Cynorthwywr materion tai

Cyflwyniad
Mae adrannau tai'n gyfrifol am reoli a chynnal/cadw tai'r cyngor.  Mae dyletswyddau amrywiol megis rhoi tai ar osod, casglu rhenti, gweithio gyda chymunedau er lles yr amgylchedd a datrys problemau lleol.  Mae rôl cynorthwywr materion tai'n bwysig iawn ymhlith staff y cyngor.  Gall y dyletswyddau amrywio o'r naill gyngor i'r llall - boed ymwneud â'r cyhoedd ar ystadau gan amlaf (os felly, cynorthwywr technegol materion tai fyddai'r enw, o bosibl, yn arbennig wrth drin a thrafod eu ceisiadau am atgyweiriadau) neu roi cymorth gweinyddol i staff materion tai'r cyngor.  Bydd nifer y staff yn dibynnu ar natur y cyngor yn ogystal â'r pwyslais ar faterion tai yn yr ardal a gallai'r tîm gynnwys rheolwyr cymdogaethau, swyddogion tai a staff clerigol.

Amgylchiadau'r gwaith
Gallech chi weithio mewn swyddfa ganolog neu gymdogaeth yn ôl natur eich cyngor.  Mae rhai gweithwyr yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser ar ystadau ond bydd eraill yn gweithio yn y swyddfa a'r gymuned fel ei gilydd.  37 awr yw'r wythnos safonol, gan gynnwys cyfle i weithio yn ôl oriau hyblyg ond, os ydych chi'n gweithio yn y gymuned, bydd peth gwaith y tu allan i oriau'r swyddfa.

Gweithgareddau beunyddiol
Cynorthwyo prif swyddog rhenti tai'r cyngor i gadw cyfrifon am renti, diweddaru sustem y rhenti a gofalu bod modd talu rhent trwy amryw ddulliau.  Helpu i gael dyledion cyn denantiaid.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

  • Gofalu bod data am ddechrau a gorffen tenantiaethau'n gywir cyn diweddaru'r wybodaeth trwy gyfrifiadur neu newid sustem y rhenti o gwbl.
  • Rheoli, cysoni a diweddaru cyfrifon y rhenti wythnosol i ofalu bod newidiadau, tai gwag a gwerthiannau wedi'u cofnodi bob wythnos.  Cynnal profion i ofalu bod yr arian a'r budd-daliadau sydd wedi'u derbyn yn cyd-fynd â'r rhenti.
  • Diweddaru cyfrifon unigol ynglŷn â thaliadau perthnasol sydd wedi'u hychwanegu neu eu dileu (megis yswiriant, trwyddedau teledu).
  • Gofalu bod modd talu rhent trwy amryw ddulliau megis cardiau rhenti, cardiau llithro, debyd uniongyrchol a gorchymyn banc fel y bo'n briodol.
  • Ysgwyddo cyfrifoldeb am brosesu a monitro taliadau debyd uniongyrchol yn ôl yr amserlenni perthnasol.  Cynghori tenantiaid am sustem y debydau uniongyrchol ac unrhyw anghysondebau o ran taliadau.  Cysylltu â swyddogion tai am y camau sydd wedi'u cymryd.
  • Archwilio cyfrifon rhenti gan gysylltu â thenantiaid, swyddogion tai, staff budd-daliadau tai, derbynyddion arian, banciau, cymdeithasau tai a Swyddfa'r Post.  Ymchwilio i unrhyw daliadau anghyson a'u cywiro.  Esbonio'r canfyddiadau a'r camau sydd wedi'u cymryd i'r tenantiaid.
  • Pennu dyledion cyn denantiaid a dod o hyd iddyn nhw ynglŷn â'u talu.  Profi bod dyledion, cynnal trafodaethau am ddyledion o'r fath a threfnu i unrhyw daliadau neu ad-daliadau fynd trwodd.  Monitro dyledion cyn denantiaid gan fynnu iddyn nhw eu talu yn ôl gweithdrefnau a thynnu sylw prif swyddog y materion tai at achosion cymhleth fel y gall gymryd camau priodol.
  • Ychwanegu costau llys at gyfrifon tai unigol yn ôl gorchmynion swyddogion tai.
  • Monitro cyfrifon rhenti i nodi credydau mawr.  Archwilio'r cyfrifon i brofi bod yno gredydau o'r fath.  Trefnu ad-daliad neu gysylltu ag adran arall i drosglwyddo'r arian er mwyn talu rhai o ddyledion eraill y cyngor.
  • Helpu prif swyddog y rhenti tai i gynnal gweithdrefn 'diwedd y flwyddyn' gan wirio cyfrifon cyn eu cau, paratoi adroddiadau o faint o arian sydd yn y cyfrifon ddiwedd y flwyddyn a threfnu i lythyrau am gynyddu rhenti/cardiau rhenti gael eu lledaenu.

Medrau a diddordebau
Bydd angen:

  • medrau trefnu gwaith - gallu cynllunio a blaenoriaethu'ch gwaith yn ôl targedau;
  • awydd i ddatrys problemau a rhoi gwasanaeth effeithlon a defnyddiol;
  • gallu gweithio o dan bwysau ac yn rhan o dîm;
  • bod yn ddigon hyblyg i allu trin a thrafod amryw orchwylion yr un pryd;
  • medrau cyfathrebu da trwy lythyr ac agwedd dda dros y ffôn wrth siarad â phobl o sawl lliw a llun megis y cyhoedd, cydweithwyr, contractwyr a chynghorwyr;
  • medrau rhifedd;
  • gallu trin a thrafod cyfrifiadur.

At hynny:

  • Lefel 3 Tystysgrif Genedlaethol Gyffredin/Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol neu gymhwyster cyfwerth, TGAU (A*-C) neu gymhwyster cyfwerth gan gynnwys mathemateg a Chymraeg/Saesneg;
  • profiad sylweddol o drin a thrafod cyfrifon;
  • gwybod gofynion y gyfraith ynglŷn â thai.

Medrau hanfodol

  • gallu trin a thrafod cyfrifiadur;
  • gallu ymdrin â phobl mewn modd effeithlon, cwrtais ac ystyriol;
  • agwedd hyblyg ynglŷn â gwaith ac oriau gwaith;
  • brwdfrydedd, cymhelliant a'r gallu i weithio o dan bwysau - o'ch pen a'ch pastwn eich hun ac yn rhan o dîm fel ei gilydd.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Breiniol Tai: www.cih.org
Asset Skills: www.assetskills.org

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links