Cyflwyniad
Yn ôl y diwydiannwr, Henry Ford, lol yw ymarfer corff. Os
ydych chi'n iach, does dim rhaid i chi: os ydych chi'n wael,
peidiwch. Mae'n anodd gweld y byddai llawer o bobl yn cydweld
â hynny heddiw. Mae'n ffasiynol bod yn ffit. Mae yna
ddigonedd o glybiau iechyd a ffitrwydd ac mae cynghori ar iechyd yn
ddiwydiant mawr. Fel y dywedodd yr athronydd Rhufeinig "cyn
belled â'ch bod yn fyw, daliwch ati i ddysgu sut i fyw".
Mae pob math o awdurdodau lleol yn darparu llawer o wasanaethau
hamdden a chwarae i'r cyhoedd eu mwynhau: canolfannau croeso,
amgueddfeydd, orielau celf a chanolfannau chwaraeon a
hamdden. Mae gan y canolfannau hamdden hyfforddwyr ffitrwydd
sydd wedi'u hyfforddi i helpu pobl i fyw bywydau iachach.
Gall teitlau eu swyddi amrywio o Hyfforddwr Iechyd a Ffitrwydd i
Ymgynghorydd Iechyd a Ffitrwydd.
Amgylchedd Waith
Mae'r gwaith yn bennaf mewn campfa neu bwll nofio lle mae
hyfforddwyr yn helpu pobl o bob oedran a gallu i ddilyn y
gweithgareddau y maen nhw'n eu dewis ac i gyrraedd nodau
realistig. Gall fod yn swnllyd ac yn brysur ac mae gofyn bod
ar wyliadwriaeth bob amser. Mae'n rhaid rhwystro nofwyr
a defnyddwyr y gampfa rhag mynd i drafferthion. Mae
wythnos waith safonol yn un 37 awr ond mae hyn yn gallu amrywio yn
ôl sesiynau a gallai fod yn rhaid gweithio oriau anghymdeithasol
(gan gynnwys ar benwythnosau a gyda'r nosau). Mae yna hefyd
nifer o oriau ad hoc ar gael mewn gwahanol ddosbarthiadau.
Gweithgareddau Pob Dydd
Gall hyfforddwyr arolygu sesiynau o unrhyw beth i ymarfer i
gerddoriaeth i ymlacio a rheoli stres. Mae rhai hyfforddwyr
yn arbenigo mewn dim ond un neu ddau o weithgareddau. Wrth i
gleientiaid ddyrnu arni ar y felin draed, beicio'n orffwyll heb
gyrraedd unlle neu ymlafnio gyda phwysau enfawr, maen nhw'n gwybod
eu bod mewn dwylo diogel. Mae gan hyfforddwyr ffitrwydd sydd
wedi'u hyfforddi'n iawn wybodaeth feddygol sylfaenol ac maen nhw'n
gwybod sut i ymdrin â chleientiaid heb fod yn y cyflwr corfforol
gorau - gan gynnwys peryglon bod dros eu pwysau. Gyda'r
addysg a'r hyfforddiant priodol, gellid gofyn i hyfforddwyr:
- Gymryd apwyntiadau ac asesiadau cychwynnol.
- Gymryd sesiynau sefydlu i gleientiaid newydd.
- Paratoi rhaglenni ymarfer unigol.
- Cynnal gwiriadau canol a diwedd sesiynau.
- Sicrhau fod offer yn gweithio'n iawn ac yn
ddiogel.
- Cynnal asesiadau ffitrwydd.
- Cynnig cyngor ar ddiet.
- Arolygu'r gampfa.
- Gofalu am ddyddiadur / ffeil y ganolfan.
- Rhannu a chasglu taflenni adborth a'u crynhoi.
- Cynnig cyngor ar addasiadau posibl ar raglenni hyfforddi
cleientiaid, sicrhau amrywiaeth a'u bod yn parhau ar y
cwrs.
- Cynnig anogaeth / heriau i gadw diddordeb
defnyddwyr.
- Monitro'r rhai sy'n gadael a'r rhai sy'n cwblhau'r cwrs a
chyflwyno'r canlyniadau i'r Swyddog Ffitrwydd Cymunedol / Rheolwr y
Ganolfan Hamdden.
Sgiliau a Diddordebau
I wneud y swydd hon yn dda, bydd yn rhaid i chi fod ag:
- Egni.
- Cyfansoddiad iach.
- Agwedd aeddfed, gyfrifol a bod yn gallu ysbrydoli a
chydymdeimlo.
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog.
- Peth gallu chwaraeon.
Mae hefyd yn ddymunol bod â gwybodaeth am bobl 'heb fod yn y
cyflwr gorau', deuddeg mis o brofiad o waith ymarferol gyda
gwahanol boblogaethau annodweddiadol, gwybodaeth feddygol sylfaenol
(arthritis, afiechyd coronaidd y galon, clefyd siwgr) a phrofiad o
brofi ffitrwydd.
Cymwysterau Mynediad i'r Swydd
Mae'n rhaid bod â:
- Chymhwyster ffitrwydd e.e. IRSM / cymhwyster hyfforddi
perthnasol.
Byddai hefyd yn ddefnyddiol bod ag ymwybyddiaeth o, ac yn
gweithio i gael, aelodaeth o'r Gymdeithas Diwydiant Ffitrwydd
(FIA). Sefydliad masnachol yw hwn yn cynrychioli'r rhai sy'n
rhedeg clybiau iechyd a ffitrwydd. Mae'n rhaid i aelodau o'r
FIA gadw at gôd ymarfer sy'n hyrwyddo safonau, ansawdd a lles y
cwsmer. Mae'r gymdeithas wedi cymryd drosodd y gofrestr o
broffesynolion ymarfer a ffitrwydd sy'n cynnwys manylion o
hyfforddwyr 'cymeradwy'. Mae hefyd yn ddymunol cael:
- Cymhwyster hyfforddwr personol.
- Cymhwyster cymorth cyntaf.
- Tystysgrif (neu uwch) y Gymdeithas Addysg
Gorfforol.
- Cymhwyster cydnabyddedig mewn cwnsela ymarfer ac asesu
ffitrwydd.
Rhagolygon a chyfleoedd ar gyfer y
dyfodol
Mae'r diwydiant iechyd a ffitrwydd yn faes sy'n tyfu ac mae yna
lawer o gyfleoedd i weithio mewn gwahanol arbenigeddau drwy gael
rhagor o gymwysterau. Mae yna hefyd swyddi gweinyddol megis
Rheolwr Hamdden a Rheolwr Adnodd Chwaraeon.
Mae nifer o westai mawr a chanolfannau hamdden preifat yn cyflogi
hyfforddwyr ffitrwydd ac mae'r cyflog weithiau'n well nag mewn
llywodraeth leol ond y gwaith yn aml yn llai amrywiol.
Gwybodaeth a Gwasanaethau Pellach
Chwaraeon Cymru www.sportwales.org.uk
Cymdeithas Athrawon Nofio www.sta.co.uk
Fitness Industry Association www.fia.org.uk/
Iechyd a Ffitrwydd Oes www.lifetimehf.co.uk
Recreation Management magazine www.recmanagement.com
Sefydliad Siartredig Rheoli Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol www.cimspa.co.uk/
SkillsActive www.skillsactive.com
Y Sefydliad dros Hamdden a Rheoli Amwynder
www.infomat.net/infomat/rd_staffroom/rd1/database/ilam/index.asp
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.