Peiriannydd sifil

Cyflwyniad
Fel peiriannydd sifil, byddwch yn cynllunio, dylunio a rheoli prosiectau adeiladu.  Gall y rhain amrywio o rai cymharol fach, er enghraifft trwsio pontydd, i gynlluniau cenedlaethol mawr, megis adeiladu stadiwm newydd.  Mae angen i bob peiriannydd sifil gael dealltwriaeth o brosesau dylunio ac adeiladu yn ogystal â materion yn ymwneud ag iechyd a diogelwch.  Gallai'r swydd gynnwys arwain timau o beirianwyr eraill, efallai o sefydliadau neu gwmnïau eraill.

Amgylchedd Gwaith
Er mai mewn swyddfa y byddai'r gwaith yn bennaf, mae gofyn hefyd am weithio tu allan, gydag achosion rheolaidd o weithio mewn amgylcheddau anodd neu annymunol neu yn yr awyr agored. Er enghraifft: ymweliadau safle cyson â safleoedd adeilad.

Gweithgareddau Dyddiol

  • trafod y gofynion gyda'r cleient a phobl broffesiynol eraill (e.e. penseiri);
  • dadansoddi data arolwg, mapio a phrofi deunydd gyda meddalwedd modelu cyfrifiadurol;
  • creu glasbrintiau drwy ddefnyddio pecynnau cynllunio trwy gymorth cyfrifiadur (CAD);
  • rheoli newid, gan y gallai'r cleient newid ei feddwl am y dyluniad, a sicrhau bod pawb perthnasol yn cael gwybod am y newidiadau i'r prosiect;
  • barnu a yw prosiectau'n ymarferol drwy asesu anghenion deunydd, costau ac amser;
  • asesu effaith amgylcheddol a risg sy'n gysylltiedig â phrosiectau;
  • paratoi ceisiadau tendr, ac adrodd yn ôl i gleientiaid, asiantaethau cyhoeddus a chyrff cynllunio;
  • rheoli, cyfarwyddo a monitro cynnydd yn ystod pob gwedd unrhyw brosiect; 
  • monitro darparu deunydd;
  • cydgysylltu ag a chyfarwyddo gwaith isgontractwyr a gyflogir ar y prosiect;
  • sicrhau ansawdd pob crefftwaith;
  • delio â chwynion gan bobl leol sy'n cael eu haflonyddu gan y gwaith adeiladu;
  • sicrhau bod safleoedd yn cwrdd â chanllawiau chyfreithiol a gofynion iechyd a diogelwch.

Sgiliau a Diddordebau

  • sgiliau TG, mathemateg a gwyddoniaeth gwych;
  • gallu i egluro syniadau dylunio a chynlluniau yn eglur;
  • gallu i ddadansoddi llawer o ddata ac asesu datrysiadau;
  • gallu i wneud penderfyniadau yn hyderus;
  • sgiliau cyfathrebu gwych;
  • gallu i negodi'n effeithiol;
  • defnyddio profiad dylunio ac adeiladu safleoedd i werthuso mewnbwn technegol pobl eraill;
  • rheoli gwrthdaro er mwyn ei ddatrys yn dderbyniol;
  • ymrwymiad i ofal cwsmer;
  • sgiliau rheoli prosiect;
  • gallu i weithio o fewn cyllidebau a therfynau amser;
  • sgiliau cryf o ran gweithio mewn tîm.

Gofynion Mynediad
Gradd mewn Peirianneg Sifil neu bwnc cysylltiedig a phrofiad priodol mewn maes perthnasol.  Fel arall, gallech weithio tuag at ddod yn beiriannydd os ydych eisoes yn gweithio o fewn y diwydiant, er enghraifft, fel technegydd peirianyddol.  Drwy astudio rhan-amser neu tra'r ydych wrth eich gwaith am BTEC HNC/HND, gradd sylfaen neu radd, gallech gymhwyso maes o law.

Cyfleoedd a Rhagolygon ar gyfer y Dyfodol
Fel arfer, byddwch yn cychwyn eich bywyd proffesiynol fel peiriannydd sifil ar gynllun hyfforddiant i raddedigion. Mae'r math hwn o gynllun yn rhoi cyfle i chi fod yn rhan o brosiectau o dan oruchwyliaeth mentor, ac fe'u cynlluniwyd i ddatblygu'ch gwybodaeth dechnegol a sgiliau busnes. Dros amser, byddech yn cael mwy o gyfrifoldebau. Yn aml bydd cynlluniau hyfforddi'n para rhwng blwyddyn a dwy flynedd.

Gallech roi hwb i ddatblygiad eich gyrfa drwy weithio tuag at statws corfforedig neu siartredig. I wneud hyn, dylech gofrestru gyda chorff proffesiynol y diwydiant a gwneud cais i'r Cyngor Peirianneg.  Mae cadw cydbwysedd rhwng amcanion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, nawr ac yn y dyfodol, wedi dod i gael ei adnabod fel datblygiad cynaliadwy ac yn fwy a mwy cyffredin, mae hyn yn llywio newid sefydliadol.

Gwasanaethau a Gwybodaeth Bellach
Civil Engineering Contractors Association www.ceca.co.uk
Institution of Civil Engineers www.ice.org.uk

Gallwch gael gwybodaeth bellach ar y maes gwaith hwn drwy Gyrfa Cymru (www.gyrfacymru.com) neu yn eich llyfrgell leol, y swyddfa yrfaoedd neu lyfrgell yrfaoedd eich ysgol.

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/ ac adeiladu: https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-adeiladu/

Related Links