Cyflwyniad
A chithau'n swyddog gwybodaeth yn adran gwasanaethau hamdden
awdurdod lleol, eich rôl fyddai gofalu bod pobl - y wasg, y
cyfryngau, y cyhoedd a gweithwyr eraill y cyngor - yn gwybod am
waith yr adran ac yn ymateb yn gadarnhaol iddo. Mewn rhai
cynghorau, mae'r swydd yn ymwneud â deunyddiau marchnata ac mewn
eraill mae'n canolbwyntio ar gysylltiadau â'r wasg a'r
cyhoedd. Mewn rhai, mae'n ymwneud â'r ddau. Felly,
gallai'ch swydd gynnwys y canlynol neu elfennau ohono:
- cynnal ymchwil a llunio deunyddiau marchnata;
- rhoi gwybodaeth dros y ffôn, trwy ffacs a thrwy'r we;
- ateb ymholiadau'r cyfryngau, y cyhoedd, staff y cyngor neu
gynghorwyr;
- cyflwyno straeon i bapurau newydd, cylchgronau, teledu a'r
radio;
- meithrin perthynas dda â newyddiadurwyr fel y gallwch chi
gysylltu â'r un iawn ar yr adeg iawn i gael y canlyniad gorau.
Gan fod y cyfryngau'n fwyfwy pwysig yn ein cymdeithas ni
bellach, mae mwy a mwy o bwyslais ar adroddiadau'r wasg a
gwybodaeth gyhoeddus. Felly, mae adrannau hysbysu, marchnata
a chyhoeddusrwydd ar gynnydd, hefyd. Mewn rhai cynghorau,
gelwir swyddogion gwybodaeth adrannau gwasanaethau hamdden yn
'swyddogion marchnata', 'swyddogion y wasg a chysylltiadau
cyhoeddus' neu unrhyw gyfuniad o'r rheiny megis 'swyddog materion y
wasg' neu 'swyddog cysylltiadau cyhoeddus'.
Amgylchiadau'r gwaith
Yn y swyddfa mae swyddogion gwybodaeth yn gweithio ond, lle mae'u
gwaith nhw'n ymwneud â chysylltiadau cyhoeddus neu'r wasg, efallai
y byddan nhw mynd allan i gwrdd â newyddiadurwyr yn ogystal â
threulio amser yn yr achlysuron maen nhw'n eu hyrwyddo. Ym
myd llywodraeth leol, mae'r rhan fwyaf o swyddogion gwybodaeth yn
gweithio yn ôl oriau wythnosol safonol (37 awr) er y gallai fod
peth gwaith y tu allan i'r oriau hynny pan fo angen cadw at
amserlen neu fynd i achlysur gyda'r nos neu dros y Sul.
Gweithgareddau beunyddiol
A chithau'n swyddog gwybodaeth, byddech chi'n rhan o dîm ar
gyfer:
- cyfleu gwybodaeth am wasanaethau'r adran a/neu ofalu bod yr
adran yn hysbys ymhlith y cyhoedd - boed yn genedlaethol, yn lleol
neu'r ddau - fel y bydd yr wybodaeth briodol ar gael i'r cyhoedd
a'r cyfryngau;
- gallai fod angen bod yn rhagweithredol:
o casglu gwybodaeth am achlysuron, atyniadau a gwaith adran y
gwasanaethau hamdden;
-
- llunio datganiadau i'r wasg a/neu ddeunyddiau marchnata - gan
gynnwys ffynonellau gwybodaeth aml eu cyfryngau, o bosibl;
- llunio cylchlythyrau mewnol;
- gofyn am sêl bendith cyn eu cyhoeddi;
- eu hanfon at newyddiadurwyr a phobl eraill ar eich rhestr
bostio;
- ffonio newyddiadurwyr i weld a fydd stori o ddiddordeb iddyn
nhw;
- anfon gwybodaeth ddilynol;
- trefnu sesiynau tynnu lluniau, cyfweliadau ac achlysuron
lansio;
- darllen papurau newydd a chylchgronau a chasglu pigion o'r wasg
i ddangos ble mae'ch straeon wedi'u cyhoeddi;
- neu'n adweithiol:
-
- ymateb i geisiadau'r wasg, y cyhoedd a'r cyngor am
wybodaeth;
- gwirio ffeithiau ac ystadegau (ar gais cydweithwyr, er
enghraifft).
