfrifol am bennu a rhoi'r budd-daliadau ac, i wneud hynny, mae gyda nhw swyddogion a chynorthwywyr budd-daliadau neu 'swyddogion asesu budd-daliadau', fel y'u gelwir weithiau.

Yn y cynghorau dosbarth, bwrdeistref, unedol a dinasol y mae'r swyddogion hynny.

Amgylchiadau'r gwaith
Yn y swyddfa y bydd swyddogion budd-daliadau'n gweithio, naill ai ym mhencadlys y cyngor neu mewn adeiladau eraill lle mae adran y budd-daliadau.  Byddan nhw wrth eu cyfrifiaduron am y rhan fwyaf o'r dydd. Serch hynny, gallai fod angen ymweld â chartrefi rhai pobl sy'n hawlio budd-daliadau.  

Gweithgareddau beunyddiol
Mae swyddogion budd-daliadau'n rhoi gwybodaeth a chynghorion i drigolion ardal y cyngor am holl agweddau budd-dal tai a budd-dal treth y cyngor.  Efallai y byddan nhw'n gwneud hynny wyneb yn wyneb, trwy lythyr neu dros y ffôn.  Eu gorchwyl cyntaf yw esbonio'r rheolau ynglŷn â'r hawl i dderbyn budd-daliadau.

Maen nhw'n prosesu ceisiadau am fudd-daliadau, hefyd.  Rhaid i bobl sy'n gofyn am fudd-daliadau lenwi ffurflenni, gan roi manylion eu hamgylchiadau ariannol.  Bydd rhai hawlwyr - neu 'gwsmeriaid', fel y'u gelwir yn y cynghorau - yn gallu gwneud hynny'n hawdd.  Gallai fod angen cymorth ar eraill.  Dyletswydd swyddogion budd-daliadau yw gofalu bod pob cwestiwn yn y ffurflenni wedi'i ateb a helpu cwsmeriaid i'w llenwi lle bo angen.

Er eu bod yn ateb ymholiadau wrth y cownter, efallai y byddan nhw'n gwahodd pobl i ystafell gyfweld pan fo angen eu holi nhw.  Bydd rhai swyddogion yn ymweld â phobl yn eu cartrefi, hefyd (mae sawl cyngor yn cyflogi swyddogion ymweld i fynd i gartrefi hawlwyr pan fo angen rhagor o wybodaeth).

Wrth brosesu ffurflenni cais, rhaid i'r swyddogion gysylltu ag asiantaethau allanol i ofalu bod yr wybodaeth mae'r hawlwyr wedi'i rhoi yn gywir.  Ymhlith asiantaethau o'r fath bydd cyflogwyr - i gadarnhau cyflog yr hawliwr, Adran Nawdd Cymdeithasol San Steffan yn achos rhywun sydd heb waith ac yn hawlio budd-daliadau, a landlordiaid i gadarnhau'r rhent sydd i'w dalu.  Maen nhw'n defnyddio ffurflenni a llythyrau safonol wrth gyflwyno ymholiadau o'r fath.

Ar ôl casglu'r wybodaeth i gyd, byddan nhw'n pennu lefel y budd-daliadau sydd i'w rhoi a chofnodi'r manylion mewn sustem gyfrifiadurol.  Yn olaf, byddan nhw'n rhoi gwybod i'r hawlwyr faint o fudd-dal sy'n briodol.

Mae swyddogion budd-daliadau'n diweddaru manylion hawlwyr yn y sustem ac yn eu gwirio nhw yn rheolaidd.  Os daw i'r amlwg nad oes hawl i rywun dderbyn budd-dal mwyach, ac yntau'n cael ei dalu o hyd, fe fyddan nhw naill ai'n ymweld â'i gartref i esbonio sut dylai ad-dalu'r arian neu roi'r manylion i swyddog ymweld.

Os gwelan nhw dwyll ar unrhyw adeg, rhaid tynnu sylw'r rheolwr at hynny.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • rhifedd;
  • medrau cyfathrebu da;
  • gallu gweithio mewn tîm;
  • gwybod gofynion y gyfraith ynglŷn â budd-daliadau;
  • gallu dadansoddi gwybodaeth o amryw ffynonellau;
  • gallu trin a thrafod materion cymhleth yn gyfrinachol (gallai fod cywilydd ar rai cwsmeriaid am fod angen gofyn am fudd-daliadau, gallai ambell gwsmer fod yn gyndyn o ddatgelu gwybodaeth bersonol a gallai nifer o bobl fod yn elyniaethus);
  • natur drefnus;
  • gallu gweithio'n gyflym ac yn fanwl gywir;
  • gallu gweithio o dan bwysau.

Meini prawf ymgeisio
Er eu bod yn amrywio, bydd cynghorau'n mynnu o leiaf pedwar TGAU (A*-C) fel arfer, gan gynnwys Saesneg a mathemateg.  Fe fydd rhywbeth cyfwerth megis Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol a Thystysgrif Ganolradd Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol ym maes busnes, neu brofiad perthnasol, yn dderbyniol gan amlaf.

Bydd rhai cynghorau'n mynnu profiad o weithio mewn tîm gweinyddol/ariannol neu adran wasanaethau i gwsmeriaid yn y sector cyhoeddus neu wirfoddol, hefyd.

Mae'n well gan rai cynghorau benodi pobl sydd wedi defnyddio sustem gyfrifiadurol berthnasol megis Firstoftware Benefits.  Byddan nhw'n hyfforddi staff newydd yn ôl yr angen, fodd bynnag.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae gan y rhan fwyaf o gynghorau nifer o swyddogion budd-daliadau.  Mae cyfleoedd i arbenigo ynglŷn ag ymweld â hawlwyr neu asesu twyll.  Bydd yn bosibl ichi gael eich dyrchafu'n oruchwyliwr/arweinydd tîm a rheolwr budd-daliadau.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol. 

Related Links