Rheolwr gwella corfforaethol

Cyflwyniad
Mae gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol swyddogion polisi ac ansawdd sy'n gyfrifol am y defnydd o ymarfer gorau ledled y sefydliad. Mae Rheolwyr Gwella Corfforaethol yn chwarae rhan allweddol yn y broses hon ar lefel uwch. Yn aml, maen nhw wedi bod yn swyddogion gwerth gorau neu ansawdd sydd wedi cael dyrchafiad i swydd fwy strategol. Drwy gynllunio a rheoli ymrwymiad corfforaethol i wella'n barhaus, maen nhw'n cefnogi'r gyfarwyddiaeth i ysgwyddo ei goblygiadau statudol. Mae gwaith Rheolwr Gwella Corfforaethol ganolog i bob math o fentrau datblygu ansawdd mewn pob math o gynghorau.

Amgylchedd Waith
Mae'r gwaith ym mhrif swyddfeydd y Cyngor ac yn gwasanaethu'r holl gyfarwyddiaethau. Mewn rhai awdurdodau mae swydd y rheolwr swyddfa gweithredol yn y gyfarfwyddiaeth adnoddau.

Gweithgareddau Pob Dydd
Mae Rheolwyr Gwella Corfforaethol yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser mewn cyfarfodydd yn gweithio gyda strategwyr a grwpiau craidd i ddatblygu a gweithredu polisiau'r cyngor o ran egwyddorion gorau ymarferion gorau. Bydd hynny'n cynnwys cydlynu gyda rheolwyr o'r holl wasanaethau eraill - o addysg i hamdden - gan gasglu gwybodaeth ynghylch sut maen nhw'n gweithredu a pha trefniadau sydd wedi'u sefydlu i helpu gyfarfod â gweledigaeth a blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor. Gallai diwrnod nodweddiadol gynnwys gwaith ymchwil, casglu data, ysgrifennu adroddiadau, adborth llafar, dadansoddi a gwerthuso gwybodaeth - a'r cyfan yn cael ei gyflwyno i'r cyfarfod i'w drafod a'i weithredu. Mae rhan bwysig o'r cylch gorchwyn yn cynnwys marchnata a chysylltiadau cyhoeddus. Mae gwaith y rheolwr swyddfa gweithredol yn un allweddol i'r awdurdod allu gwella a chynnal ansawdd ei wasanaeth ac mae'n cynnwys ymgymryd â phrosiectau arbennig allweddol megis:

  • y cynllun perfformiad;
  • fframwaith rheoli perfformiad;
  • mentrau ansawdd strategol meigs ceisiadau marc siartr;
  • cynlluniau cynhwysedd cymdeithasol a chydraddoldeb cyfarwyddiaethau;
  • rheoli marchnata a chysylltiadau marchnata strategol;
  • systemau cyfathrebu mewnol;

Mae'n swydd sy'n gofyn am ddeallusrwydd ac mae iddi naws wleidyddol, mae'n gofyn am gydlynu gyda llawer o wahanol cydweithwyr ar draws y sbectrwm gyfan o waith y Cyngor a chydag aelodau etholedig.

Sgiliau a Diddordebau
I wneud y swydd hon yn iawn dylech fod yn gallu:

  • deall, dysgu a chymhathu cysyniadau newydd 
  • ysgrifennu'n greadigol ac yn rhesymegol gan ddefnyddio'r wybodaeth wrth law
  • meddwl yn ochrol a chanfod cysylltiadau nad ydynt bob amser yn amlwg
  • canfod ffyrdd o fodloni meini prawf sy'n ganolog i weledigaeth graidd y Cyngor
  • ymwneud â phobl ar bob lefel ac o wahanol gefndiroedd
  • bod yn aelod pwyllgor effeithiol
  • bod yn drafodwr da
  • dangos dawn ar gyfer marchnata a chysylltiadau cyhoeddus.

Gofynion Mynediad i'r Swydd
Gradd prifysgol a / neu gymhwyster ôl radd, profiad sylweddol a record dda ac amlwg yn hanfodol.

Rhagolygon a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol
Mae hwn yn faes sy'n tyfu ac mae'n cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd. Ar hyn o bryd, mae'r gofyn am y gwasanaethau y mae Rheolwr Gwella Corfforaethol yn gallu eu darparu'n fwy nag y gellir eu diwallu wrth i gynghorau ddod yn fwy atebol i'r cyhoedd. Mae'r rhagolygon am ddyrchafiad yn dda a'r cam nesaf i fyny fyddai swydd Pennaeth Polisi / Cynllunio Busnes a Pherfformiad, sy'n cynnwys hyd yn oed fwy o gyfrifoldebau strategol. Y prif swydd yw Cyfarwyddwr Gweithredol neu Uwch Swyddog / Strategydd Polisi. Y tu allan i awdurdod lleol mae cyfleoedd gyda phartneriaid strategol y Cyngor a darparwyr eraill y sector cyhoeddus neu gyda busnesau yn y sector preifat.

Gwybodaeth a Gwasanaethau Pellach
Sefydliad Siartredig Marchnata www.cim.co.uk
Sefydliad Cysylltiadau Cyhoeddus www.cipr.co.uk
Sefydliad Siartredig Reoli Gweinyddol www.instam.org
Sefydliad Rheoli Siartredig www.managers.org.uk

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links