Efallai y byddwch chi'n ymwneud â chynnal ymchwil i gytundebau
newydd a ffonio papurau newydd, cylchgronau, sianeli teledu a radio
i ddod o hyd i'r ddolen gyswllt fwyaf priodol a meithrin perthynas
â nhw. Yn ôl pob tebyg, bydd rhaid ichi weithio yn ôl
amserlenni mewnol (yn yr adran, pan fo rhywbeth ar fin digwydd, er
enghraifft) ac allanol pan fo deunydd ar fin cael ei gyhoeddi neu
raglen ar fin cael ei darlledu. Wrth drefnu achlysur, efallai
y byddwch chi'n gyfrifol am ddod o hyd i fan addas a chadw lle
ynddo yn ogystal â chael hyd i enwogion a gofalu bod lluniaeth ar
gael. Yn ystod yr achlysur, gallai fod rhaid ichi ofalu am y
wasg, y ffotograffwyr a'r pwysigion.
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:
- manwl gywirdeb - dylai gwybodaeth fod yn gywir;
- medrau cyfathrebu da ar lafar ac ar bapur fel ei gilydd - rhaid
cael hanfod y stori a chyfleu'r ffeithiau'n eglur (wrth drin a
thrafod y cyfryngau, rhaid ennyn diddordeb newyddiadurwr yn gyflym
fel y bydd am ddefnyddio'ch stori chi);
- gallu cydbwyso amryw orchwylion yr un pryd;
- gallu gweithio o dan bwysau a bod yn fodlon cadw at
amserlenni;
- cymeriad rhadlon;
- dyfalbarhad - i ofalu y bydd eich neges yn cael ei
chyfleu.
Meini prawf derbyn
Mae amryw lwybrau at y swydd hon. Gallai Cymhwyster
Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol 'Astudiaethau'r Cyfryngau'
fod yn ddefnyddiol, yn ogystal â chymwysterau Cyngor Addysg Busnes
a Thechnoleg megis diploma neu dystysgrif ym maes busnes a chyllid
ynghyd â marchnata. Mae prifysgolion yn cynnig nifer o
gyrsiau gradd megis cysylltiadau cyhoeddus, marchnata neu
astudiaethau'r cyfryngau. Ar ben hynny, mae diplomâu i
ôl-raddedigion a graddau meistr ym meysydd marchnata a
chysylltiadau cyhoeddus. Ar ôl eich penodi, gallwch chi
astudio ar gyfer cymwysterau proffesiynol Sefydliad Addysg
Cyfathrebu, Hysbysebu a Marchnata neu Sefydliad Breiniol
Marchnata.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae nifer y swyddogion gwybodaeth yn amrywio'n sylweddol yn ôl pa
mor fawr yw'r awdurdod lleol ac mae cymaint o amrywio ynglŷn ag
enw'r swydd, hefyd. Efallai y bydd modd cael eich dyrchafu'n
rheolwr yn eich adran ac, yn y pen draw, cyrraedd swydd y
cyfarwyddwr. Gallech chi symud i awdurdod arall am
ddyrchafiad, hefyd. Mae swyddi cyffelyb y tu allan i fyd
llywodraeth leol, mewn cwmnïau masnachol, er enghraifft.
Gallai rolau marchnata a hysbysebu fod o ddiddordeb, hefyd.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Breiniol Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol: www.cimspa.co.uk/
Sefydliad Breiniol Marchnata: www.cim.co.uk
Sefydliad Addysg Cyfathrebu, Hysbysebu a Marchnata: www.camfoundation.com
Cymdeithas Diwydiant Ffitrwydd: www.fia.org.uk/
Sefydliad Rheoli Hamdden ac Amwynderau:
www.infomat.net/infomat/rd_staffroom/rd1/database/ilam/index.asp
Lifetime Health & Fitness www.lifetimehf.co.uk
Cylchgrawn 'Recreation Management': www.recmanagement.com
SkillsActive www.skillsactive.com
Chwaraeon Cymru: www.sportwales.org.uk
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.